Doreen Morris: Dyn wedi cyfaddef bod yn ei thŷ ar y noson

  • Cyhoeddwyd
Doreen MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Doreen Morris ei llofruddio yn ei chartref yng Nghaergybi yn 1994

Roedd dyn a gafwyd yn ddieuog o lofruddio dynes yng Nghaergybi bron i 30 mlynedd yn ôl, yn torri i mewn i'w thŷ hi ar noson y lofruddiaeth, yn ôl ei wraig.

Daethpwyd o hyd i gorff Doreen Morris, 64, ym mis Mawrth 1994, yn ei chartref, a oedd wedi cael ei roi ar dân.

Cafodd Joseph Carl Westbury ei ganfod yn ddieuog o'i llofruddio mewn achos llys yn 1995 - fe wnaeth hefyd wadu torri i mewn i fynglo Mrs Morris.

Bu farw Mr Westbury yn 2016 drwy hunanladdiad.

Dywedodd ei wraig, Emma Westbury, wrth gwest yng Nghaernarfon, bod ei gŵr wedi cyfaddef iddi hi ei fod wedi bod yn nhŷ Mrs Morris ar y noson y cafodd ei lladd.

Honiad yn erbyn dyn arall

Roedd o wedi clywed gan fab Mrs Morris, Andrew, y byddai'r tŷ yn wag a bod arian yno, meddai Mrs Westbury.

Ond dywedodd fod ei diweddar ŵr yn honni mai dyn arall - Stuart Queen - oedd wedi lladd Mrs Morris.

Yn ôl Mrs Westbury, roedd ei gŵr ar do'r bynglo yn torri gwifrau, pan glywodd sgrech o'r tu mewn.

Roedd Mrs Morris wedi gweld rhywun yn y tŷ, ac roedd wedi "cwffio'n ôl", gan ddioddef brathiad i'w chlust, a chael ei thrywanu yn ei gwddf gyda fforc.

Dywedodd Mrs Westbury fod ei gŵr yn honni mai Mr Queen oedd wedi ymosod arni.

Ond clywodd y cwest fod Carl Westbury wedi helpu i lapio corff Mrs Morris mewn dillad gwely, ac arllwys petrol arni cyn ei danio.

Yn ôl ei wraig aeth Mr Westbury â'i ddillad i dŷ ffrind i gael gwared arnynt.

'Isio gwybod y gwir'

Roedd ei gŵr wedi datgelu'r hanes o gwmpas 2001, meddai.

"Roeddwn i just isio gwybod be ddigwyddodd go iawn," meddai Mrs Westbury.

Disgrifiad o’r llun,

Daethpwyd o hyd i gorff Doreen Morris, 64, ym mis Mawrth 1994, yn ei chartref, a oedd wedi cael ei roi ar dân

Roedd ei gŵr wastad wedi osgoi dweud beth oedd wedi digwydd ar y noson y cafodd Mrs Morris ei lladd.

Ond clywodd y gwrandawiad fod gan Mrs Westbury amheuon ar un adeg fod ei gŵr wedi newid lle gyda Mr Queen yn ei fersiwn ef o'r hyn ddigwyddodd, ac mai Carl Westbury oedd yn y tŷ a Mr Queen ar y to.

Cododd ei phryderon gyda'r heddlu pan gysylltodd swyddogion gyda hi yn 2003 pan oeddynt yn ail-ymchwilio i'r lofruddiaeth.

Serch hynny, roedd hi wedi gwrthod rhoi tystiolaeth yn erbyn Mr Westbury.

Wrth gael ei holi yn llys y crwner ddydd Mercher dywedodd: "Dwi ddim yn credu mai fo wnaeth o [y llofruddiaeth]. Dwi'n credu ei fod o yno, ond nid wyf yn credu mai fo wnaeth o."

Pan ofynnwyd iddi os oedd ganddi amheuon am fersiwn ei gŵr o'r digwyddiadau, pan siaradodd â'r heddlu yn 2003, atebodd: "Yn ôl pob tebyg."

Ond clywedd y cwest fod gan Mr Westbury gymeriad "Jekyll a Hyde", a'i fod yn gallu bod yn hynod dreisgar.

Dywedodd ei wraig ei fod wedi ymosod arni droeon yn ystod eu priodas - yn cynnwys un achos pan gafodd ei thagu nes iddi fynd yn anymwybodol.

Dro arall roedd Mr Westbury wedi arllwys hylif ymfflamychol drosti a bygwth ei danio.

"Mae hi wedi bod yn berthynas wallgo'. Doedd hi ddim yn normal," meddai Mrs Westbury.

"Mae hi wedi bod yn danllyd."

Gwadu

Roedd Stuart Queen, y dyn yr honnodd Carl Westbury oedd wedi lladd Mrs Morris, wedi tystiolaethu yn ei erbyn yn ystod yr achos llys yn 1995.

Ond wrth roi tystiolaeth i'r cwest trwy gyfrwng fideo o Saudi Arabia, lle mae bellach yn byw, gwadodd Mr Queen bod ag unrhyw ran yn y fwrgleriaeth, bod yn yr eiddo ar y noson honno neu unrhyw ran ym marwolaeth Mrs Morris.

Dywedodd Mr Queen ei fod wedi bod allan yn yfed gyda Mr Westbury ar y noson, ond ei fod wedi dychwelyd adref ar ei ben ei hun.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn bwriadu cyfarfod â'i ffrind yn ddiweddarach i fynd i gartref Mrs Morris, atebodd: "Na."

Wedi'i wthio ymhellach eto gan fargyfreithiwr y cwest, David Pojur, p'un a gymerodd ran yn y fyrgleriaeth neu helpu Mr Westbury i roi'r byngalo ar dân, mynnodd nad oedd.

"Doeddwn i ddim yno," meddai wrth y cwest.

"Doeddwn i ddim yno felly fyddwn i ddim wedi gweld dim byd."

Dywedodd Mr Queen fod Mr Westbury wedi galw yn ei gartref y bore wedi'r llofruddiaeth, ac wedi rhoi breichled arian iddo a gafodd ei dwyn yn y fwrgleriaeth.

"Fe aeth â fi y tu allan a dweud rhywbeth i'r perwyl ei fod wedi lladd rhywun," meddai Mr Queen wrth y cwest.

"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r hyn roeddwn i'n ei glywed."

Derbyniodd Mr Queen iddo guddio'r freichled, ond diflannodd yn ddiweddarach.

Cafodd Mr Queen ei arestio ym mis Mai 1994 fel rhan o'r ymchwiliad i'r lofruddiaeth, a dywedodd wrth yr heddlu beth oedd yn ei wybod am Mr Westbury.

Yn ddiweddarach fe roddodd dystiolaeth yn erbyn Mr Westbury yn yr achos llofruddiaeth.

Wrth gael ei groesholi gan y bargyfreithiwr Matthew Stanbury, a oedd yn cynrychioli merch Mrs Morris, Audrey Fraser, awgrymwyd ei fod wedi cynllwynio gyda Mr Westbury ac yn rhan o'r fwrgleriaeth.

"Fe wnaethoch chi daflu Mr Westbury o dan y bws i achub eich hun," meddai Mr Stanbury.

"Na," atebodd Mr Queen.

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig