Dedfrydu dyn am ladd golffiwr gydag ergyd dwrn

  • Cyhoeddwyd
Morgan WainewrightFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Morgan Wainewright, sydd bellach yn 20 oed, yn treulio cyfnod o dan glo mewn canolfan gadw

Mae dyn, 19, wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd tan glo mewn canolfan gadw wedi iddo gyfaddef lladd dyn gydag un ergyd dwrn.

Roedd Morgan Wainewright o Drefynwy, yn 19 oed pan ymosododd ar Andrew Nicholas o Poole, Dorset, yn ystod oriau mân 26 Mehefin.

Roedd y dyn 43 oed wedi bod yn ymweld â Threfynwy ar benwythnos golffio.

Plediodd Wainewright, a oedd wedi bod yn yfed ers 16:00 y prynhawn cynt ac wedi cymryd ketamine, yn euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Casnewydd.

Roedd wedi ei gyhuddo'n wreiddiol o anafu gyda'r bwriad o wneud niwed corfforol difrifol, ond cafodd ei gyhuddo o ddynladdiad wedi i Mr Nicholas farw bedwar diwrnod wedi'r ymosodiad.

'Eisiau ymladd yn erbyn unrhyw un'

Clywodd y llys fod Wainewright wedi bod allan yn Nhrefynwy gyda chriw o ffrindiau.

Roedd lluniau teledu cylch cyfyng a chwaraewyd i'r llys yn ei ddangos y tu mewn i dafarn y Kings Head yn ffraeo â chyd-yfwyr, ac ar un adeg bu'n rhaid iddo gael ei dynnu i ffwrdd o ddyn arall.

Dywedodd un o'r dynion oedd yn gweithio ar ddrws y dafarn ei fod "yn ymddangos fel ei fod eisiau ymladd yn erbyn unrhyw un o unrhyw oedran am unrhyw reswm".

Wedi i'r dafarn ofyn i Wainewright adael, roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos ymladd rhwng y diffynnydd a'i ffrindiau, a'r grŵp o ddynion tu fewn i'r dafarn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Andrew Nicholas ei fod yn berson arbennig ac yn olffiwr o fri

Yn ddiweddarach, dangosodd teledu cylch cyfyng ef yn siarad ag Andrew Nicholas am rai munudau cyn yr ergyd angheuol.

Wrth syrthio tarodd Nicholas ei ben yn erbyn palmant a chwalu cefn ei benglog.

Clywodd y llys "nad oeddent yn adnabod ei gilydd" cyn y noson honno.

Dywedodd James Wilson, ar ran yr erlyniad, fod Wainewright wedi mynd i barc sglefrio lleol a chyfnewid ei dop gyda ffrind, er iddo ei gyfnewid yn ôl yn ddiweddarach a chyflwyno ei hun i'r heddlu.

Aed â Mr Nicholas i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Nododd archwiliad post mortem achos ei farwolaeth fel "anaf pen".

'Y mab mwyaf cariadus'

Dedfrydwyd Wainewright i bedair blynedd o dan glo mewn canolfan gadw, gan nodi oed y troseddwr.

"Fe fyddwch chi'n treulio hanner y cyfnod yn y ganolfan," meddai "cyn cael eich rhyddhau ar barôl."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andrew Nicholas ei ddarganfod yn anymwybodol yn Stryd Mynwy yn ystod oriau mân ddydd Sul 27 Mehefin

Trwy fargyfreithiwr dywedodd mam Andrew Nicholas bod marwolaeth ei mab wedi torri ei chalon.

Disgrifiodd ef fel "y mab mwyaf cariadus y gallai mam ddymuno ei gael".

"Dinistrio bywydau tu hwnt i eiriau," oedd disgrifiad brawd Mr Nicholas.

Dywedodd bod y farwolaeth wedi gadael ei ôl ar ei iechyd meddwl yntau hefyd, gan ddisgrifio'r ffrae fel "gwrthdaro cwbwl ddi-bwrpas".

Wrth amddiffyn Wainewright, dywedodd Sarah Jones ei fod yn edifar a bod y digwyddiad "yn fyw ym meddwl Morgan Wainewright cyn iddo gysgu - ac mae'n gwybod mai felly y dylai fod".

Pynciau cysylltiedig