'Ni ddylai merched fod ofn dysgu sgiliau'r dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Zoe Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae dysgu codio wedi arwain ar yrfa newydd i Zoe Thomas

"Roeddwn i'n arfer credu bod codio ar gyfer dynion sy'n dda mewn mathemateg."

Roedd Zoe Thomas, sy'n 29 oed ac o Gaerffili, yn teimlo fel ei bod angen her newydd, ond feddyliodd hi erioed y gallai weithio gyda chyfrifiaduron.

Ond ar ôl dechrau dosbarthiadau nos mewn codio, mi newidiodd ei gyrfa, o swyddog gofal cwsmer i beiriannydd meddalwedd i Veygo Insurance yng Nghaerdydd.

"Doeddwn i byth yn meddwl y gallwn i ei wneud, ond i fod yn onest, mae e'r penderfyniad gorau dwi erioed wedi ei wneud," meddai.

"Roeddwn i'n arfer credu bod codio ar gyfer dynion sy'n dda mewn mathemateg ac oherwydd fy mod i wedi astudio Cyfryngau, Seicoleg a Saesneg i lefel A, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n diweddu yn gwneud hyn.

"Rydw i nawr yn helpu i wneud y wefan weithio, gan ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi, ac rydw i wir wrth fy modd."

'Mae codio fel dysgu iaith'

Mae Zoe yn y lleiafrif yn ôl ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) sy'n dweud mai 31% o'r diwydiant technoleg sy'n fenywod.

Mae canran y datblygwyr meddalwedd, dylunwyr gwefannau a dadansoddwyr data sy'n fenywod yn llawer is, sef 18%.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Zoe Thomas hyfforddiant trwy raglen y cwmni Code First: Girls

"Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae gyda cyfrifiaduron yn fy swydd ddiwethaf felly pan glywais i am y cwrs codio oedd wedi ei ariannu yn llawn, nes i ymgeisio.

"Dwi eisiau i bobl wybod eu bod nhw'n gallu dysgu ac i beidio teimlo ofn. Mewn gwirionedd, mae codio fel dysgu iaith ac mi ydych chi'n dweud wrth y cyfrifiadur beth i wneud."

'Dyma sgiliau'r dyfodol'

Mae cwmnïau hyd a lled y DU yn galw ar ferched fel Zoe i weithio yn y sector technoleg a chodio.

Mae mwy na 7,500 o bobl yn gweithio i gwmni Admiral, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, ond mae'r rhan fwyaf sy'n gweithio mewn technoleg yn ddynion.

Mae cyfarwyddwraig Technoleg Gwybodaeth y cwmni, Christine Theodore, yn dweud bod y sector yn tyfu mor gyflym mae'n hollbwysig bod y merched yn dod i mewn i'r diwydiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Christine Theodore yn credu'n "angerddol" mewn gallu menywod i wneud swyddi technegol

"Mae sgiliau technoleg yn hynod bwysig i Admiral a'n huchelgais ni i fod yn fusnes digidol. Dyma sgiliau'r dyfodol.

"Ni ddylai pobl fod ofn hyn, mae posib dysgu'r sgiliau yma."

"Dwi wedi bod mewn Technoleg Gwybodaeth y rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol a dwi'n teimlo'n angerddol bod menywod yn gallu bod mewn swyddi arwain."

Peryglon 'labelu' merched yn yr ysgol

Mae Admiral wedi bod yn gweithio gyda sawl cwmni i apelio at fwy o ferched, gan gynnwys Code First: Girls, sydd bellach yn gweithio gyda mwy na 100 o fusnesau ledled Prydain i hyfforddi merched.

Yn ôl Prif Weithredwr Code First: Girls, Anna Brailsford, mae 'na beryg o "labelu" merched yn yr ysgol, sy'n gallu cael effaith negyddol ar hyder.

Disgrifiad o’r llun,

Anna Brailsford ydy Prif Weithredwr Code First: Girls

"Y label amlwg ar hyn o bryd yw'r label STEM [Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg]," meddai.

"Os nad ydych chi'n dda mewn pynciau STEM, mae hynny'n effeithio ar eich penderfyniadau chi o Gyfnod Allweddol 3 a 4, yr holl ffordd i Lefel A ac i'r brifysgol. Mae rhywbeth mawr yn bod gyda hynny.

"Os oes 'na hedyn o amheuaeth yn eu meddyliau neu os nad ydyn nhw'n teimlo'n hyderus am STEM, dwi'n poeni y bydden nhw'n colli diddordeb a ffydd yn eu hunain. Dwi'n gweld o'n digwydd trwy'r amser."

'Byth yn ddiflas'

Mae merched yn perfformio'n well na bechgyn mewn Technoleg Gwybodaeth (TG) wrth wneud Safon Uwch a TGAU ond mae nifer llai o ferched yn penderfynu astudio'r pwnc.

Mae Aisha Arshad, 32 o'r Barri, wedi gweithio mewn TG erioed ar ôl ei astudio yn yr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pob diwrnod yn y gwaith yn wahanol, medd Aisha Arshad

Mae hi bellach yn gweithio mewn codio i Admiral, yn hel gwybodaeth i ddadansoddi perfformiad.

"Pan dwi'n dweud wrth pobl beth yw fy swydd, dwi'n aml yn clywed 'mae hwnna'n sector sy'n llawn dynion' ond dwi wrth fy modd.

"Mae pob diwrnod yn wahanol a byth yn ddiflas. Un diwrnod dwi'n gwneud un peth a'r diwrnod canlynol dwi'n datrys problemau gwbl wahanol."

Pynciau cysylltiedig