Llyfrau Asterix, 'yr hen fyd' a'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
"Y trueni mawr ydy bod ni ddim yn gallu adleoli Asterix i Sir Benfro neu Benrhyn Llŷn neu rhywle! Galle fe wneud yn arbennig o dda!"
Gyda ffilm newydd am Asterix y rhyfelwr bach dewr o wlad Gâl sy'n herio grym y Rhufeiniaid i gael ei rhyddhau yn sinemâu Ffrainc ddechrau Chwefror mae Cymru Fyw wedi bod yn sgwrsio gydag Alun Ceri Jones am apêl straeon Asterix a'r gwaith o'u trosi i'r Gymraeg.
Mae'r llyfrau comic o Ffrainc wedi taro tant yng Nghymru ers y saithdegau ac Alun wedi bod yn cyfieithu a chyhoeddi'r fersiynau Cymraeg ers blynyddoedd.
I ddarllenwyr Cymraeg mae'n hawdd gweld sut mae straeon René Goscinny ac Albert Uderzo am Asterix ac Obelix a'u pentref sy'n sefyll yn gadarn yn erbyn twf ymerodraeth Rhufain yn ein hatgoffa o'n sefyllfa ni'n hunain fel gwlad leiafriol.
"Yn y Ffrangeg, yn enwedig yn llyfrau cynnar yn Ffrainc gafodd eu cyhoeddi yn y 1960au roedd pawb yn dal i gofio am yr Ail Ryfel Byd felly Ffrancwyr ac Almaenwyr oedd y peth.
"Ond i ni yng Nghymru - y Cymry a'r Saeson yw hi; ti'n sôn am y bobl fach yn erbyn y bobl fawr, dyna beth yw stori Asterix," meddai Alun Ceri Jones.
"Mae'r llwyth bach o Galiaid yma yng Ngwlad Gâl oedd yn siarad iaith oedd yn debyg iawn i'r Frythoneg nôl 2000 o flynyddoedd yn ôl, mae'r holl gysylltiadau diwylliannol, ieithyddol yna yn perthyn yn agos iawn i deithi meddwl Cymru."
Y cyfieithiadau cynnar
Daeth y Gymraeg yn un o'r dros 100 o ieithoedd mae'r straeon wedi eu cyfieithu iddyn nhw dros y byd diolch i frwdfrydedd Alun pan oedd yn fachgen ysgol a gweledigaeth y diweddar Roger Boore; arloeswr ym maes cyhoeddi plant yng Nghymru.
Eglurodd Alun sut aeth ati i geisio cyfieithu'r llyfrau yn wreiddiol pan oedd yn ddim ond 14 oed:
"O'n i yn yr ysgol, ac oedd gyda nhw lyfrau Asterix Ffrangeg yn y llyfrgell ac oedd gyda ni gartref lyfrau bach du a gwyn Asterix yn Saesneg... oedd 'na fersiynau Eidaleg hefyd yn y llyfrgell.
"Roedd hynna wedi codi chwilfrydedd yndda'i i gymharu ieithoedd."
Gan ddefnyddio geiriadur a'r hyn roedd yn ei ddysgu yn ei wersi Ffrangeg dechreoudd gyfieithu'r comics am hwyl, gan wella ei Ffrangeg wrth fynd.
Gyda hylif Tippex byddai'n paentio dros y deialog Saesneg yn ei lyfrau ac yn sgrifennu cynnwys Cymraeg drostynt yn y swigod siarad.
"Dyna oedd y cam cyntaf ac fe ddaeth un o'r llyfrau yma at ei gilydd a wnes i anfon y deipysgrif at Roger Boore yng Ngwasg y Dref Wen."
Roedd Roger Boore a'i wraig Anne wedi sefydlu Gwasg y Dref Wen yn 1969 er mwyn cyhoeddi llyfrau Cymraeg safonol i blant, llawer ohonyn nhw yn drosiadau deniadol o dramor.
Drwy gysylltu â nhw fe wthiodd Alun gynlluniau'r wasg i gyhoeddi llyfrau Asterix yn Gymraeg yn eu blaen a than adain Roger Boore, oedd yn ieithydd gyda gradd yn y Clasuron, troswyd wyth o lyfrau Asterix i'r Gymraeg rhwng 1976 ac 1981.
"Fe wnaethon nhw werthu fel slecs yn y cyfnod cyntaf yna," meddai Alun.
Yna aeth Asterix yn dawel yn Gymraeg am flynyddoedd tan i Alun sefydlu cwmni cyhoeddi Dalen sydd wedi trosi 17 o deitlau i'r Gymraeg o'r newydd ers 2012, a nifer hefyd i Gaeleg, Gwyddeleg a'r Scoteg.
"Rhwng y saithdegau a nawr mae 'na lot o bethau wedi newid," meddai Alun gan ddweud bod iaith y rhai gwreiddiol ychydig mwy ffurfiol.
