'Tua 900' o gwsmeriaid yn dal heb gyflenwad dŵr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae angen gwella ar ymateb Dŵr Cymru yn ôl y cynghorydd sir Keith Henson

Mae cannoedd o gwsmeriaid yn y gorllewin yn dal heb ddŵr er "cynnydd da dros nos" i adfer cyflenwadau, yn ôl Dŵr Cymru.

Roedd miloedd o dai yn y gorllewin a'r canolbarth heb gyflenwad dŵr ers y penwythnos, ar ôl i'r tywydd rhewllyd achosi difrod i bibellau.

Mewn datganiad fore Mercher, dywedodd y cwmni: "Fel y mae pethau'n sefyll, mae gyda ni ryw 900 o adeiladau heb ddŵr ac rydym yn disgwyl i'r nifer hwnnw ostwng dros yr oriau nesaf.

"Mae tua 200 o'r rhain yn Aberteifi, ble mae ein timau'n gweithio'n galed i adfer y cyflenwad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae poteli dŵr yn cael eu darparu yn y mannau sydd heb gyflenwad

Roedd y cwmni wedi cadarnhau ddydd Mawrth bod dros 1,500 o gwsmeriaid yn y gorllewin wedi cael eu cyflenwadau'n ôl.

Mae timau, medd y cwmni, yn gweithio i "glirio cloeon aer" yn y system, a allai amharu ar gyflenwadau dros dro wrth i systemau ddychwelyd i'r arfer.

Mae'r cwmni hefyd wedi darparu mwy o boteli dŵr a gosod tanceri dŵr yn Llandysul, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi, ond yn rhybuddio bod angen berwi dŵr o'r tanceri cyn ei yfed.

Maen nhw'n apelio ar bobl i gau unrhyw dapiau nad sy'n cael eu defnyddio, i osgoi defnyddio dŵr yn ddiangen, ac i gwsmeriaid amaethyddol sicrhau nad yw pibellau allanol yn gollwng.

Ychwanegodd: "Hoffwn ni ymddiheuro unwaith yn rhagor i gwsmeriaid am yr anghyfleustra sydd wedi ei achosi a diolch iddyn nhw am eu hamynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna orsafoedd dŵr argyfwng yn Llandysul, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi

'Croesi bysedd' ers dyddiau

Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Mercher dywedodd Anwen Francis, sy'n byw yng Nghenarth, bod "popeth ar stop" ers bore Sul a bod "pentyrrau" o ddillad a llestri bellach angen eu golchi.

"Hefyd mae ceffylau 'da ni a ni 'di gorfod mynd i bentre' arall, yn agosach i Aberteifi i 'nôl cyflenwadau dŵr â bwcedi, a llanw unrhyw fath o container ni 'di gallu ffeindio - ma' hwn yn rhywbeth ni 'di gorfod gwneud yn ddyddiol," meddai.

"Dwi ddim yn dwrdio Dŵr Cymru achos mae'n jobyn anferthol, fydden i'n meddwl, o ran y probleme maen nhw'n wynebu ond... mae'n ddydd Mercher a ni yn dechre pryderu pryd fydd y dŵr yn dychwelyd.

"Dwi'n troi'r tap 'mlaen bob bore a dwi'n croesi bysedd bydd dŵr 'da ni, ond dim byd."

Ychwanegodd bod y gymuned wedi "tynnu at ei gilydd" i helpu unigolion nad sydd mewn sefyllfa i ddefnyddio technoleg er mwyn cadw golwg ar wefan Dŵr Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Tref Aberteifi wedi trefnu tancer dŵr fel bod pobl yn gallu defnyddio'r tŷ bach

Ar raglen Radio Wales Breakfast dywedodd rheolwr Canolfan RAY Aberaeron, Gill Byrne bod y cyflenwad yn ymddangos yn iawn ben bore.

"Roedd gyda ni ddŵr bob hyn a hyn ddoe ac yna fe aeth eto felly ry'n ni'n gobeithio 'neith e aros ymlaen nawr," meddai.

Dywedodd y bu'n rhaid i'r ganolfan, sy'n rhoi gwasanaeth i deuluoedd a phlant, ganslo'i holl weithgareddau yr wythnos hon, a'u bod wedi helpu mynd â dŵr i drigolion oedrannus.

"Mae wedi cael effaith fawr," meddai Ms Byrne. "Mae'r wybodaeth gan Dŵr Cymru wedi bod yn annigonol, felly dyw pobl heb wybod be' sy'n mynd 'mlaen."

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, yr aelod o gabinet Cyngor Ceredigion sy'n gyfrifol am wasanaethau amgylcheddol, bod yna le i edrych ar sut mae gwybodaeth yn cael ei roi i'r cyhoedd dan y fath amgylchiadau.

Bydd Dŵr Cymru, meddai, yn edrych ar hynny "ar ôl datrys yr her sydd o'u blaenau" er mwyn "mynd i'r afael ag unrhyw wendid yn y system" mewn ardaloedd penodol petai sefyllfa debyg yn codi yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig