Hywel Gwynfryn a Noson Nadolig 1982
- Cyhoeddwyd
Beth oedd ar S4C dros Nadolig cyntaf y sianel, 40 mlynedd yn ôl?
Ym mis Tachwedd 1982 y cafodd S4C ei lansio, a mis yn ddiweddarach roedd y sianel newydd yn paratoi i ddarlledu ei hamserlen Nadolig gyntaf un.
Y brif raglen oedd yn diddanu'r genedl ar noson Nadolig 1982 oedd Rhaglen Hywel Gwynfryn.
Cafodd Hywel ei hatgoffa ohoni gan griw Cymru Fyw sydd wedi bod yn tyrchu yn yr archif gan rannu ei atgofion wrth edrych yn ôl.
Wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn gynharach yn 2022, mae'r cyflwynydd bytholwyrdd yn dal i ddarlledu ac yn ymddangos ar S4C eto dros Nadolig 2022 mewn rhaglen arbennig ar 30 Rhagfyr yn edrych yn ôl dros ei yrfa.
Mae Hywel yn 80 yn cael ei ddarlledu am 20:00 nos Fawrth, 30 Rhagfyr, 40 mlynedd wedi iddo gyflwyno'r rhaglen Nadolig gyntaf ar y sianel.
"Mae 'na ddeugain mlynedd wedi mynd heibio a fel dy'dodd Dafydd Iwan - Yma o Hyd - a dwi'n ffodus iawn fy mod i yma o hyd ac yn cael gwneud rhaglen ar noswyl Nadolig yn y prynhawn," meddai wrth hel atgofion.
Bydd y rhaglen honno ar Radio Cymru am 14:00 ar 24 Rhagfyr.
Beth arall oedd ar S4C ar ddiwrnod Nadolig 1982?
Yn wahanol iawn i heddiw, doedd y darlledu yn yr iaith Gymraeg ddim yn dechrau ar y sianel tan 16:00, ers talwm gyda "rhaglenni Saesneg" ymlaen tan hynny.
Am 16:00 roedd Ingan, gyda Taro Tant i ddilyn awr yn ddiweddarach. Am 17:35 roedd Clwb S4C gyda rhaglenni fel Wil Cwac Cwac a Pili Pala i gadw sylw'r gynulleidfa ifanc.
Ar ôl y Newyddion am saith y nos, roedd rhaglen yn dilyn Endaf Emlyn a'i fand yn Norwy, cyn prif raglen y noson honno, sef, Rhaglen Hywel Gwynfryn.
Ac eleni? Dechrau Canu Dechrau Canmol, Pobol y Cwm a rhaglen Tudur Owen: Go Brin fydd yr arlwy ar Noson Nadolig; mae'r amserlen lawn i'w chael yma, dolen allanol.
Nadolig Llawen!
Hefyd o ddiddordeb: