'Pwysau ar ben pwysau' i ffermwyr yn sgil costau uwch

  • Cyhoeddwyd
Jams ar y fferm
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnydd mewn costau bwyd anifeiliaid a gwrtaith wedi cynyddu'n sylweddol i Jams Morgan

Mae 'na alw am ragor o gymorth i ffermwyr wrth i gostau amaethyddol gynyddu.

Wedi blwyddyn anodd, gyda chwyddiant yn effeithio'n waeth ar y sector amaethyddol na sawl sector arall, mae'r gaeaf yn benodol yn gyfnod heriol.

Yn ôl undeb NFU Cymru mae mwy a mwy o amaethwyr yn gadael y sector wrth iddyn nhw ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chostau uwch i fwydo'u hanifeiliaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cynnig help ariannol drwy sawl ffynhonnell, tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod wedi cyflwyno toriadau treth tanwydd a threth ar werth sy'n helpu amaethwyr.

Ar ei fferm tu fas i Bow Street yng Ngheredigion mae Jams Morgan yn gofalu am ei fuches odro.

Fel arfer mae'r gwartheg yn treulio'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ar y caeau, ond am gyfnod bob gaeaf maen nhw o dan do.

Mae'r pwysau ariannol eleni yn golygu bod cadw stoc dan do yn ddrutach nag erioed.

"Chi'n sôn am lot mwy o arian yn mynd mas bob mis," dywedodd Jams Morgan.

"Chi wastad yn becso achos fi sy' wastad ola' i gael fy nhalu."

'Torri'n ôl ar gyflenwadau'

Dywedodd fod y llwyth diweddaraf o wrtaith a brynodd i'r fferm wedi costio £21,500 a'i fod wedi gorfod torri'n ôl.

"Ma' hwnna'n lot fwy o gynnydd," dywedodd Jams.

"Dy'n ni wedi torri'n ôl a ma' lla'th 'dyn ni'n cynhyrchu ar y fferm wedi cwympo o achos 'ny.

"Pan 'dw i 'di arwyddo contract am y bwyd dw i wedi prynu am y chwe mis nesa' a ma' fe lan o tua £250 y tunnell i tua £380 'wan, felly mae e wedi codi dipyn."

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i sawl unigolyn a busnes trwy Gymru - gyda chwyddiant yn golygu bod costau nwyddau bob dydd ar gynnydd.

Ar hyn o bryd, mae lefel chwyddiant y Deyrnas Unedig yn 10.7%.

Ond mae ffermwyr yn wynebu costau uwch - gydag amcangyfrif bod chwyddiant amaethyddol yn 19.8%

Mae ffermwyr wedi gweld costau sawl adnodd elfennol i'w busnes yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl ffigyrau gan AHDB (Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth), undeb NFU Cymru a Defra, mae pris gwrtaith wedi codi 240% ers 2019.

Mae bwyd anifeiliaid wedi cynyddu 75% a thanwydd i ffermwyr i fyny 73%.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Morgan o NFU Cymru yn rhybuddio fod angen mwy o gymorth gan y llywodraeth

Mae'r pwysau ychwanegol yn golygu bod rhai ffermwyr yn gadael y diwydiant yn ôl NFU Cymru, ac mae'r angen am gymorth, meddent, gan y llywodraeth yn fwy nag erioed.

"Dw i'n credu bod cyfle gan y llywodraeth yn San Steffan drwy'r Bil Amaeth i ddefnyddio y pwerau sydd gyda nhw i ddod â mesurau mewn i edrych ar y tegwch 'na tu fewn y gadwyn cyflenwi bwyd," dywedodd Dylan Morgan o NFU Cymru.

"Gyda Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, ni yn y broses o gyflwyno polisi amaeth newydd sy'n mynd i ddod mewn o 2025.

"Beth ni eisiau sicrhau yw bod cynhyrchu bwyd a diogelu faint o fwyd ni'n cynhyrchu yng Nghymru yn ganolbwynt i bolisi amaeth yn y dyfodol yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Tir Dewi yn annog ffermwyr i gysylltu am gymorth, yn ôl y sylfaenydd, yr Hybarch Eileen Davies

Wrth i'r pwysau ar ffermwyr gynyddu, mae elusen amaethyddol Tir Dewi wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau gan bobl yn gofyn am gymorth.

"Mae e'n bwysau, ar ben pwysau, ar ben pwysau," dywedodd yr Hybarch Eileen Davies, sylfaenydd Tir Dewi.

"Dim ond hyn a hyn mae unrhyw un yn gallu ei gario, ac am y rheswm hynny, fi yn daer yn erfyn ar ffermwyr, codwch y ffôn 'na i ni.

"Ni 'ma yn barod i wrando arnoch chi ac i gynnig pa bynnag gymorth ag y fedrwn ni..."

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gyfnod "heriol iawn i sectorau" gan gynnwys y sector amaeth.

"Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi pecyn o gefnogaeth oedd werth mwy na £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi gwydnwch yr economi wledig."

Dywedon bod rhagor o arian ar gael fel rhan o'r Cynllun Taliad Sylfaenol (CTS) eleni ac ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod yn barhaus i adolygu'r fethodoleg ariannu fferm a disodli, yn llawn, y cyllid y byddai Cymru wedi'i gael pe bawn wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu yn amlygu hyd yn oed yn fwy pa mor bwysig yw trosglwyddo i system newydd o gymorth fferm sy'n decach ac a fydd yn cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, tra'n mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.

"Dyna ein nod gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a ddaw i rym o 2025."

'Cwbl ymwybodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae cefnogi ffermwyr Prydain a'n cymunedau gwledig yn hynod bwysig i'r llywodraeth bresennol.

"Ry'n yn gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu ffermwyr yn sgil costau uwch yn enwedig ynni - dyna pam ein bod wedi cyflwyno mesurau fel dod â thaliadau y Cynllun Taliad Sylfaenol yn gynt, gwella'r cynllun iawndal ffliw adar a gostwng TAW a threth tanwydd.

"Ry'n hefyd yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd ac fe fyddwn yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, rheolwyr tir a grwpiau amgylcheddol i edrych ar ffyrdd o wella ein polisi ffermio yn y dyfodol."