Pêl-droed: Rheolau 'rhy gaeth' yn 'lladd clybiau llai'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn adolygu eu rheolau trosglwyddo ar ôl i ddau glwb o'r gogledd roi'r gorau i chwarae yn gyfan gwbl.
Ers dechrau'r tymor, mae clybiau Bodedern a Rhydymwyn wedi tynnu 'nôl o drydedd haen y pyramid Cymreig - Ardal North West.
Mae'r clybiau yn beio rheolau "caeth" oedd yn golygu nad oedd hawl iddynt arwyddo chwaraewyr rhwng 1 Medi a 1 Ionawr.
Er hynny, roedd clybiau mewn cynghreiriau is yn parhau i allu arwyddo chwaraewyr o unrhyw gynghrair.
Yn ôl rheolwr un o'r clybiau, collodd y clwb sawl chwaraewr i glybiau o'r lefelau is o ganlyniad.
Ond gan eu bod methu arwyddo neb i gymryd lle'r chwaraewyr rheiny, roedd diffyg chwaraewyr yn golygu eu bod mewn "sefyllfa amhosib" ac "nad oedd dewis" ond tynnu 'nôl o'r gynghrair.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran CBDC eu bod yn "siomedig" fod y clybiau wedi gadael y gynghrair, a'u bod yn adolygu a oes modd newid y rheolau trosglwyddo.
'Sefyllfa amhosib'
Roedd tymor 2021/22 yn un cofiadwy i glwb Bodedern. Yn dilyn rhediad di-guro fe lwyddodd y clwb o Fôn i guro'r ffefrynnau am y gynghrair, Bangor 1876, i gipio'r bencampwriaeth.
Ar ôl dyrchafiad i drydedd haen y pyramid Cymreig, roedd y clwb yn wynebu sialens newydd wrth gystadlu'n erbyn clybiau fel Rhyl 1879, Dinbych a Llangefni.
Ond erbyn yr hydref, wedi colli sawl chwaraewr i glybiau mewn adrannau is - lle roedd llai o deithio i gemau oddi cartref - yn ogystal ag anafiadau i rai eraill, yn ôl y rheolwr roedd y "rheolau rhy gaeth" wedi gadael y clwb mewn "sefyllfa amhosib".
Dywedodd Ricky Williams wrth Cymru Fyw: "Fydd cynghrair ni byth yn un proffesiynol. Mae'n rhaid i'r gymdeithas ddeall hynny cyn iddi fynd rhy hwyr.
"Mae'r rheolau 'ma'n lladd clybiau llai.
"Yn fy marn i dylsa transfer window ond fod yn y Cymru Premier. Sut allwch chi gael sefyllfa lle 'da ni'n colli chwaraewyr ond hefo dim hawl i neb gymryd eu lle nhw?"
'Mi ddylsa fod am y pêl-droed'
Mae'r drydedd haen yn cael ei hystyried fel cynghrair 'broffesiynol' gan fod rhai clybiau a chwaraewyr ar gytundeb, sy'n golygu eu bod yn derbyn tâl am chwarae.
Er bod chwaraewyr Bodedern, fel sawl clwb arall, yn rhai amatur a'u chwaraewyr ddim ar gytundeb, roedd y clwb wedi cynnal gwaith i ehangu arwynebedd y maes i ateb gofynion CBDC ar gyfer y drydedd haen ac i groesawu clybiau mwy i'r pentref.
"Mae'n dipyn o naid o'r pedwerydd tier a fydd clybia' pentra' bach fel ni wastad yn ffeindio hi'n anodd achos y costau a'r teithio," ychwanegodd Ricky Williams, gan ddweud fod y clwb wedi derbyn dirwy o £1,750 am fethu â chwarae gemau.
"Fedrith clybiau pentref bach ddim fforddio talu chwaraewyr."
Gan ychwanegu fod y gofynion meysydd hefyd yn anodd i rai clybiau eu cyrraedd, gyda'r angen am 100 o seddi, dywedodd ei fod yn "siop gaeedig" i lawer o glybiau.
Serch hynny, cadarnhaodd fod bwriad ail ddechrau'r clwb y tymor nesaf, ond mae'n debyg bydd hynny'n ddigwydd ar lefel is.
"Os 'da ni'n cario 'mlaen efo'r gofynion 'ma fydd 'na ddim posib i glybiau ddringo i fyny, a pam yr angen am y fines mawr 'ma i glybiau bach?
"Sbïwch ar Llanrug a Llanberis, clybiau sydd rŵan yn styc yn tier pedwar os nad ydyn nhw'n symud caeau.
"Mi ddyla fod am y pêl-droed a ddim ateb y criteria 'ma."
'Bydd mwy o glybiau yn dioddef'
Clwb arall a dynnodd allan o'r un gynghrair yn gynharach yn y tymor oedd CPD Rhydymwyn ger Yr Wyddgrug.
Yn ôl cadeirydd y clwb roedd y ffenestr drosglwyddo yn "ffactor enfawr" ym mhenderfyniad y pwyllgor, sy'n gobeithio ailgychwyn y tymor nesaf.
"Roedd yn rheswm enfawr i ddweud y gwir ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hollol ymwybodol o'r sefyllfa ac yn edrych yn ddyfnach i'r holl broses," meddai Mike Chesters wrth Cymru Fyw.
"Dydyn ni ddim yn gwybod a fydd yn cael ei newid ar gyfer y tymor nesaf, ond fe gafodd effaith aruthrol ar ein clwb.
"Tasech chi'n gofyn i mi a oedd rhaid i ni ymddiswyddo oherwydd y ffenestr drosglwyddo 'ma yn y drydedd haen, yn sicr roedd hynny'n wir."
'Y clwb ddim bellach yn rhan o'm mywyd i'
Ond nid Bodedern a Rhydymwyn yw'r unig glybiau i benderfynu rhoi'r ffidil yn y to dros y blynyddoedd diweddar.
Yn bennaf oherwydd y gofynion meysydd, penderfyniad CPD Llandegfan oedd na fyddai'n gallu cyrraedd gofynion y gynghrair ar gyfer tymor 2021/22.
"Y pethau wnaeth adael ni lawr oedd gorfod cael toiledau a chawodydd yn yr ystafelloedd newid," meddai Arron Fôn Evans, cyn-reolwr y clwb o Fôn.
"Yn anffodus oedd lleoliad y cae pêl-droed yn gwneud hi'n anodd Iawn i gael containers mawr oedd yn angenrheidiol."
Roedd CPD Llandegfan yn dîm gafodd ei ailsefydlu yn 2017 ac, fel y mwyafrif llethol o rai eraill, yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr a'r gymuned leol.
"O'n i'n gwneud bob dim bob wythnos. O dorri'r gwair i olchi'r kit. Oedd hi'n deimlad rhyfadd iawn deffro ar fore Sadwrn a CPD Llandegfan ddim bellach yn rhan o'm mywyd i," meddai.
Ond yn sgil y pandemig dywedodd Arron ei fod hefyd yn cwestiynu pam fod chwaraewyr yn gadael.
"Doeddwn i methu deall pam roedd llai a llai o chwaraewyr yn dod i ymarfer bob wythnos," meddai.
"Cyn y pandemig roedd yn anodd dewis tîm o un wythnos i'r llall. Erbyn y diwedd, roeddwn i'n ffeindio hi'n anodd cael 11 pob p'nawn Sadwrn!"
'Adolygu rheoliadau FIFA'
Mae'r mwyafrif o garfannau Bodedern a Rhydymwyn bellach wedi arwyddo i glybiau newydd, ond yn ysgrifennu ar Twitter, dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney, fod y sefyllfa yn un "trist" a "siomedig", dolen allanol.
Ychwanegodd byddai CBDC yn adolygu'r sefyllfa, dolen allanol yn sgil y ffenestr drosglwyddo yn y drydedd haen.
Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas eu bod yn "siomedig" i weld clybiau'n tynnu 'nôl o'r cynghreiriau Ardal, a'u bod yn "ymwybodol o'r pryderon a amlygwyd gan y clybiau ynglŷn â'r ffenestr drosglwyddo yn Haen 3 o'r pyramid".
"Mae CBDC ar hyn o bryd yn adolygu Rheoliadau FIFA ar Statws a Throsglwyddo Chwaraewyr i ddeall a chaniateir unrhyw newidiadau ar y lefel hon o'r pyramid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022