Jonny Owen: Adrodd stori epig tîm pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Yn fuan wedi ewfforia'r Ewros yn 2016, roedd y cyfarwyddwr Jonny Owen yn brysur yn gweithio ar y ffilm Don't Take Me Home, oedd yn dogfennu'r cyfan. Eleni, cafodd ymweld â stori epig y tîm pêl-droed unwaith eto ar gyfer cyfres Together Stronger ar y BBC, oedd yn dogfennu eu datblygiad o gyfnod John Toshack hyd at heddiw.
Mi ofynodd Cymru Fyw iddo am y broses o greu'r gyfres a pha mor falch ydy o o'i wlad wrth i'r tîm ymddangos ar y llwyfan rhyngwladol:
'Anodd egluro i bobl pa mor anhygoel ydi hyn'
Mae Jonny Owen yn cefnogi Cymru ac yn adrodd eu stori ers blynyddoedd bellach. Mae'n hynod falch bod Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd, ac mae hynny am resymau y tu hwnt i'r cae pêl-droed hefyd.
Meddai: "Mae'n anhygoel gweld Cymru yng Nghwpan y Byd. 'Dw i wedi cael fy ngeni yn Merthyr ond yn byw yn Lloegr ers tua 15 mlynedd nawr. Mae'n anodd egluro i bobl pa mor anhygoel ydi'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd twrnament mawr. Nid yn unig y mae'n gwella ein proffil ni, mae'n gwneud i bobl ein parchu ni, ac mae hynny'n bwydo wedyn i mewn i'n hyder ni yn ein hunain fel gwlad.
"Mi wnaeth yr Ewros yn 2016 newid y gêm i ni. Mi gawson ni ddod a'r tîm hyfryd hwn, yn ogystal â diwylliant unigryw y cefnogwyr i'r llwyfan rhyngwladol, ac mi syrthiodd pobl mewn cariad gyda hynny i gyd.
"Mae'n gweld ni'n mynd un cam ymhellach yng Nghwpan y Byd yn anhygoel. Mi'r oedd yr anthem gyntaf 'na yn erbyn yr UDA yn emosiynol oherwydd roedd pawb yn gwybod bod llygaid y byd arnom ni. Mi wnaeth hynny i mi deimlo'n fwy balch i fod yn Gymraeg, a doeddwn i ddim yn gwybod bod hynny'n bosib!"
Adrodd stori John Toshack
Nid ffilm unigol fel Don't Take Me Home yw Together Stronger, ond cyfres tair rhan, sydd yn rhoi cyfle iddo ddweud stori'r blynyddoedd a fu.
Dywedodd Jonny: "Roeddwn i'n gwybod bod gen i fwy o sgôp hefo Together Stronger. Roedd Don't Take Me Home yn fwy o snapshot o sut oeddwn i'n teimlo yn syth ar ôl twrnament Ewro 2016, a dw i'n hoffi hynny.
"Hefo Together Stronger, roeddwn i eisiau archwilio'r syniad 'ma nad oedden ni wedi gallu ymdopi gyda'r teimlad yna wrth fynd i mewn i'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.
"Roeddwn i eisiau dechrau gyda cyfnod John Toshack gan 'mod i wedi dod i ddeall mai fe oedd wedi rhoi'r cyfle cyntaf i nifer o aelodau tîm 2016 i chwarae dros eu gwlad.
"Roedd gen i'r syniad o ddefnyddio dihareb Groegaidd enwog sy'n dweud bod cymdeithas yn tyfu i fod yn llwyddiannus pan mae hen ddynion yn plannu hadau ar gyfer coed na fyddan nhw byth yn cael eistedd o dan eu canghennau. Mae'n mynegi rhywbeth mor hyfryd, ac yn crisialu meddylfryd Toshack a'i ddirprwy, Brian Flynn. Roeddan nhw'n gwybod mai pobl eraill fydd yn cael budd o ffrwyth eu llafur, ac roedd y chwaraewyr yn awyddus iawn i drafod hynny hefyd."
