Ceryddu ASau am adael cyfarfodydd yn gynnar 'yn rheolaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai Aelodau o'r Senedd wedi cael eu ceryddu am beidio â mynychu cyfarfodydd pwyllgor yn llawn.
Mae'r Llywydd Elin Jones wedi ysgrifennu at aelodau yn mynegi pryderon cadeiryddion pwyllgorau bod lleiafrif o ASau'n blaenoriaethu ymrwymiadau eraill ac yn gadael cyfarfodydd "yn rheolaidd" yn rhy gynnar.
Mae pwyllgorau'n craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, yn archwilio deddfau newydd arfaethedig ac yn dwyn gweinidogion i gyfrif.
Mae cynlluniau i gynyddu nifer Aelodau o'r Senedd o 60 i 96.
'Angen eu herio'
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes "os nad ydyn nhw'n gweithio'n galed nawr, maen nhw'n llai tebygol o wneud hynny pan mae 96 ohonyn nhw. Mae angen eu herio'n fwy".
Yn ei llythyr, mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud wrth Aelodau o'r Senedd am bryderon a godwyd mewn cyfarfod o fforwm y cadeiryddion - pwyllgor anffurfiol o gadeiryddion pwyllgorau, y mae hi'n ei gadeirio.
Mae'r fforwm yn ceisio galluogi'r 15 o bwyllgorau'r Senedd, dolen allanol i "wneud y gorau o'u heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd drwy gydgysylltu, cyd-arwain a chyfnewid gwybodaeth".
Dywed y Llywydd bod "lleiafrif o aelodau, ar adegau, yn blaenoriaethu ymrwymiadau eraill ar draul busnes eu pwyllgorau".
Dywedodd mai "un mater, a ddisgrifiwyd gan gadeiryddion, yw bod rhai aelodau pwyllgor yn rheolaidd yn gadael ar ddiwedd rhan gyhoeddus cyfarfod".
"Golyga hyn eu bod yn absennol ar gyfer unrhyw eitemau agenda preifat a drefnwyd ar gyfer diwedd cyfarfod. Mae hyn yn amharu ar waith rhai pwyllgorau."
'Tarfu ar fusnes'
Os bydd aelodau'n gadael cyn eitemau preifat ar yr agenda, bydd eu henw yn dal i ymddangos ar y rhestr bresenoldeb ac ni fyddai unrhyw un a oedd wedi bod yn gwylio trafodion ar senedd.tv, dolen allanol yn ymwybodol nad oedd yr aelod wedi aros.
Dywed y Llywydd hefyd bod "absenoldeb achlysurol o gyfarfodydd pwyllgorau yn rhywbeth a ragwelir yn ein trafodion, ond pan fydd aelodau yn absennol, disgwylir iddynt anfon dirprwy ar eu rhan i osgoi tarfu ar fusnes y pwyllgorau".
Mae Elin Jones yn atgoffa aelodau bod "cadeiryddion pwyllgorau yn disgwyl i aelodau pwyllgorau ymwneud yn llawn â phob agwedd ar waith eu pwyllgorau, a rhoi mwy o flaenoriaeth i'w gwaith pwyllgor nag i'w hymrwymiadau eraill am y cyfnod llawn y bydd pwyllgor yn cyfarfod (gan gynnwys unrhyw eitemau preifat a drefnwyd)".
"Mae hyn yn hanfodol os yw pwyllgorau am gyflawni eu hamcanion mewn modd effeithiol."
Mae hi'n cydnabod "mae'n bosibl y bydd aelod yn methu ag ymgysylltu'n llawn â gwaith pwyllgor am resymau dilys".
"Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai aelod drafod y mater â chadeirydd y pwyllgor perthnasol. Gall cadeirydd y pwyllgor bwyso a mesur y mater o safbwynt cefnogi'r aelod ac o safbwynt cyflawni amcanion y pwyllgor."
'Cyfyngu ar drosiant'
Mae adroddiad a gomisiynwyd drwy Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd y Senedd ac a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021 - Pŵer, Dylanwad ac Effaith Pwyllgorau'r Senedd, dolen allanol - wedi'i gymeradwyo gan fforwm y cadeiryddion.
Er mwyn "creu'r amodau ar gyfer pwyllgorau effeithiol", argymhellodd awdur yr adroddiad, yr Athro Diana Stirbu o Brifysgol Fetropolitan Llundain, y "dylid rhoi canllawiau i'r pleidiau gwleidyddol er mwyn blaenoriaethu gwaith y pwyllgorau a chyfyngu ar drosiant yn aelodaeth y pwyllgorau".
Dywedodd fod gan bwyllgorau effeithiol "aelodau sydd wedi ymgysylltu â'u gwaith yn llawn ac maent â diddordeb ynddo" ac sydd "wedi paratoi, yn gwrando ac yn cefnogi ei gilydd mewn sesiynau pwyllgor".
Mae'r cynlluniau i gynyddu nifer y gwleidyddion yn y Senedd o 60 i 96 wedi'u cynnig gan Lafur a Phlaid Cymru, tra bod y Ceidwadwyr yn eu gwrthwynebu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022