Lluniau thermol o 'gymunedau oeraf' Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gymru rai o'r cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio waethaf yn Ewrop yn ôl dadansoddiad newydd gan y grŵp amgylcheddol, Cyfeillion y Ddaear, sydd wedi comisiynu lluniau trawiadol i dynnu sylw at y sefyllfa.
Mae hyn yn gwneud y tai yn ddrud i'w gwresogi wrth i gynhesrwydd ddianc drwy waliau, ffenestri, toeau a drysau.
Yn ôl y mudiad, y dair 'gymdogaeth oeraf' yw Hen Golwyn a Llanddulas yng Nghonwy, Gogledd y Rhyl yn Sir Ddinbych, a Gogledd Grangetown yng Nghaerdydd.
"Cartrefi yn yr ardaloedd hyn yw'r rhai anoddaf i'w gwresogi oherwydd graddfeydd effeithlonrwydd ynni isel, sy'n gwneud defnydd o ynni a biliau yn uwch na'r cyfartaledd." meddai Cyfeillion y Ddaear.
Er mwyn amlygu realiti a safonau byw pobl sy'n cael trafferth i gynhesu eu cartrefi, comisiynodd Cyfeillion y Ddaear y ffotonewyddiadurwr Gray Hutton i ymweld â rhai o'r ardaloedd hyn gyda chamera delweddu thermol.
Dyma gip ar rai o'i luniau a'r straeon tu ôl iddynt.
Effaith yr argyfwng ynni ar bobl Y Rhyl
Aeth Gary Hutton i gyfarfod teuluoedd ac unigolion sy'n byw yn Y Rhyl, lle mae cartrefi wedi'u hinswleiddio'n wael. Mae tai sy'n gollwng gwres yn amhosibl i'w cadw'n gynnes ac maent yn fwy tebygol o wynebu problemau lleithder sy'n gallu peryglu iechyd a lles.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, y bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng yw pobl o liw, pobl anabl, pobl hŷn, a'r rhai sy'n byw ar incwm isel.
Yng Nghanolfan Gymunedol Foryd yn Y Rhyl mae rhai aelodau o staff yn cymryd seibiant haeddiannol tra mae'r rhai sy'n defnyddio'r ganolfan yn gorffen eu cinio. Mae'r ganolfan gymunedol mewn defnydd ers ei hagor yn 2011.
Hen eglwys yw safle'r ganolfan ac mae'n hwb lleol sy'n fanc bwyd a gyda chaffi cymunedol. Mae'n cynnig lle cysurus i gadw'n gynnes a phrydau poeth am gyn lleied â £1.
Dwylo oer Audrey, 78 mlwydd oed, yn ei chartref yn Y Rhyl. Mae Audrey yn anabl ac mae ganddi broblemau iechyd dwys gan gynnwys athritis, Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac yn ddiweddar mae hi wedi derbyn llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon a chlun newydd.
Dim ond un ystafell mae hi'n cynhesu yn ei thŷ sef ei hystafell wely.
Dyma Audrey yn edrych ar rai o'i darluniau diweddar yn ei hystafell wely. Mae'r ffenest gyferbyn â'i gwely yn graciau i gyd, sy'n gadael drafft oer i mewn.
Hyd yn oed pan mae gwresogydd yr ystafell ymlaen, dyw'r ystafell methu cynhesu'n iawn.
Mae Thomas, 48, yn ymlacio ar y soffa yn ei gartref ar ôl gorffen sifft yng Nghanolfan Gymunedol Foryd, Y Rhyl. Ac yntau'n byw mewn cartref cymunedol, mae ar fetr talu o flaen llaw, ond dydi o heb danio'r gwres gan nad ydy o'n gallu fforddio'r ffi dyddiol.
Mae'n cadw'n gynnes yn ei gartref gyda photel dŵr poeth, blancedi a thrwy wisgo tri pâr o drywsus bob dydd.
Ac ar hyd yr arfordir hefyd, yng Nghonwy, mae Alex ac Aaron yn swatio o dan y blancedi yn eu hystafell fyw.
Fyddan nhw ddim ond yn cynnau'r gwres i ofalu am eu pibellau os yw'r tywydd yn agos at rewi. Maen nhw wedi prynu hwdis cynnes i wisgo o gwmpas y tŷ i gadw'n gynnes.
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi penderfynu ar yr ardaloedd maen nhw'n eu galw y 'cymdogaethau oeraf' drwy gyfuno gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni ardal gyda'i lefel incwm - ardaloedd lle mae incwm yn isel ac effeithlonrwydd ynni yn wael sy'n achosi pryder meddent.
Drwy Gymru a Lloegr, mae Rhondda Cynon Taf yn un o'r ardaloedd sydd â'r nifer uchaf o'r 'cymdogaethau oeraf' hyn.
Ymateb creadigol yn rhoi llais i'r argyfwng
Gobaith Cyfeillion y Ddaear Cymru yw y bydd ymateb creadigol Gary Hutton i'r argyfwng ynni, ynghyd â'u hymgyrch Unedig Dros Gartrefi Cynnes, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n effeithiol i daclo'r argyfwng ynni, a'r cymorth brys i'r rhai fwyaf bregus.
Meddai Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: "Ni ddylai Audrey orfod aros mewn un ystafell yn unig, ac ni ddylai Thomas ychwaith lapio fel nionyn mewn tri phâr o drowsus dim ond i gerdded o gwmpas ei gartref ei hun.
"Mae llawer o bobl ledled Cymru, fel Thomas ac Audrey, yn brwydro i gadw'n gynnes mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael, wedi'u gorfodi i wneud dewisiadau amhosibl rhwng gwresogi a bwyta."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yw'r ffordd orau y gallwn gefnogi pobl i leihau biliau egni yn eu tai ac mae dros 67,000 o gartrefi wedi elwa o'n rhaglen £394m, Cartrefi Cynnes, dros y ddegawd ddiwethaf.
"Y gaeaf hwn, rydym wedi ehangu ar ein gwasanaethau cynghori ac ein Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf, fydd yn rhoi taliad o £200 i 200,000 yn fwy o gartrefi. Rydym hefyd wedi rhoi bron i £4 miliwn er mwyn cyflwyno taleb tanwydd cenedlaethol a Chynllun Gwres i dai yng Nghymru sy'n gorfod talu o flaen llaw am eu tanwydd."