Cynnydd sylweddol mewn achosion o'r dwymyn goch
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion o'r dwymyn goch yng Nghymru.
Roedd 'na 150 o achosion yn yr wythnos ddiweddaraf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) - y ffigwr wythnosol uchaf ers pedair blynedd.
Mae'r dwymyn goch yn cael ei achosi gan grŵp bacteria Strep A.
Mae 15 o blant yn y Deyrnas Unedig wedi marw o fath mwy difrifol o Strep A ymledol ers mis Medi.
Ond mae ICC yn pwysleisio fod y risg i blant o ddal y clefyd yn "isel iawn", ac mai "salwch ysgafn" sy'n deillio o hynny yn y mwyafrif o achosion.
Un o'r 15 o blant sydd wedi marw gyda'r haint ydy Hanna Roap - merch saith oed oedd yn mynychu Ysgol Gynradd Victoria ym Mhenarth ger Caerdydd.
Bu'n rhaid i ddau blentyn o Ysgol Gynradd Brynaman yn Sir Gâr dderbyn triniaeth ysbyty hefyd ar ôl cael y dwymyn goch.
'Risg isel iawn o ddal y clefyd'
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod eisiau "atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd".
"Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, sydd fel arfer yn salwch ysgafn," meddai'r corff.
"Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, sef cymhlethdod prin sy'n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn.
"Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o'r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.
"Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu'r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw, ond i ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022