"Mae'n iaith ni erbyn hyn yn llawer mwy rhydd, mae pobl yn fodlon derbyn iaith sydd falle yn fwy rhydd...
"O'n i'n teimlo erbyn hyn y gallen ni fod yn cael lot mwy o sbort a hwyl drwy ddefnyddio iaith oedd falle ddim wastad yn berffaith, yn llafar dros ben."
'Agor drws i'r hen fyd'
Yn Ffrainc, mae Asterix yn frand mawr gyda pharc thema yn ogystal â'r ffilmiau sinema. Does dim gwybodaeth eto a fydd y ffilm ddiweddaraf yn cael ei rhyddhau yn y DU.
Yn y dyddiau Marvel a Disney sydd ohoni mae'r straeon Asterix yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r diwylliant a'r cyfryngau torfol Americanaidd mae ein plant yn eu llyncu.
"Mae e yn agor y drws i'r hen fyd," meddai Alun, "dyw e ddim yn hollol gywir gant y cant drwy'r amser ond mae'n rhoi blas.
"Er enghraifft Asterix a Cleopatra - mae 'na bethau addysgiadol ynddo fe - rwyt ti'n dysgu am Alexandria yn adeg y Rhufeiniaid yn oes Iŵl Cesar. Yn Asterix a'r Gemau Olympaidd, 'wyt ti'n dysgu am y gemau Olympaidd a falle am ynysoedd Groeg achos mae'r holl dimau yma yn dod o'r gwahanol ynysoedd.
"Mae yn agor y drws os oes gyda ti ddiddordeb yn y pethau yma. Mae'n dangos lot fawr o Ewrop cyntefig i ti ac os wyt ti'n ymwybodol o'r elfen Geltaidd sydd ynghlwm wrth Asterix [mae'n rhoi haen arall]."
Mae'r Galiaid oedd yn byw o gwmpas cyfnod y Rhufeiniaid yn cael eu hystyried fel cyndeidiau'r Ffrancwyr ac mae'r arweinydd Galaidd Vercingetorix yn ffigwr pwysig yn y wlad, ac yn ysbrydoliaeth i straeon Goscinny ac Uderzo. Roedden nhw'n un o'r grwpiau o bobl yn Ewrop sy'n cael eu galw yn Geltaidd, fel y Brythoniaid ym Mhrydain.
"O'n nhw'n siarad iaith oedd yn ddigon tebyg i'r iaith mae'r Gymraeg wedi datblygu ohoni," meddai Alun.
"Ac yn Ffrainc, dydyn nhw ddim o reidrwydd yn deall hynny, ond i ni fan hyn, mae i bob pwrpas yn go amlwg - y'n ni'n gwybod am y cefndir yma, felly 'dyw hyd yn oed pobl yn Ffrainc ddim yn deall popeth am Asterix."
Jôcs Cymreig
Mae'r rhyddid oddi wrth y cyhoeddwyr i addasu i'r iaith a'r diwylliant lleol a'r elfen gref o hiwmor yn llyfrau Asterix yn rhoi dipyn o sgôp i chwarae gydag enwau a jôcs: Pwyllpendefix yw pennaeth y pentref; Gwyddoniadix yw'r derwydd a Perganiedix yw bardd aflwyddiannus y llwyth.
"Dwi'n licio gwneud y cysylltiadau, chwarae gyda geiriau, enwau duwiau; mae'r enwau duwiau Galaidd yma, ti'n gallu gweld sut maen nhw'n ffitio mewn i hen chwedloniaeth Gymraeg," meddai Alun.
Yn y llyfr Cymraeg diwethaf i'w gyhoeddi, yr olaf am y tro, Asterix a Helynt yr Archdderwydd, mae eisteddfod Bro'r Corniaid yn cael ei chynnal gyda'r archdderwydd Cynanos a'r cyn archdderwyddon Jams Niclax a Tilslix - "rwyt ti'n gallu dod â lot o hiwmor Cymreig iddyn nhw," meddai Alun.
Mewn teitl arall sydd wedi ei gosod yn yr Alban, mae Asterix and the Picts yn Saesneg wedi troi yn Asterix a Gwŷr y Gogledd yn Gymraeg i adlewyrchu enw'r hen Gymry ar bobl gogledd Lloegr a de'r Alban - ac fe roddodd Alun dafodiaith ardal Rhosllanerchrugog i'r trigolion gogleddol.
"Oedd e jyst yn neud sens o ran hanes a diwylliant Cymru inni newid y teitl ac fe gath ei dderbyn am y rheswm syml ei fod yn berthnasol i'n darllenwyr ni ac i hanes a diwylliant Cymru.
"Y trueni mawr ydy bod ni ddim yn gallu adleoli Asterix i Sir Benfro neu Benrhyn Llÿn neu rhywle! Galle fe wneud yn arbennig o dda!"
Hefyd o ddiddordeb: