Planhigyn 'gwyrthiol' o fudd i ffermwyr a'r amgylchedd?

  • Cyhoeddwyd
Hywel
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwil yn ateb cwestiynau am ffermio cynaliadwy yn ôl Hywel Dafis

Gallai prosiect ymchwil sy'n cael ei redeg yn rhannol gan Brifysgol Aberystwyth helpu ffermwyr Cymru i droi gwastraff amaethyddol yn borthiant i dda byw.

Mae'r prosiect yn edrych ar sut y gellid defnyddio slyri fferm a dŵr gwastraff i dyfu lliniad y dŵr (duckweed) - planhigyn llawn protein sy'n tyfu ar wyneb dŵr.

Mae wedi ei ddisgrifio fel 'planhigyn gwyrthiol' gan ei fod yn tyfu gyda'r cyflymaf ar y blaned. Mae'n gallu dyblu ei fàs mewn wythnos ac mae'n gallu glanhau dŵr gwastraff.

Gweledigaeth y prosiect yw cyrraedd sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill o ran budd i'r amgylchedd a budd i ffermwyr.

Enw'r prosiect gwerth €1.46 miliwn yw Brainwaves ac mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Corc yn Iwerddon.

Mae wedi'i ariannu'n rhannol gan €1.16 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Disgrifiad o’r llun,

Mae storio sylri'n gostus

Amcangyfrifir bod 500,000 o wartheg godro yng Nghymru, a bod pob buwch yn ysgarthu tua 50kg o wastraff bob dydd.

Mae storio slyri yn gostus ac wedi'i reoleiddio'n agos, oherwydd gall achosi niwed amgylcheddol os yw'n cael ei ryddhau yn y lle anghywir ac yn mynd mewn i gyrsiau dŵr.

'Hel arian o faw'

Gallai defnyddio slyri i dyfu lliniad y dŵr helpu i ddatrys nifer o broblemau a bod o fudd i ffermwyr, yn ôl Dr Dylan Gwynn-Jones, sy'n arwain y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Gall lliniad y dŵr cynhenid wneud slyri yn adnodd gwerthfawr," meddai.

"Mae'n un o'r planhigion sy'n tyfu gyflymaf, mae'n gallu goddef amoniwm, sydd i'w gael mewn slyri, ac mae'n cynhyrchu asidau amino gwerthfawr hanfodol sy'n ei wneud yn borthiant addawol i anifeiliaid.

"Drwy helpu'r diwydiant amaeth i ddatblygu technoleg i gynhyrchu bwyd anifeiliaid o wastraff, i bob pwrpas, mae'r ymchwil yn galluogi ffermwyr i 'hel arian o faw'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae lliniad y dŵr yn gallugoi ffermwyr i "hel arian o faw" yn ôl Dr Dylan Gwynn-Jones

Gweledigaeth y prosiect yw cyrraedd sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill o ran budd i'r amgylchedd a budd i ffermwyr.

Trwy dyfu lliniad y dŵr ar y fferm, fe allai'r planhigyn dynnu gwastraff nitrogen a ffosffadau allan o'r dŵr gan lanhau'r dŵr yn y broses.

Fe allai hynny olygu bod modd ei ryddhau'n ddiogel.

Mae'r maetholion yn y dŵr gwastraff yn arwain at dyfiant cyflymach sydd hefyd yn cymryd CO2 o'r atmosffer a gellid defnyddio lliniad y dŵr fel porthiant llawn protein ar gyfer da byw.

'Addawol'

Mae gan Hywel Dafis 400 o wartheg godro ar fferm yn Nhalgarreg ger Llandysul.

Dywedodd fod ffermwyr bob amser yn chwilio am ffynonellau mwy cynaliadwy o brotein ar gyfer eu da byw yn lle gorfod mewnforio bwyd ar adeg o gynnydd enfawr mewn costau.

"Mae ffermwyr wedi bod, ers degawdau, yn edrych ar ffyrdd mwy cynaliadwy, mwy lleol o gynhyrchu protein - porfa yw un ffordd, ond dyw porfa ddim ar gael drwy gydol y flwyddyn.

"Felly mae'n rhaid cael rhywbeth yn y gaeaf yn ychwanegol at y borfa fel source o brotein a byddai hwn falle yn ateb rhai o'r cwestiynau hynny.

"Yn sicr mae na fanteision yna oherwydd beth maen nhw'n edrych mewn i a beth fyddai duckweed yn golygu os yw'r prosiect yn dod fel maen nhw'r tybio y daw e, bydd yn source o brotein yn enwedig dros y gaeaf.

"Mae e sicr yn addawol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae lliniad y dŵr wedi ei ddisgrifio fel "planhigyn gwyrthiol"

Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi astudio twf lliniad y dŵr mewn labordai ac ar raddfa fwy mewn tanciau ar dir sy'n eiddo i'r prifysgolion.

Nawr maen nhw'n apelio ar ffermwyr yng Nghymru i gymryd rhan yn yr ymchwil ar eu ffermydd eu hunain.

Dywedodd Dr Dylan Gwynn-Jones eu bod yn "awyddus iawn i ffermwyr a'r sector amaethyddol yn ehangach ymwneud â'r prosiect yma".

"Gyda chynnydd disgwyliedig mewn cynhyrchiant bwyd byd-eang, mae gwir angen i amaethyddiaeth fod yn garbon-gyfeillgar, tra'n gwarchod ansawdd dŵr a bioamrywiaeth," meddai.

Dywedodd Hywel Dafis y bydd yn dilyn datblygiad y prosiect ac y byddai gan ffermwyr eraill ddiddordeb hefyd.

"Os ydych chi'n gallu cael protein ar ddiwedd y dydd, bydde fe siŵr o fod yn rhywbeth y byddai unrhyw un yn edrych i mewn i fuddsoddi ynddo gogyfer â tyfu duckweed," meddai.