Menyw ifanc yn cael pyliau o banig dros negeseuon hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae menyw ifanc o'r Trallwng yn dweud ei bod hi wedi diodde' pyliau o banig ac yn teimlo'n bryderus ar ôl iddi gael ei thargedu gan gamdriniaeth hiliol ar-lein.
Dywed Jaz Woodward, 23, ei bod yn credu bod unigolyn wedi bod yn anfon delweddau a negeseuon bygythiol ati - llawer ohonyn nhw â chynnwys hiliol.
Dywedodd Jaz, sy'n hil gymysg, fod y sylwadau wedi dechrau ar ôl iddi agor busnes becws newydd yn Y Trallwng ym mis Hydref.
Mae hi'n dweud bod y negeseuon bygythiol yn parhau a'u bod yn cael eu hanfon i gyfrif y busnes ar wefan gymdeithasol.
"I ddechrau, roedden nhw jyst yn gas, ddim yn hiliol. Wedyn dwi'n meddwl oherwydd nad o'n i'n ymateb fe aethon nhw'n waeth i drio cael ymateb gen i," meddai.
'Dyw e ddim yn dderbyniol'
Dywedodd fod distawrwydd am rai wythnosau, ond pan ddefnyddiodd hi opsiwn cwestiwn dienw ar ei stori Instagram, fe newidiodd pethau.
"Fe bostiais ef ar fy stori i ddangos nad yw'n dderbyniol dweud pethau fel hyn, yn enwedig eu dweud nhw yn ddienw," meddai Jaz.
"Dywedais 'os oes gennych chi broblem gyda fi gadewch i ni siarad amdano wyneb yn wyneb ac rwy'n hapus i ateb unrhyw gwestiynau os ydw i wedi gwneud unrhyw beth i'ch ypsetio'.
"Rydw i fwy na thebyg wedi cael tua 100 o negeseuon - roedd llawer ohonyn nhw'n defnyddio'r N-word, yn eitha' bygythiol, ac wedyn ro'n nhw'n tynnu lluniau o fy nghar, fy nhŷ, pan dwi'n siopa.
"Negeseuon yn dweud 'dwi'n gwybod ble wyt ti', eu bod nhw'n mynd i losgi'r siop i lawr, jyst lot o bethau erchyll a lot ohono ddim yn neis.
"Dydw i ddim hyd yn oed eisiau ailadrodd yr hyn a ddywedon nhw."
Dywed Jaz iddi gysylltu â'r heddlu ynglŷn â'r negeseuon ar 27 Rhagfyr.
Ond dywed Heddlu Dyfed-Powys nad ydyn nhw wedi derbyn adroddiad am y digwyddiadau.
Fe wnaeth ddau swyddog ymweld â becws Jaz ddydd Iau ar ôl darllen am ei phrofiadau yn y cyfryngau lleol.
'Wastad wedi cael sylwadau hiliol'
Yn ôl Jaz, pan gafodd hi'r negeseuon gyntaf doedd hi ddim eisiau wynebu ei chwsmeriaid, a dywedodd y byddai'n aros yng nghefn y siop tra bod ei mam yn gweini.
"Hoffwn feddwl mai dim ond un person ofnadwy sy'n gwneud hyn, ac nid grŵp, ond dwi ddim yn gwybod," meddai.
"Mae'n wahanol i'r hyn dwi wedi'i gael o'r blaen - dwi wastad wedi cael sylwadau hiliol achos dwi'n fenyw hil gymysg mewn tref wen. Dwi'n edrych yn wahanol i bawb arall.
"Dyw llawer ohono ddim wedi fy mhoeni i yn y gorffennol, ond y tro hwn mae e wedi teimlo'n faleisus.
"Mae wedi gwneud i mi deimlo'n bryderus. Gartref byddwn i'n cael pyliau o banig a ddim eisiau dod i'r gwaith.
"Dwi'n berson eithaf preifat, felly mae meddwl bod nhw'n gwybod ble dwi'n byw yn eithaf brawychus oherwydd dy'ch chi ddim yn gwybod pa mor bell mae'r bobl hyn yn mynd i fynd."
Mae Jaz yn dweud ei bod hi'n llawer mwy gwyliadwrus nawr ynglŷn â phwy sy'n dod i mewn ac allan o'r siop, ond mae hi wedi rhannu ei stori ar gyfryngau cymdeithasol ac yn dweud bod y gefnogaeth gan ei chwsmeriaid wedi bod yn anhygoel hefyd.
"Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael gan ddieithriaid wedi bod yn rhagorol - dwi wedi cael digon o flodau i ddechrau fy siop flodau fy hun!
"Mae un o fy nghwsmeriaid yn dod ac yn eistedd gyda mi gyda'r nos fel nad ydw i ar fy mhen fy hun yn y tywyllwch, oherwydd dyna pryd mae rhai o'r lluniau wedi'u tynnu ac mae'n frawychus."
'Pob ymholiad posib'
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Gallwn gadarnhau nad ydym wedi derbyn adroddiad am y digwyddiadau hyn, fodd bynnag ar ôl darllen amdanynt yn y cyfryngau, fe wnaeth ein swyddogion yn Y Trallwng ymdrechion yn gyflym iawn i gysylltu â'r dioddefwr.
"Rydym yn cymryd adroddiadau o'r math hwn o ddifrif, a gyda chydweithrediad y dioddefwr byddwn yn cynnal pob ymholiad posib i gael gwared ar y negeseuon sarhaus hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020