Teyrngedau i gwpl fu farw wedi tân mewn tŷ yn Llandudoch

  • Cyhoeddwyd
David a Margaret EdwardsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gwpl fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llandudoch ger Aberteifi ddydd Sul.

Bu farw David Edwards, 60, a'i wraig Margaret, 55, yn dilyn y digwyddiad yn oriau man y bore, ac mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn parhau i ymchwilio.

Mewn datganiad fe ddywedodd teuluoedd y ddau fod colled fawr ar eu holau.

"Roedd y ddau yn ffyddlon i'w gilydd, ar ôl bod gyda'i gilydd ers 35 mlynedd a dod yn aelodau uchel eu parch o fewn cymuned Llandudoch," meddai'r teulu.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod erchyll yma, mae wedi golygu cymaint i'r ddau deulu.

"Hoffwn amser nawr i alaru a gofynwn am breifatrwydd wrth i ni wneud hynny."

Ymchwiliad yn parhau

Hyd yma mae archwilwyr y gwasanaeth tân ac archwilwyr safleoedd troseddol yr heddlu wedi dweud nad oes ganddyn nhw esboniad eto am achos y tân.

Bu'n rhaid i tua 11 o bobl sy'n byw gerllaw adael eu cartrefi wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, ond roedden nhw i gyd wedi gallu dychwelyd adref nos Sul.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd y cynghorydd Mike James, sy'n cynrychioli'r pentref ar Gyngor Sir Penfro, fod y gymuned wedi "colli dau aelod pwysig".

Roedd Margaret yn byw gyda'r cyflwr MS, a David oedd ei phrif ofalwr.

Disgrifiad o’r llun,

Blodau ger y tŷ yn Llandudoch ddydd Sul

"Roedden nhw'n agos iawn. Roedd y gymuned yn agos atyn nhw, nid oherwydd yr amgylchiadau hynny, ond am eu bod yn bobl neis," meddai.

"Pobl cartrefol, pobl agos i'w gilydd. Ro'n nhw'n briod, ac roedd Dai yn gofalu dros Margaret, yn agos iawn.

"O'dd wastad rhywbeth neis gyda nhw i'w ddweud am bawb. O'n nhw wastad yn onest."

'Sioc' i'r pentref

Dywedodd Mr James bod y ddau yn y dafarn leol yn dathlu pen blwydd Margaret nos Wener diwethaf.

"Mi gawson ni lased o win a chanu pen-blwydd hapus iddi. Bydd colled fawr ar eu holau.

"Mae'r pentre' yn meddwl amdanyn nhw, meddwl amdanyn nhw a'u teulu, a ffrindiau agos. Galla' i byth a gweud wrthoch chi faint o ffrindiau oedd gyda nhw.

"O'n i'n adnabod teulu Margaret achos gath y ddou deulu eu codi gyda'i gilydd, a 'nabod David oddi ar iddo symud lawr 'ma [o Bradford] blynyddoedd mawr yn ôl.

"Ro'dd pawb yn 'nabod e fel Dai 'Jewson', a 'na ffordd ni'n mynd i gofio fe."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Mike James y bydd colled fawr ar ôl y ddau

Dywedodd Dawn McCarthy, sy'n byw yn lleol, bod y pentref wedi cael "sioc ofnadwy".

"O'n i'n 'nabod nhw'n iawn. Pobl bach neis iawn, lyfli, hyfryd," meddai.

"Ni'n teimlo'n drist ofnadwy wedi colli pobl mor ffein, pobl o'r pentref. Ni 'di ca'l sioc ofnadwy, anferth.

"Ma' Llandudoch yn gwd, ni gyd yn tynnu at ein gilydd, ni'n dda gyda'n gilydd a 'na beth ni'n mynd i wneud o nawr 'mlan hefyd."

Pynciau cysylltiedig