'Anodd iawn bod ymhell o'r teulu yn Wcráin dros y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
Valeriia (chwith) ac Anastasiia
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Valeriia Pivensay ac Anastasiia Patiuk yn dathlu'r Nadolig yng Nghymru eleni

Bydd dwy fyfyrwraig o ardal Kyiv yn Wcráin yn treulio'r Nadolig ar gampws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan eleni.

Dyw Anastasiia Patiuk a Valeriia Pivensay yn methu dychwelyd at eu ffrindiau a'u teuluoedd oherwydd y rhyfel.

Ond mae'r ddwy yn dweud eu bod yn bwriadu dod â rhai o draddodiadau Nadolig eu gwlad gyda nhw.

"Un o'n prydau traddodiadol adeg Dolig yw Kutya," medd Anastasiia, "sef math o uwd melys wedi'i 'neud gyda reis, neu wenith a llysiau sych.

"Ry'n ni hefyd yn rhoi garlleg ar y bwrdd i'n hamddiffyn rhag ysbrydion drwg."

'Gwahanol iawn'

Fe ddaeth y ddwy i orllewin Cymru i astudio ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddilyn cwrs ôl-radd mewn dinasyddiaeth byd eang ac arweinyddiaeth.

Ond ar ôl gorffen eu cwrs ymhen dwy flynedd, maen nhw'n breuddwydio am gael dychwelyd i "ail-adeiladu Wcráin i'r dyfodol".

Eleni fe fydd Nadolig yn wahanol iawn i'r arfer iddyn nhw, gyda chariad Anastasiia yn helpu fel meddyg ar y rheng flaen yn y rhyfel.

"Rwy' wir yn gobeithio y bydd e a phawb adre yn cael cyfle i ddod at ei gilydd am ginio Dolig, er mwyn mwynhau ychydig bach o ysbryd yr Ŵyl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r brifysgol yn cynghori a chefnogi'r ddwy ar gyfer bywyd ar gampws Llambed

Bu'r brifysgol yn cynghori a chefnogi'r ddwy cyn iddyn nhw adael Wcráin ac yn eu paratoi ar gyfer cyrraedd Cymru a bywyd ar gampws Llambed.

Ar ôl dod i Gymru maen nhw'n dweud iddyn nhw dderbyn "croeso anhygoel", ac maen nhw'n yn sôn yn arbennig am y tîm rhyngwladol yn y coleg oedd wedi paratoi pecyn croeso ar eu cyfer.

Roedd hyn yn "beth hyfryd iawn", medden nhw.

Wrth gofio am deulu a ffrindiau adref mae Valeriia yn dweud y bydd Nadolig yn wahanol eleni iddyn nhw a phawb adref.

"Ond mae pobl Wcráin yn gryf iawn," meddai, "ac fe fyddan nhw'n dathlu'r Nadolig ta beth.

"Ond eleni fe fyddan nhw yn dathlu gyda blas chwerw colledion, ond ar yr un pryd gyda llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol."

'Hafan a lle diogel'

Mae gan y brifysgol hanes hir wrth geisio helpu a gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Dywed Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol y Coleg: "Ry'n ni'n g'neud pob ymdrech i sicrhau bod hwn yn hafan ac yn lle diogel i'r myfyrwyr gan gynnig lloches iddyn nhw yma yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anastasiia a Valeriia wedi derbyn ysgoloriaeth i ddilyn cwrs ôl-radd

Mae Anastasiia a Valeriia yn dilyn y diweddaraf am y rhyfel yn Wcráin funud wrth funud ac yn cwrdd bob nos i wrando ar areithiau'r Arlywydd Zelensky.

Ond maen nhw'n cyfaddef fod hyn yn codi hiraeth ac yn gwneud iddyn nhw deimlo'n emosiynol iawn a hiraethu am eu cartref.

"Mae yn anodd iawn bod ymhell o'r teulu a ffrindie dros y Nadolig," dywed Anastasiia.

"Rwy' wir yn gobeithio y bydd pethau yn newid cyn hir."

Pynciau cysylltiedig