Drakeford: Angen 'esboniad' am y Gymraeg yn y Cyfrifiad
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi cyfaddef nad yw'n gwybod pam fod ffigyrau diweddaraf y Cyfrifiad yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg - er bod data gwahanol wedi dangos cynnydd.
Ddechrau fis Rhagfyr fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ganlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ymwneud â'r iaith.
Roedd ffigyrau'r Cyfrifiad yn dangos bod canran y siaradwyr yng Nghymru wedi disgyn o 19% i 17.8% - gyda 538,000 o bobl yn medru siarad Cymraeg.
Ond mae arolygon blynyddol gan yr ONS wedi awgrymu yn y gorffennol bod y ffigwr dros 850,000.
Bu sylw hefyd i'r "cynnydd sylweddol" yn nifer y dysgwyr Cymraeg yn ystod y pandemig, ac mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod angen edrych eto felly ar y data.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr ONS: "Rydym wedi cael partneriaeth agored ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol proses y Cyfrifiad ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith gyda nhw ar sut i wneud y defnydd gorau o ganfyddiadau'r broses."
Diffyg hyder yn siarad Cymraeg?
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n anodd i wneud dewisiadau am bolisïau pan mae un set o ffigyrau yn dangos cwymp yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg, ond ffigyrau eraill mas o'r un corff yn dangos twf.
"Dwi eisiau gweld [yr ONS] yn gwneud darn o waith i ni, i roi mwy o esboniad i ni am pam mae'r gwahaniaeth yna wedi codi."
Fe wnaeth data'r Cyfrifiad ddangos bod y gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn bennaf oherwydd gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed yn nodi eu bod yn siarad yr iaith.
Ond mae rhai arbeniwyr wedi awgrymu y gallai'r ffigyrau eleni fod yn "adlewyrchiad mwy realistig" o'r gwir sefyllfa mewn ysgolion yng Nghymru, gyda'r Cyfrifiad wedi ei gynnal yn ystod y pandemig pan fu plant yn dysgu o adref am gyfnodau helaeth.
Dywedodd Mr Drakeford fod gan Lywodraeth Cymru "syniadau" ynghylch pam fod y gwahaniaeth hwnnw'n bodoli, "ond nid esboniad" pendant.
"Pan mae rhywbeth fel Cyfrifiad yn dod atoch chi mae'n swyddogol, dim ond unwaith bob degawd mae'n dod," meddai.
"Ni'n gwybod bod lot o bobl yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg, sy'n siarad Cymraeg bob dydd.
"Ond does dim hyder 'da nhw, pan mae rhywbeth swyddogol fel 'na o flaen nhw, [i nodi eu bod nhw'n siarad Cymraeg]."
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr arolygon?
Mae'r Cyfrifiad yn arolwg gorfodol sydd yn cael ei gynnal bob 10 mlynedd - mae'n gofyn am wybodaeth am bob math o bynciau, gydag unigolion yn ei lenwi eu hunain.
Fodd bynnag, mae Arolwg Poblogaeth Blynyddol yr ONS yn arolwg dewisol, gyda phobl yn cael eu holi wyneb yn wyneb.
Gyda'r cwestiwn iaith, felly, mae'n bosib bod cael holwr i'w helpu gyda'r atebion yn golygu bod siaradwyr Cymraeg llai hyderus yn fwy tebygol o nodi eu bod nhw yn medru'r iaith nag y maen nhw yn y Cyfrifiad.
Mae arolygon wyneb-i-wyneb hefyd weithiau'n gallu golygu bod rhai pobl yn rhoi ateb maen nhw'n credu y mae'r holwr 'eisiau' ei glywed.
Wrth ymateb i sylwadau Mr Drakeford dywedodd llefarydd ar ran yr ONS: "Roedd gennym ni bartneriaeth agored ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol proses y Cyfrifiad, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar sut i wneud y defnydd gorau o'n canfyddiadau."
Y berthynas â Sunak
Wrth adlewyrchu ar flwyddyn gythryblus yng ngwleidyddiaeth y DU, dywedodd Mr Drakeford fod helynt arweinyddol y blaid Geidwadol wedi golygu llywodraethu llai effeithiol ar bob lefel.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf be' ni ddim wedi cael yw llywodraeth yn San Steffan sy'n gallu canolbwyntio ar y gwaith pwysig sydd gan lywodraeth i'w wneud," meddai.
"Bob tro mae jyst yn creu problemau i ni, jyst i wneud pethau pob dydd, pethau ymarferol.
"[Doedd] gweinidogion yn San Steffan ddim yn gallu canolbwyntio ar ddewisiadau pan o'n ni'n dod at ein gilydd, roedden nhw jyst yn becso am drio cadw pobl i fynd."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio am berthynas fwy adeiladol gyda'r prif weinidog presennol, Rishi Sunak, o'i gymharu â'i ragflaenwyr.
"Y peth pwysig yw mae e wedi trio dechrau fel prif weinidog mewn ffordd wahanol i Boris Johnson a Liz Truss, ac mae hwnna'n bwysig nid jyst i ni yng Nghymru, ond am y Deyrnas Unedig i gyd," meddai.
"Mae'n bwysig i fi, os mae'r Deyrnas Unedig yn mynd i lwyddo, i gael rhyw fath o ddelio gyda'n gilydd sy'n barchus, a bod ni'n gallu dibynnu ar y patrymau o gydweithio gyda'n gilydd."
'Gwerth' mynd i Qatar
Fe deithiodd Mr Drakeford i Qatar fis diwethaf i wylio Cymru yng Nghwpan y Byd, ond mae'n mynnu y bydd y cysylltiadau busnes a wnaed yn ystod ei ymweliad ef a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn dangos gwerth am arian i'r trethdalwyr.
"Dwi'n siŵr byddwn ni'n cael yr arian yna yn ôl dro ar ôl tro drwy fod yna ar lwyfan y byd," meddai.
"Roedd cyfle 'da fi i gwrdd gyda nifer fawr o bobl yn Qatar, pobl yn y maes busnes sy'n buddsoddi'n barod yma yng Nghymru, cytundebau sydd 'da ni ers blynyddoedd nawr, ond ble ni'n gallu gweld mwy yn y dyfodol.
"Ym maes addysg hefyd mae eitha' tipyn o fyfyrwyr o Qatar ym mhrifysgolion yma, perthynas rhwng ein hamgueddfa genedlaethol ni a'r amgueddfa genedlaethol yn Qatar.
"Roedd yr amser wnaethon ni roi, mae hwnna'n mynd i greu posibiliadau i ni yn y dyfodol dwi'n siŵr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022