Rhediad berffaith clwb o Fôn y gorau ym Mhrydain
- Cyhoeddwyd
Mae llwyddiant un o glybiau pêl-droed Ynys Môn wedi denu sylw cenedlaethol yn dilyn rhediad arbennig ar y maes chwarae.
Tra adnabyddir Bodedern fel cartref Eisteddfod Genedlaethol 2017, record berffaith y clwb lleol yn y gynghrair ydy'r elfen ddiweddaraf i daflu goleuni ar y pentref.
Clwb Bodedern Athletic sydd ar y rhediad orau yn y Deyrnas Unedig yn ôl tabl o'r holl glybiau tu allan i'r prif gynghreiriau proffesiynol.
Tra fod Manchester City a'r Seintiau Newydd yn hedfan ar frig uwch gynghreiriau Lloegr a Chymru, mae'r ddau wedi gollwng pwyntiau ar hyd y ffordd.
Ond wedi ennill pob un o'r 18 gem gynghrair chwaraewyd hyd yn hyn y tymor hwn, mae tabl y wefan Non League Matters, dolen allanol - sy'n arbenigo mewn pêl-droed llawr gwlad - yn dynodi fod Bodedern ar frig y gymhariaeth o holl glybiau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn ail yn y tabl ystadegol mae clwb AFC North Kilworth, yn Sir Gaerlŷr, gyda Broadwater Athletic o Orllewin Sussex yn drydydd - ill dau hefyd a record berffaith ond wedi chwarae llai o gemau na Bodedern.
Y clwb nesaf o Gymru i ymddangos yn y rhestr ydy CPD y Rhyl 1879 yn safle 37, wedi ennill 12 a dwy gêm gyfartal allan o 14.
Ras am y bencampwriaeth
Mae Bodedern hefyd ar frig eu cynghrair, Adran Orllewinol Cynghrair Arfordir y Gogledd, sy'n sefyll ar bedwaredd haen y pyramid Cymreig.
Mae'r Mônwysion mewn ras am y bencampwriaeth gyda Bangor 1876, a'u ffurfiwyd ond dair mlynedd yn ôl gan gefnogwyr CPD Dinas Bangor oedd yn anfodlon a'r ffordd oedd eu clwb yn cael ei redeg.
Yn wir, yr unig gem i 'Boded' golli hyd yn hyn y tymor yma oedd o 5-4 yn erbyn Rhuthun yng Nghwpan Cymru - tîm sy'n chwarae dwy gynghrair yn uwch sef ail haen y Cymru North.
Yn ôl y rheolwr Ricky Williams, sy'n hanu o'r gymuned ac wedi bod yn gysylltiedig gyda'r clwb ers dros 15 mlynedd, mae ysbryd y garfan wedi helpu'r clwb i gyrraedd ei sefyllfa bresennol.
Gyda thîm wedi bod yn y pentref ers diwedd yr ail Ryfel Byd, roedd cyn Lywydd Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, yn arfer chwarae a gwirfoddoli dros y clwb.
Ond tra'n cynrychioli pentref efo poblogaeth o 1,000, yn ogystal a rhai o gymunedau gwasgaredig Bro Alaw o'i chwmpas, pwysleisiodd Ricky bwysigrwydd y gefnogaeth leol.
"Mae'r gymuned di bod yn wych, ma'i mor bwysig cael pobl yn cefnogi o ran sponsors, dod i wylio'r gemau a helpu ni efo hel yr arian da ni angen i redeg clwb fel hyn."
Ond gyda'r tymor yn bell o fod drosodd, ychwanegodd fod dyfodol 'Boded' mewn dwylo diogel er y sialens o'u blaen - nid yn unig ar y cae ond yn nhermau gwelliannau i'r cyfleusterau ar Gae Tŷ Cristion.
"Mae'r hogia' di bod yn grêt, mae'r ysbryd sydd yma mor bwysig," ychwanegodd.
"Mae rhedeg clwb ar y lefel yma mor anodd, tydi'r chwaraewyr ddim yn cael eu talu felly da ni'n dibynnu arnyn nhw yn prynu fewn i be da ni'n droi'i neud ac yn aros yn loyal.
"Ein targed ydi mynd i fyny i'r gynghrair nesa, ond mae gynnon ni 80 o blant yn y juniors erbyn hyn a nhw fydd dyfodol y clwb dros y blynyddoedd i ddod."
Daw sialens nesa'r clwb gyda thaith i Feirionnydd, lle byddant yn herio Penrhyndeudraeth brynhawn Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019