Pa mor debyg yw streiciau eleni i'r Gaeaf o Anniddigrwydd?

  • Cyhoeddwyd
Sbwriel ar y strydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sbwriel na chafodd ei gasglu ynghanol Llundain yn 1979

Mynwentydd wedi cau, sbwriel heb ei gasglu, ysbytai ac ysgolion yn cael eu picedi a miliynau o ddiwrnodau gwaith wedi eu colli.

Ydy, mae'n oer ac oes, mae digon o anniddigrwydd ar hyd strydoedd Prydain, ond pa mor debyg yw'r streiciau eleni i'r Gaeaf o Aniddigrwydd ddiwedd y 70au?

Yn anterth streiciau'r 70au fe gollwyd 12 miliwn o ddyddiau gwaith o fewn un mis - rhyw filiwn gaiff eu colli y Rhagfyr hwn.

Er hynny, mae'r amgylchiadau tu ôl i'r cyfan yn debyg iawn, yn ôl yr hanesydd Bob Morris.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr hanesydd Bob Morris, mae yna rybudd i'r ddwy ochr o'r 70au, a welodd llywodraeth Lafur James Callaghan a'r undebau llafur yn colli yn y pen draw

"Roedd hi'n aeaf caled iawn o ran y tywydd oer a chwyddiant yn bur ddrwg ar y pryd," meddai.

"Roedd llawer iawn o undebau llafur yn hawlio cynnydd cyflogau sylweddol ar adeg pan oedd y llywodraeth, llywodraeth Lafur ar y pryd o dan arweiniad Jim Callaghan, wedi gosod nenfwd o 5% ar gyfer cynnydd cyflogau er mwyn cadw lefelau chwyddiant i lawr."

Aniddigrwydd cyflogau

A'r eira ar lawr yn San Steffan yr wythnos hon, mae'r cwestiynau mawr am chwyddiant a chyflogau yn eu hôl a llywodraeth Geidwadol, y tro hwn, yn gorfod delio â thrafferthion y gweithredu diwydiannol.

O nyrsys i weithwyr ambiwlans, o yrrwyr trenau i weithwyr post; o'r sector gyhoeddus i'r sector breifat mae yna anniddigrwyddd nad yw cyflogau yn dal i fyny gyda chostau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r picedwyr ger is-swyddfa ddosbarthu'r Post Brenhinol yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr haf

Er bod cyflogau yn cynyddu ar lefel hanesyddol o gyflym, mae gwerth y cyflogau hynny, oherwydd chwyddiant, hefyd yn gostwng ar lefel hanesyddol o gyflym.

Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, fe gododd cyflogau 6.1% yn y tri mis hyd at fis Hydref, ond mae chwyddiant wedi codi i 11.1%

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud nad oes arian yn y coffrau i dalu cyflogau uwch ac y byddai codi cyflogau yn gyrru chwyddiant yn waeth.

"Wrth gwrs dwi'n deall bod pawb yn grac am chwyddiant, am yr effaith ma' chwyddiant yn cael ar gyflogau," meddai Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fis Hydref cafodd Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David TC Davies, ei ddyrchafu i'r cabinet fel Ysgrifennydd Cymru

Ond yn ôl yr aelod Ceidwadol, nid ildio i ofynion undebau am gynnydd cyflogau yw'r ffordd i daclo hynny.

"Os ydyn ni'n gwneud hynny bydd yn rhaid i ni godi trethi a byddwn ni'n creu mwy o chwyddiant a mwy o drafferth yn y dyfodol," meddai.

'Lle i godi trethi ar gyfoeth'

Ond gwrthod hynny mae undebau - mae Ceri Williams o TUC Cymru yn dadlau bod arian i'w gael trwy godi trethi ar gyfoeth er mwyn talu gweithwyr.

"Mae lle i godi trethi ar gyfoeth, nid ar gyflog, i'w godi fe ar bobl â chyfranddalaidau ac eiddo er enghraifft," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

'Y broblem yn ehangach yw faint o arian mae Llywodraeth Prydain yn ei ddosrannu i Lywodraeth Cymru,' medd Ceri Williams o TUC Cymru

"Fe welon ni yn ddiweddar bod elw BP dros £5biliwn yn y chwarter diwethaf - felly mae pres ar gael ar gyfer y math yma o godiad cyflog, ac mae buddsoddi mewn cyflogau yn talu ar ei ganfed trwy wariant gwell ac yna'n hwb i'r economi.

"Rydyn ni yn gweld cyfnod fel na welwyd ers 1979 i gael gymaint o streiciau ac mae'n adlewyrchu dicter pobl at lefelau cyflog sydd wedi aros yn eu hunfan ers ugain mlynedd.

"Pan fod costau byw yn codi o 11%, 16% o ran cost bwyd, does dim rhyfedd fod pobl yn flin nad ydyn nhw yn cael digon o gyflog. A Llywodraeth Prydain sy'n gyfrifol am eu polisi o lymder ers 2010 o ran cadw cyflogau lawr."

Ond yn wahanol i'r 70au, mae datganoli yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dâl nyrsys - ac athrawon hefyd, a fydd yn pledleisio ar weithredu'n ddiwydiannol yn y flwyddyn newydd.

"Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi galw am gynnydd o 19% yn eu cyflogau ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n gallu codi cyflogau nyrsys "heb ragor o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig".

'Ddim yn ddigonol'

Yn ôl Ceri Williams o'r TUC, "mae'r undebau yn gofyn i weinidogion Cymru i godi cyflogau Cymru. Rydyn ni yn gobeithio am fwy o bres i gyflogau.

"Ond y broblem yn ehangach yw faint o arian mae Llywodraeth Prydain yn ei ddosrannu i Lywodraeth Cymru, a dyw hynny ddim yn ddigonol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd James Callaghan yr Etholiad Cyffredinol yn 1979

Ymateb Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, i hynny yw bod gan Lywodraeth Cymru y grym i godi trethi os ydyn nhw o ddifri am godi arian ychwanegol i dalu mwy i weithwyr.

Ond â'r trafodaethau diweddaraf rhwng llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan gyda'r undebau wedi methu, mae cynlluniau yn Rhif 10 nawr i dynhau'r rheolau ar streicio er mwyn gwneud gweithredu diwydiannol yn anoddach.

Y cwestiwn allweddol i lywodraethau ac undebau llafur nawr yw pwy fydd y cyhoedd yn ei gefnogi?

Yn ôl yr hanesydd Bob Morris, mae yna rybudd i'r ddwy ochr o'r 70au, a welodd lywodraeth Lafur James Callaghan a'r undebau llafur yn colli yn y pen draw.

"Mi fu adwaith ffyrnig yn erbyn y cyfan, ac yn sicr canlyniad uniongyrchol hynny oedd y ffaith bod yr etholiad y mis Mai dilynol wedi cael ei ennill gan Margaret Thatcher a'r Torïaid am eu bod nhw wedi addunedu i leihau pŵer yr undebau. Rodd hynny'n ganlyniad sicr i beth welwyd y gaeaf hwnnw."

Pynciau cysylltiedig