Trawma mam wrth aros dwy flynedd am atebion i farwolaeth babi

  • Cyhoeddwyd
Hayley
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth gorfod aros dwy flynedd am atebion i farwolaeth ei babi ychwanegu at "drawma" Hayley Ryan

Mae mam gafodd fabi marw-anedig wedi disgrifio'r "trawma a'r dicter" gafodd ei achosi gan yr oedi wrth geisio cael atebion.

Mae adroddiad swyddogol wedi dod o hyd i fethiannau yng ngofal Hayley Ryan a'i mab Zaiyan gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Ond fe gymerodd ddwy flynedd i'r adroddiad gael ei gwblhau a'i gyflwyno i Hayley.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am "oedi a cham-gyfathrebu" gan nodi bod gwelliannau wedi eu cyflwyno.

Disgrifiad o’r llun,

Hayley ger bedd ei mab, Zaiyan.

Ar 9 Mehefin 2020, pan oedd Hayley 29 wythnos yn feichiog, aeth i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr gan ei bod yn chwydu, ac roedd ganddi boenau yn ei abdomen a rhan isaf ei chefn.

Cafodd ei rhyddhau ddiwrnod yn ddiweddarach, er ei bod eisiau aros yn yr ysbyty.

Dywedodd Hayley ei bod hi'n "gwybod bod rhywbeth o'i le" ond ei bod hi'n teimlo ei bod yn "cael ei rhoi o'r neilltu" gan staff meddygol.

Aeth yn ôl i'r ysbyty ar 12 Mehefin gyda phoenau pellach ac roedd yn gwaedu.

Doedd dim modd clywed curiad calon Zaiyan. Cafodd ei eni'n farw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Roedd Hayley yn ddifrifol wael a threuliodd 13 diwrnod mewn gofal dwys yn Birmingham a Merthyr.

Ar ôl iddi ddychwelyd adref, roedd hi'n ysu am wybodaeth i'w helpu i "brosesu" yr hyn oedd wedi digwydd, ond fe gymerodd ddwy flynedd i adroddiad mewnol ar farwolaeth Zaiyan gael ei roi iddi.

Daeth yr adroddiad o hyd i fethiannau yng ngofal Hayley, gan gynnwys:

  • Ei fod yn "amhriodol" i ryddhau Hayley o'r ysbyty ar 10 Mehefin "pan oedd angen morffin arni o hyd i leddfu poen".

  • Roedd yn "amhriodol" i fydwraig gymunedol gynnal adolygiad o gyflwr Hayley y diwrnod canlynol, a dylai fod wedi cael ei chynghori i ddychwelyd i'r ysbyty i gael adolygiad obstetreg ac ailadrodd profion gwaed.

  • Roedd "arweinyddiaeth feddygol glinigol aneglur" o achos o feichiogrwydd risg uchel gan na weithredwyd ar ganlyniadau anarferol profion gwaed.

Mae'r adroddiad yn nodi mai un o'r "achosion sylfaenol" oedd bod diagnosis o afu brasterog acíwt yn ystod beichiogrwydd (AFLP) wedi ei golli.

Dywedodd Hayley ei bod yn teimlo bod y wybodaeth wedi dod yn "rhy hwyr" a bod yr aros wedi cael effaith andwyol arni.

"Heb gael atebion ers dwy flynedd, mae wedi ychwanegu at fy nhrawma a fy nicter," dywedodd.

"Mae fel nad oedd ots ganddyn nhw, doedd dim ots ganddyn nhw," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hayley'n ffonio a ffonio yn gofyn am atebion

"Fe wnes i aros dwy flynedd am atebion dwi'n meddwl ddaeth 'mond oherwydd bod fy nghyfreithiwr ar eu cefnau cymaint.

"Pe bai un person wedi fy ffonio o'r ysbyty a dweud 'edrychwch Hayley dyma beth ddigwyddodd', hyd yn oed petawn nhw'n fy ffonio i ac yn dweud wrtha i pam fu oedi, byddai hynny wedi helpu.

"Ond dim galwadau ffôn yn ôl, dim llythyrau, dim byd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.

"Mae'n anfaddeuol gadael rhywun am ddwy flynedd pan maen nhw wedi colli mab."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfle'n cael ei golli i gyflwyno gwelliannau gydag oedi mor hir, yn ôl y cyfreithiwr, Eleri Davies

Dywedodd cyfreithiwr Hayley, Eleri Davies o Irwin Mitchell, sy'n arbenigo mewn gofal mamolaeth, fod oedi cyn cael gwybodaeth yn "ofidus iawn" i'r rhai sy'n cael eu heffeithio.

"Os yw'n cymryd dwy flynedd i ymchwiliad ac ymateb i gŵyn gael ei gwblhau, erbyn hynny mae gwahanol bobl wedi symud ymlaen, mae staff yn wahanol ac nid yw gwersi'n cael eu rhannu yn yr ysbyty.

"Yn yr un modd, mae cyfle yn cael ei golli i wella diogelwch cleifion ledled Cymru."

'Covid wedi gwaethygu'r oedi'

Yn ei adroddiad, dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "wirioneddol flin" am yr amser a gymerodd i gwblhau'r adroddiad ac ymddiheuron hefyd am "gam-gyfathrebu drwy gydol y broses."

"Bu oedi oherwydd ymrwymiadau clinigol gan y clinigwyr i gynnal yr adolygiad gafodd ei waethygu oherwydd Covid," dywedodd y bwrdd.

"Yn ystod yr adolygiad fe wnaethom adnabod yr angen i ofyn am farn allanol a gymerodd beth [amser] hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd gwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ei dynnu o fesurau arbennig fis diwethaf

Fe wnaeth Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ymddiheuro i Hayley a'i theulu "am unrhyw boen gafodd ei achosi gan oedi wrth gyfathrebu gan ein Bwrdd Iechyd.

"Mae ein timau gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol wedi cyflawni gwelliant sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ond rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud bob amser," ychwanegodd.

"Mae menywod a theuluoedd bob amser wedi bod wrth galon ein taith barhaus o welliant ac rydym wedi ymrwymo i wrando ar eu profiadau, a dysgu ohonynt.

"Rydym yn parhau i annog Hayley a'i theulu i gysylltu â ni'n uniongyrchol fel ein bod yn gallu trafod eu pryderon ymhellach."

Cafodd gwasanaeth mamolaeth y bwrdd iechyd ei dynnu o fesurau arbennig fis diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn cyflwyno "dyletswydd gonestrwydd" ar sefydliadau'r GIG gyda'r nod o "hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw."

Wrth agor yr ymgynghoriad fis Medi, dywedodd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn "hanfodol fod pobl yn derbyn ymddiheuriad amserol, yn derbyn esboniad gonest am yr hyn a ddigwyddodd a bod camau'n cael eu cymryd i ddarganfod pam y digwyddodd y niwed hwnnw" pan fydd cleifion yn "dioddef niwed".

Bydd mwy am y stori hon ar raglen Wales Live nos Fercher am 22.35 ar BBC One Wales ac ar iPlayer.