Stori'r tîm fel un o straeon Shakespeare
Un o brif swyddogaethau cyfarwyddwr rhaglen ddogfen o'r fath yw adrodd straeon a hanesion mewn modd difyr, ac mae Jonny wrth ei fodd yn gwneud hyn. Mi wnaeth o gyfaddef nad oedd yn rhaid iddo gyffwrdd rhyw lawer ar yr hanes gan ei fod yn adrodd ei hun yn amlach na pheidio:
"Roedd y stori yn dipyn o low hanging fruit yn doedd? Roedd yn eithaf Shakespeare-aidd yn ei fawredd. Doedd dim rhaid i mi ychwanegu unrhyw beth - dim ond dweud y gwir!
"Does 'na ddim llawer o dimau yn gorfod wynebu marwolaeth yn yr un modd â'r tîm yna gyda Gary Speed, a cofiwch eu bod yn ifanc iawn ar y pryd hefyd. Dwi'n meddwl bod hynny wedi eu creu nhw, mewn rhyw ffordd, a dyna pam eu bod nhw'n griw mor ardderchog heddiw.
"Mi wnaethon nhw ddefnyddio hynny fel ysgogiad wedyn er mwyn gwneud yn siŵr bod breuddwydion dyn oedden nhw i gyd yn ei edmygu yn cael eu gwireddu. Mi wnaeth hynny i mi syrthio mewn cariad gyda nhw.
"Mae eu stori yn rhyfeddol yn y byd chwaraeon yn gyffredinol, nid ym myd pêl-droed yn unig. Maen nhw i fyny yna gyda tîm rygbi'r 70au i mi. Nhw ydi ni ar hyn o bryd, yn yr un modd ag yr oedd Edwards, Bennett a JPR adeg hynny. Bale, Ramsey ac Allen ydyn nhw rwan. Mi fyddan nhw'n fyw yn ein stori ni am byth."
Pa mor hawdd oedd gweithio gyda Gareth Bale a'i debyg?
Mae nifer o bobl yn ymddangos yn y gyfres i adrodd yr hanes, ac mae hynny'n cynnwys y chwaraewyr mwyaf enwog, yn ogystal ag aelodau o'r Gymdeithas Bêl-droed sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni. I Jonny, mae'n holl bwysig bod y cyfarwyddwr yn adeiladu perthynas gadarnhaol gyda'u cyfranwyr er mwyn cael y gorau allan ohonyn nhw.
"Mi'r oedd pawb a gyfranodd i'r rhaglen mor hawdd i weithio hefo nhw, a 'dw i'n meddwl ei fod wedi helpu 'mod i'n eu hadnabod nhw'n barod, ac eu bod nhw'n ymddiried yno' fi. Roeddwn i wedi gwneud Don't Take Me Home gyda nhw, a 'dw i'n ffan!
"Dw i wedi gweithio yn y byd chwaraeon ers blynyddoedd, a 'dw i'n hen gyfarwydd gyda newyddiadurwyr ifanc brwdfrydig i gyd yn chwilio am scoop, a gwneud unrhyw beth i'w gael e. Dydyn nhw ddim yn para' am yn hir iawn, achos maen nhw'n cael y stori fawr 'na, ond dydyn nhw ddim yn adeiladu'r berthynas. Yn eironig, pan mae pobl yn ymddiried yno' chi mae'r gwirionedd yn cael ei ddweud."
Cariad tuag at gerddoriaeth
Un o nodweddion mwyaf trawiadol rhaglenni Jonny yw ei ddefnydd o gerddoriaeth i liwio ac i atalnodi. Dydy hyn ddim yn syndod gan ei fod yn gerddor ei hun, ac wedi bod yn aelod o fandiau tra'n ifanc. Mae ei gariad tuag at gerddoriaeth yn parhau ac mae'n treulio oriau yn dewis beth a phryd y mae'n cael ei chwarae.
Meddai: "Dw i'n caru cerddoriaeth boblogaidd. Dwi'n ffan o Martin Scorsese, a ddywedodd unwaith mai cerddoriaeth bop yw trac sain ein bywydau ni ers diwedd yr ugeinfed ganrif. Dw i'n cytuno gyda hynny. Dw i'n caru pan mae pobl yn ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer rhaglenni hefyd, ond mae'n well gen i dreulio oriau yn gwrando ar ganeuon a meddwl am sut i'w plethu nhw i mewn.
