Ateb y Galw: Hywel Pitts
- Cyhoeddwyd
Hywel Pitts o Lanberis sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Mared Llywelyn wythnos ddiwethaf.
Mae Hywel yn gerddor ac yn ddigrifwr sydd wedi bod yn perfformio caneuon dychanol ers 2012. Mae o'n aelod o griw Cabarela ac o'r band I Fight Lions, ac yn cyd-gyflwyno'r podlediad Podpeth.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mam yn canu Tri o'r Gloch y Bore gan Sobin a'r Smaeliaid. Does 'na'm delwedd yn fy mhen i gyd-fynd efo'r atgof, felly dw i'n cymryd mai trio fy suo i gysgu oedd hi. Fwy na thebyg am dri o'r gloch y bore.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llanberis, oherwydd pa mor hurt o ddel 'di'r lle, a'r holl atgofion sydd gen i o dyfu i fyny yn y pentref.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson fy mhriodas. Mi fuon ni'n ffodus iawn achos mi godwyd y cyfyngiadau Covid 'chydig ddiwrnodau cyn y diwrnod mawr, oedd yn golygu bod pawb yn gallu bod yno efo ni ar ôl yr holl ansicrwydd. Fel y gallwch chi ddychmygu, roedd 'na hwyliau da iawn ar bawb achos roedd o'r parti cyntaf i bawb fod iddo fo mewn bron i ddwy flynedd. Llond ystafell o bobl o'n i'n eu caru, yn dathlu'r ffaith 'mod i newydd briodi'r hogan o'n i'n ei charu - mae hi'n anodd curo honno fel noson orau, a 'swn i'm yn newid dim byd amdani. Heblaw am y ddawns gyntaf…
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Boi digon clên.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Ychydig ddyddiau ar ôl perfformiad eiconig Dafydd Iwan o 'Yma o Hyd' yn y gêm rhwng Cymru ac Awstria, roedden ni ar stag-dw fy mrawd yng Nghaerdydd. Roedden ni wedi bod yn brysur yn mwynhau ein hunain drwy'r dydd ac, i ddod â'r noson i ben mewn steil, roedden ni wedi llogi bwth carioci mewn clwb nos nid anenwog.
Felly, dyma ni'n cyrraedd - criw mawr o ddynion yn ein tridegau yn bennaf, ac yn ein plith oedd Dad. Wrth i ni ymlwybro drwy'r goleuadau disgo tua'r bwth, pwyntiodd y DJ at fy nhad a dweud, It's him, isn't it?. Roedd o'n meddwl mae Dafydd Iwan oedd o! Roedd Dad yn gandryll, achos mae o rhyw ugain mlynedd yn iau na DI. Nath o'm cywiro nhw chwaith, a nath o'm talu am ddiod drwy'r nos.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Y ddawns gyntaf yn fy mhriodas. Mae Elin (fy ngwraig) yn ffan mawr o Friends, ac roedd hi 'di cael y syniad yn ei phen y dylsen ni wneud The Routine ddawnsiodd Monica a Ross ar y rhaglen. Gormod o win, dim digon o bracdis - o'n i'n dawnsio fel Tony Adams ar Strictly.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ddoe, yn gwylio adfyrt dolig.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dw i'n treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol; a dw i'n un drwg am glicio ar bethau dw i'n gwybod sydd am fy nghorddi. "Dew, ma'r Parc Cenedlaethol wedi penderfynu defnyddio enwau Cymraeg yn unig ar Eryri a'r Wyddfa! S'gwn i be s'gen 'BrexitBrian88' i ddweud am y peth?"
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Wcw. Mae o i'w weld yn dipyn o dderyn efo'i siaced ledr a'i fohican. Dwi'n siŵr y bysa ganddo fo dipyn i'w ddweud am y byd sydd ohoni, a digonadd o straeon jiwsi am ei helyntion o a Martyn Geraint slawar dydd.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr ar hyn o bryd ydi The Etymologicon gan Mark Forsyth. Mae o'n edrych ar y cysylltiadau boncyrs rhwng geiriau Saesneg a sut mae'r iaith 'di esblygu, mewn ffordd hwyliog a doniol. Mi faswn i wrth fy modd yn gweld awdur neu ieithydd yn mynd ati i sgwennu llyfr tebyg am yr iaith Gymraeg.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Y llun yma 'di'r cefndir ar fy ffôn ar hyn o bryd - fy ngwraig a fy nghath. Mae'n braf cael fy atgoffa o bwy sydd adra'n disgwyl amdana i pan dw i allan yn gigio.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n gefnder i Maggi Noggi.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael trefn ar fy mhethau - creu llai o drafferth i bobl ar ôl i mi fynd. Wedyn yfed gwin hefo'r rheini dw i'n eu caru, hel atgofion, ella cael sing-song bach.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bob Mortimer.
Hefyd o ddiddordeb: