Croesi dau gyfandir mewn car trydan i gefnogi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Scott Young, Walter Pennell, Nick Smith a Huw Walters gyda'r carFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o’r llun,

Mae Scott Young, Walter Pennell, Nick Smith a Huw Walters yn gobeithio cyrraedd Qatar mewn pryd ar gyfer gêm gyntaf Cymru

Fe fyddai gyrru 5,000 milltir o Gymru i gystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar yn her ynddi'i hun i nifer o gefnogwyr pêl-droed.

Ond mae criw o ddilynwyr pybyr yn mentro ar y daith mewn car trydan.

Ac fe fyddan nhw'n croesi eu bysedd y byddan nhw'n cyrraedd mewn pryd i weld gêm gynta'r tîm cenedlaethol, gan nad ydyn nhw'n gwybod eto ymhle y byddan nhw'n gallu gwefru'r cerbyd.

Mae'n nhw'n herio'u hunain i wneud y daith oherwydd "cariad at bêl-droed a'r newid 'dan ni'n disgwyl y bydd ceir trydan yn ei gyflawni i bobl ac i'r blaned."

Mae antur cyn-chwaraewr Dinas Caerdydd Scott Young, ynghyd â Nick Smith, Huw Talfryn Walters a Walter Pennell wedi ei galw yn 'Car Trydan i Qatar'.

A fydd modd gwefru'r car?

Fe fydd y pedwar yn gadael o bencadlys Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yng Ngwesty'r Vale yn Hensol, Bro Morgannwg yn eu MG4, sydd wedi cael ei lysenwi'n Morris, ar 28 Hydref.

Dim ond ar drydan y mae Morris yn rhedeg, felly yr her fawr fydd dod o hyd i ddigon o safleoedd i'w wefru ar hyd y ffordd.

Bydd cymal cynta'r daith yn mynd â nhw drwy Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, y Swistir, yr Eidal, Awstria, Slofenia a Chroatia cyn cyrraedd Gwlad Groeg.

Bydd llong wedyn yn cludo'r car o Athen i Israel. Bydd yn parhau ar ei daith drwy Wlad yr Iorddonen a Saudi Arabia, gan anelu at gyrraedd Qatar ar 18 Tachwedd.

Mae gêm gyntaf Cymru ar 21 Tachwedd.

Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Huw a'r criw groesi anialwch Saudi Arabia heb wybod ble gallan nhw wefru'r car

"Yr her fwya' fydd dod o hyd i ddigon o lefydd i chargo'r car lan," meddai Huw Talfryn Walters. "Mae'n mynd i fod yn iawn tra'n bod ni'n croesi Ewrop, ond unwaith 'dan ni'n cyrraedd y Balkans fydd e bach mwy anodd.

"Mae 'na un lle yn Saudi ble byddwn ni'n iawn - yn y ddinas fawr 'ma maen nhw'n ei adeiladu, Neom, sy' fod yn wyrdd i gyd. Mi fydd 'na bwynt chargo yn fanno, ond fel arall 'dan ni ddim yn gwybod am unrhyw le."

Dinas sydd yn cael ei hadeiladu yn anialwch Saudi Arabia yw Neom, fel rhan o gynllun i droi'r wlad oddi wrth olew.

Ffynhonnell y llun, Neom.com
Disgrifiad o’r llun,

Mae hysbyseb Neom yn addo y bydd y ddinas fel maes chwarae eco-gyfeillgar

Ond mae gan y criw filltiroedd o deithio cyn cyrraedd yr anialwch. Roedden nhw'n cychwyn am 06:00 y bore ar 28 Hydref ac yn anelu at gyrraedd Qatar cyn gêm grŵp dyngedfennol Cymru yn erbyn yr UDA ar 21 Tachwedd.

Mae rhai o'u cyfeillion yn amheus a fyddan nhw'n cyrraedd mewn pryd.

"Mae Gareth Bale wedi bod yn y car ac oedd e'n methu coelio be 'dan ni'n mynd i'w wneud," meddai Huw Talfryn Walters.

"Dyw e ddim yn dweud lot fel arfer. Ddeudodd e 'mae'n rhaid bod chi'n wallgo!'

"Ond mae e'n cefnogi ni. Mae e'n ffan o geir 'lectric hefyd."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

A fydd y criw yn cyrraedd mewn pryd i wylio Gareth Bale yn arwain y tîm yng Nghwpan y Byd?

Cariad at bêl-droed a chefnogi'r newid maen nhw'n disgwyl y bydd ceir trydan yn ei gyflawni i bobl ac i'r blaned sy'n eu hysbrydoli.

"Ma' 'da ni hyder yn y car ac y'n ni'n barod am y sialens," meddai Nick Smith. "Fe fydd 'na bumps yn y ffordd, dwi'n siŵr, ond ma' 'da ni loads o gefnogaeth. A fedrwn ni ddim aros i gyrraedd Qatar ac ymuno â'r ffans eraill i gefnogi Cymru yn eu Cwpan Byd cyntaf ers 64 mlynedd.

"Os gall Cymru gyrraedd Cwpan y Byd yn erbyn y ffactore, fedrwn ninnau hefyd."

Fe fydd y gyrwyr yn casglu negeseuon o gefnogaeth i'r tîm pêl-droed ar eu ffordd, a'u cyflwyno iddyn nhw ar ôl cyrraedd Qatar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr UDA yn Stadiwm Al Rayyan ar 21 Tachwedd

Fe fydd y daith yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen deledu, gyda rhannau yn cael ei chyhoeddi ar wefan y grŵp ar y ffordd.

"Fyddwn ni'n anelu'n syth am Dwnel y Sianel ar ôl cychwyn," meddai Huw Talfryn Walters. "Ar ôl i ni gyrraedd Ffrainc, fyddwn ni'n mynd i Metz i dalu teyrnged i'r milwyr Cymreig sy' wedi eu claddu yno.

"Wedyn ymlaen i'r Swistir ar gyfer cyfarfod efo UEFA yn Geneva.

"Y Stelvio Pass yn yr Alpau ar ôl hynny, lle mae'r seiclwyr yn mynd drosto yn y Giro d'Italia - bydd hynny'n testo'r car.

"Ond fydd hi ddim yn bosib i ni ddreifo drwy Iraq a llefydd fel'na, felly fydd raid ni roi'r car ar long o Athen, a fydd e'n cymryd tri diwrnod i gyrraedd Israel tra byddwn ni'n hedfan yno."

O hynny ymlaen, fe fyddan nhw'n teithio drwy'r anialwch - y rhan mae Huw, sy'n ddyn camera, yn edrych ymlaen fwyaf iddo.

"Dwi wedi bod yn Kuwait flynydde'n ôl i wneud rhaglen i S4C, a dwi 'di bod i Dubai. Fydd y golygfeydd [yn yr anialwch] yn hollol wahanol i unrhyw beth arall."

Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o’r llun,

Er bod ganddo brofiad o weithio dramor bydd ffilmio yn yr anialwch "yn hollol wahanol" meddai Huw Talfryn Walters

Dywedodd Neil Mooney, prif weithredwr CBDC, fod y siwrnai'n cynrychioli "popeth sydd yn dda" ynglŷn â Chymru, ac yn gydnaws â strategaeth cynaliadwyedd newydd y gymdeithas, Cymru, Wellbeing & the World.

"Fe fyddwn ni'n cysylltu gyda'r criw bob dydd i wneud yn siŵr eu bod ar y ffordd iawn i Doha a'u bod wedi dod o hyd i soced," meddai.

"Fedran ni ddim disgwyl i'w cyfarfod nhw y pen arall cyn i ni wynebu'r UDA yn ei gêm agoriadol ar 21 Tachwedd."