"Er enghraifft, roeddwn i'n gwrando ar Richard Hawley ac mi ddaeth Midnight Train ymlaen. Roeddwn i'n gwybod yn y foment honno bod yn rhaid i mi ddefnyddio'r gân yn y rhan sydd yn sôn am farwolaeth drasig Gary Speed. Roedd y llinell 'I've got to leave you here' yn dweud y stori'n well nag unrhyw gyfweliad neu unrhyw beth gweledol.
"Dw i wrth fy modd pan mae pobl yn anfon negeseuon i mi yn dweud eu bod wedi lawrlwytho caneuon y maen nhw wedi eu clywed ar fy rhaglenni. Gyda'r artist Ffrengig Jacques Dutronc, mi'r oeddwn i yn ffan mawr ohono fe beth bynnag, ac roedd Ewro 2016 yn gyfle perffaith i mi ei ddefnyddio fe.
"Ar Together Stronger, roedd nifer o ffans ieuengach wedi gofyn i mi am ganeuon Primal Scream a The Alarm wnes i eu defnyddio. Ti'n meddwl bod pobl yn gwybod rheina, ond mae amser yn mynd heibio a ti'n sylweddoli nad ydy'r genhedlaeth newydd wedi cael eu cyflwyno iddyn nhw. Dwi'n caru pan mae hynny'n digwydd."
'Dangos y gorau o Gymru'
I Jonny, mae pêl-droed yn fwy na gêm. Mae'n credu bod chwaraeon yn gallu dweud pethau mawr am wlad a'i diwylliant, a bod llwyddiant y tîm pêl-droed yn cynrychioli meddylfryd Cymru heddiw: "Mae chwaraeon yn greiddiol i gymeriad gwlad.
"Edrychwch ar raglenni dogfen o hanes pêl-droed Americanaidd yn y chwedegau. Edrychwch ar sut wnaeth Muhammad Ali ddiffinio'r wlad honno.
"Dwi wedi sôn yn barod am dîm rygbi Cymru'r 70au - eu delwedd nhw, eu hyder nhw. Mi aeth Max Boyce a'i ddilynwyr draw i Iwerddon, i Ffrainc ac i'r Alban. Nhw wnaeth adeiladu hynna. Roedd e'n hyfryd.
"I ni, mae'r diwylliant o gwmpas y tîm pêl-droed yn dangos y gorau ohonom ni fel gwlad. Yr hetiau bwced, y DJ yn y stadiwm. Mae fy merch wrth ei bodd yn gwylio Cymru. Mae hi'n siarad Cymraeg. Mae'n byw yn Llundain ac yn wahanol i mi, wnaeth byth feddwl ein bod ni am gyrraedd Cwpan y Byd, mae hi'n ei ddisgwyl e nawr.
"Mi gefais i fy magu yng nghyfnod Thatcher yn ne Cymru. Roeddwn i'n lwcus yn y ffaith bod gen i deulu mawr a ffrindiau da. Roedd y gymuned yn un gref, ond doedd 'na ddim llawer o obaith ein bod ni fel gwlad yn mynd i gyrraedd twrnament mawr, yn enwedig ar ôl digwyddiadau '86, '94 a '04.
"Yna, mae'r tîm gogoneddus hwn yn cyrraedd, ac mae'n anhygoel gweld cenhedlaeth newydd o chwaraewyr a ffans yn cerdded yn hyderus ar y llwyfan rhyngwladol, ac yn teimlo fel eu bod nhw i fod yno. Ein plant ni yw'r rhain! Os ydych chi'n Gymraeg ac o fy nghenhedlaeth i - onid yw hynny'n wych?!'
Rhaglen arall i ddod?
Mi wrthododd Jonny ag ateb os oedd e'n bwriadu dogfennu twrnament Cwpan y Byd, ond mae'n edrych ymlaen i'w fwynhau fel ffan.
"Mae'n beth doniol, ond dwi'n dod o'r hen griw o ffans pêl-droed Cymraeg wnaiff byth goelio beth sy'n digwydd tan iddo fe ddigwydd, a 'dw i'n casáu temtio ffawd. 'Dw i ishe i bawb fwynhau'r twrnament. Ry' ni'n ei haeddu fe. Wedi'r cyfan, 'ry ni yma o hyd!"