Apêl frys i wella llwybrau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dynes o'r cefn ar lwybr gyda llysdyfiant uchelFfynhonnell y llun, Ramblers Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae hanner llwybrau Cymru yn amhosib i'w tramwyo, medd Ramblers Cymru

Mae elusen gerdded fwyaf Cymru wedi lansio apêl frys i wella cyflwr llwybrau.

Yn ôl Ramblers Cymru, cerdded ydy ymarfer corfforol mwyaf poblogaidd y genedl, gyda 60% yn cerdded fel gweithgaredd hamdden a 25% fel modd o deithio.

Ond maen nhw'n dweud nad yw sefyllfa llwybrau Cymru yn adlewyrchu hynny, gydag oddeutu eu hanner mewn cyflwr rhy wael i'w defnyddio.

Maen nhw wedi lansio apêl i geisio gwella llwybrau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid teg ar eu cyfer.

'Miliynau yn mwynhau cerdded'

Dywedodd yr elusen fod rhwydwaith llwybrau Cymru dros 20,000 o filltiroedd o hyd ac yn croesi tirwedd mor amrywiol â mynyddoedd, rhostir, clogwyni, tir comin, caeau a chyrion trefi.

Maen nhw'n amcangyfri fod miliynau o bobl yn mwynhau cerdded yng Nghymru, ac yn defnyddio'r llwybrau i fod mewn cyswllt â natur ac a'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Andrea Massey
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyswllt a natur o fudd i bobl ond mewn rhai ardaloedd does dim modd cerdded y llwybrau

Ond maen nhw'n poeni fod iechyd a lles pobl ddim yn elwa am bod oddeutu 50% o lwybrau Cymru yn amhosib i'w defnyddio.

Dywedodd eu llefarydd Brân Devey ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fod y sefyllfa'n wael iawn: "Da ni'n gwybod fod lot o bobl wedi mynd allan i gerdded yn ystod y cyfnod clo. Un o'r trafferthion oedd bod pobl ddim yn gwybod lle i fynd am bod ansawdd y llwybrau mor wael.

"Ti'n methu gweld wyt ti'n gallu cario 'mlaen ar y llwybr, mae lot o arwyddion ar goll a mae gordyfiant.

"Yn gyffredinol mae lot o'n llwybrau bron â cael eu colli am eu bod nhw ddim yn cael eu cynnal a'u cadw".

Ffynhonnell y llun, Ramblers Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Diffyg buddsoddiad yw un o'r prif resymau am y dirywiad mewn llwybrau medd Ramblers Cymru

Oherwydd y sefyllfa, mae Ramblers Cymru wedi lansio apêl cyllido torfol ar gyfer gwella'r llwybrau, ac yn galw am gefnogaeth gan y cyhoedd.

Gyda phwyslais ar ba mor allweddol yw mynediad at natur i iechyd a lles, maen nhw hefyd yn parhau i ofyn i Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid teg ar gyfer y rhwydwaith llwybrau.

Dywedodd eu cyfarwyddwr Angela Charlton: "Ein llwybrau yw'r pyrth i'n cymunedau, maent yn ein helpu i gadw'n heini ac yn iach ac yn cysylltu â'n mannau gwyrdd a'n natur.

"Yn anffodus, yn aml maen nhw'n cael eu tanbrisio a ddim yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae diffyg buddsoddiad a gofal yn ei gwneud hi'n amhosib i lawer ohonyn nhw gael eu defnyddio.

Ffynhonnell y llun, Ramblers Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn pryderu y gallai llwbryau gael eu colli yn barhaol oni bai bod gwaith cynnal a chadw'n cael ei wneud

"Yn Ramblers Cymru rydyn ni eisiau bod yn rhan o'r ateb. Mae ein timau cynnal a chadw llwybrau anhygoel a phrosiect Llwybrau i Lesiant sy'n gweithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau amgylcheddol yn gwneud gwahaniaeth, ond mae angen cefnogaeth y cyhoedd i wneud mwy, fel nad ydym yn colli'r llwybrau hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym am i fwy o bobl fwynhau ein cefn gwlad a'r manteision iechyd a lles niferus bod yn yr awyr agored.

"Rydym yn ariannu Grant Gwella Mynediad cyfalaf tair blynedd gwerth £5.6 miliwn i helpu cynghorau ac awdurdodau parciau cenedlaethol gyda'u hawliau tramwy cyhoeddus a chyfrifoldebau mynediad eraill.

 "Rydym eisiau cynyddu cyfleoedd i bobl gael mynediad i'r awyr agored a'u galluogi i gymryd rhan mewn ystod ehangach o weithgareddau, tra'n gwerthfawrogi harddwch ein tirweddau a phwysigrwydd ein hamgylchedd."