Bale yn ymwybodol o fethu cyrraedd y safon - Ian Gwyn Hughes

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gareth Bale: Ian Gwyn Hughes yn hel atgofion

Nid oedd penderfyniad Gareth Bale i ymddeol yn sioc yn ôl Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n credu ei fod yn "ymwybodol na fyddai'n gallu cyrraedd yr un safonau" a'r rheiny roedd wedi'u gosod drwy gydol ei yrfa.

Yn cydnabod fod Bale ac aelodau eraill o'r garfan yn teimlo'n "isel iawn" yn dilyn siom Cwpan y Byd, ychwanegodd Ian Gwyn Hughes fod cyn-ymosodwr Real Madrid a Spurs wedi gwrando ar ei gorff cyn dod i benderfyniad ar ei ddyfodol.

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Bale, 33, ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar ôl "ystyried yn ofalus".

Ychwanegodd ei fod yn "teimlo'n ffodus iawn o fod wedi gwireddu breuddwyd o chwarae'r gamp rwy'n ei charu".

'Teimlo'n isel iawn'

Pan ofynnwyd iddo ar raglen Dros Frecwast a oedd penderfyniad Bale i ymddeol yn sioc, dywedodd Ian Gwyn Hughes: "Dwi ddim yn meddwl felly, ond efallai bod y cyhoeddiad ei fod o wedi rhoi'r gorau i bêl-droed yn gyfan gwbl.

"Heb os ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr, roedd sawl un yn teimlo yn isel iawn, falle'r rhai hŷn yn enwedig gan bod nhw'n gweld hwn fel eu cyfle olaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi penderfynu ymddeol ar ôl ennill 111 cap dros ei wlad

"Rydw i wedi siarad gyda nhw cwpl o weithiau dros y Nadolig ac roedden i'n gwybod ei fod yn mynd i ystyried beth oedd yn mynd i ddigwydd ac wedi mynd yn ôl i Los Angeles a chael gwyliau gyntaf.

"Ac fe ffoniodd y noson o'r blaen i ddweud mai dyma oedd y penderfyniad oedd yn dod iddo, am sawl rheswm, ac mai dyma oedd yr amser gorau i fynd.

"Felly syndod falle o ran yr amseru ac o ran ei fod yn rhoi gorau iddi yn gyfan gwbl - ond o siarad ag o dros yr wythnosau diwethaf falle ddim cymaint o sioc."

'Amddiffyn ei gorff'

Aeth ymlaen i ddweud: "Dwi'n credu falle ei fod o wedi cyflawni cymaint yn y gêm a falle'n ymwybodol ei fod o methu a chyrraedd yr un safonau, a siŵr bod yna sawl rheswm arall ond dwi'n credu fod o wedi bod yn ymwybodol iawn ei fod o yn amddiffyn ei gorff er mwyn perfformio ar y llwyfan mwyaf, osgoi anafiadau ac yn y blaen.

"Ac fe ffeindiodd allan ei fod o methu really chwarae tair gêm mewn rhyw ddeg diwrnod.

"A phan rydych chi wedi cyflawni cymaint ag y mae o, dwi ddim yn credu ei fod o eisiau cychwyn ymgyrch newydd a hanner ffordd trwodd penderfynu ei fod o methu gwneud hyn, a ddim yn teimlo bod hynny'n deg ac os gwneud o [rhoi'r gorau iddi], yna mai'r amser oedd ar gychwyn yr Euros."

Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuaeth 2022 oedd ymddangosiad cyntaf Bale yng Nghwpan y Byd

"Mae o 'di bod i'r Euros ddwywaith o'r blaen... ond roedd Cwpan y Byd yn uchelgais iddo, doedd o byth am gyrraedd y Cwpan y Byd nesaf [yn 2026] a felly gan fod o wedi profi'r Euros ddwywaith, teimlad mai nawr oedd yr amser.

"Mae ganddo lot o fusnesau, lot o syniadau eraill am beth mae'n mynd i wneud gyda'r fywyd a falle fod o'n teimlo mai nawr oedd yr amser iawn."

'Rhyw fath o rôl yn y dyfodol'

Yn ei ddatganiad dywedodd Bale ei fod yn "camu'n ôl ond ddim yn camu i ffwrdd" o'r tîm cenedlaethol.

Dywedodd Ian Gwyn Hughes nad oedd yn disgwyl i Bale droi at hyfforddi yn syth, ond y gallai gael rôl gyda'r Gymdeithas Bêl-droed.

"Dwi'n credu fydd na rhyw fath o rôl fel llysgennad iddo ond mae hynny'n rhywbeth i'w drafod rhai wythnosau a rhai misoedd i ffwrdd.

"Dwi'n meddwl fod hi'n rhy gynnar i ystyried unrhyw beth fel yna ond does ddim dwywaith fydd y gymdeithas eisiau iddo chwarae rhyw fath o rôl yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Gwyn Hughes wedi bod yn bennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers 2010

Yn disgrifio Bale fel "bachgen diymhongar iawn", "direidus" ac yn "hoff o dynnu coes", dywedodd y bydd colli ei bresenoldeb o gwmpas y garfan yn cael ei deimlo.

"Roedd yn ymwybodol o'i rôl a chyfrifoldeb fel capten, a'r angen i ddangos esiampl i'r chwaraewyr iau a thynnu pwysau i ffwrdd ohonyn nhw.

"Gawn ni weld beth fydd yn digwydd hefo rhai o'r chwaraewyr eraill, mae 'na lot yn yr un cwch yn teimlo'n isel ar ôl Cwpan y Byd, ond mae'n rhoi cyfle i ryddhau y talent ifanc.

"Dwi'm yn dweud fod y talent ifanc yn yr un lle a'r oeddan ni pan oedd Gareth, Aaron [Ramsey], Ashley Williams ac yn y blaen, ond mad ganddoch chi dal y chwaraewyr dibynadwy fel Ben Davies, cyffro chwaraewyr fel Dan James, Brennan Johnson ac Ethan Ampadu."

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Gwyn Hughes (dde) fod Bale wastad yn fodlon i ymddangos o flaen y wasg

"Dyma'u cyfle nhw rŵan i wneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol.

"Mae'n ddatblygiad naturiol o fewn unrhyw gamp... mae 'na newid yn mynd i fod... ond mae na ddigon o botensial ar gyfer y dyfodol."