Pontardawe: Gwrthwynebiad o hyd i ysgol Saesneg newydd
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthwynebiad yn parhau i gynlluniau i agor ysgol Saesneg fawr ym Mhontardawe.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr ysgol gynradd newydd eu cymeradwyo'r llynedd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys pwll nofio a chanolfan cymorth dysgu arbenigol.
Ond fe ddyfarnodd yr Uchel Lys fod y cynlluniau yn anghyfreithlon oherwydd methiant i asesu'r effaith ar ysgolion Cymraeg lleol.
Mae'r cyngor wedi cyflwyno ymgynghoriad newydd sydd unwaith eto yn cynnwys yr opsiwn i gau ysgolion Cwm Tawe i agor ysgol enfawr.
Ond yn ôl rhai rhieni, byddai cau'r ysgolion lleol yn cael effaith niweidiol ar addysg eu plant.
Mewn datganiad fe ddywedodd y cyngor sir eu bod yn annog holl randdeiliaid yr ysgol a'r gymuned i ymateb i'r ymgynghoriad a rhoi eu barn.
Yn ôl Rachel Jones, sy'n fam i dri o blant yn Ysgol Alltwen, nid yw'r cynlluniau yn "gwneud synnwyr" iddi.
"Fydd e'n ofnadwy i ni. Mae'r bechgyn yn cerdded i'r ysgol bob dydd. Fe fydd yr ysgol newydd jest yn rhy bell i ni," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Mae'r lleoliad hefyd yn broblem. Mae'n ddigon prysur yn barod yn y bore ym Mhontardawe.
"Bydd yr ysgol drws nesaf i'r ysgol gyfun hefyd sy'n achosi pryder. Ni'n clywed enghreifftiau o blant ifanc yn mynd 'nôl adre yn defnyddio iaith ofnadwy ar ôl beth maen nhw wedi clywed fynna.
"Mae siwd gymaint o botensial yn y tair ysgol hefyd. Yn Alltwen, er enghraifft, mae digon o le i wneud yr ysgol yn fwy o faint.
"Does dim esgus pam na gallai'r arian gael ei wario ar wella y tair ysgol.
"Ar ddiwedd y dydd mae'r plant yn fabanod. Dy'n nhw ddim eisiau bod mewn ysgol gyda 700 o blant eraill."
Yn ôl Emily Marie, mae ei mab wedi mynychu tair ysgol wahanol, ac Ysgol Alltwen yw'r un mae'n teimlo'n fwyaf cartrefol ynddi.
"Mae Ysgol Alltwen wedi helpu fe siwd gymaint. Mae wedi helpu gyda'i hyder. Mae'n caru fe," meddai.
"Fi'n credu os fydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu bydd e'n cael ei golli yn y system. Bydd dim teimlad o gymuned yn yr ysgol enfawr."
Ond mae'n cydnabod bod "angen i'r ysgolion gael eu diweddaru".
'Angen ail-feddwl'
Y llynedd fe lwyddodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) i sicrhau adolygiad barnwrol yn erbyn y cynllun - gyda'r llys yn penderfynu bod y cynlluniau yn anghyfreithlon oherwydd nad oedd y cyngor wedi ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr cenedlaethol RhAG, ei bod hi'n "siomedig bod [yr ymgynghoriad] wedi dod 'nôl fwy neu lai yn yr un modd â beth oedd e yn y lle cyntaf".
"Ein dadl ni oedd gyda'r ymgynghoriad cyntaf, nad oedd astudiaeth effaith ar y Gymraeg wedi ei gynnal yn yr ymgynghoriad.
"Mae yna astudiaeth effaith y tro hwn, ond mae'r astudiaeth effaith yn nodi'n ddigon clir yr effeithiau negyddol sydd mynd i fod i'r Gymraeg petai'r cynllun hyn yn mynd trwyddo.
"Mae'n drueni fod yr un cynllun 'nôl, a ni'n gobeithio bydd y cyngor yn sicrhau bod y cynllun yn dod i stop. Mae angen ail-feddwl."
Ar gaeau Parc Ynysderw mae'r cyngor yn cynnig i adeiladu'r ysgol ar gost o dros £22m.
Mae'r cynlluniau yn honni y bydd yr ysgol newydd yn ddigon mawr i dderbyn 770 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed.
Ond mae pryderon hefyd am yr effaith y gallai adeiladu'r ysgol ei gael ar gyfleusterau chwaraeon.
Tir 'hynod o werthfawr'
Yn ôl Dai Brain, cynghorydd ar gyngor tref Pontardawe, bydd adeiladu'r ysgol ar safle'r caeau yn cael effaith niweidiol ar chwaraeon yn yr ardal.
"Mae'r gymuned yn sefyll i golli 30% o'n caeau chwarae, sef maint dau gae chwarae pêl-droed. I wneud y golled yn waeth, y mannau o'r cae sy'n addas iawn i chwarae arno fydd yn cael eu colli.
"Mae pob metr sgwâr o dir gwyrdd agored yn hynod o werthfawr i ni yn y cwm. Os ni'n ystyried natur daearyddiaeth y cwm, mae tir fel hyn sy'n fflat ac yn addas am chwaraeon yn brin iawn.
"Mae dros 35 o wahanol dimau rygbi a phêl-droed yn chwarae ac yn ymarfer ar ein caeau chwarae, o Glas i Ystradgynlais, Ynysmeudwy a draw i Rhos."
Fe ddywedodd Sioned Williams, Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru: "Dwi ddim yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cymeradwyo'r cynllun yma yn y lle cyntaf. Felly ddylai'r ymgynghoriad heb ddigwydd.
"Mae'r cynllun yn gwbl amhoblogaidd yn lleol gan rieni'r ysgolion a'r cymunedau y bydd yn effeithio, felly fi'n gobeithio y tro yma, unwaith ac am byth, byddwn ni'n gweld y cyngor yn gwrando ar lais y gymuned yn lleol."
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Fe wnaeth gweinyddiaeth glymblaid y cyngor ymrwymiad i adolygu'r cynnig gwreiddiol ac mae'r awdurdod yn annog holl randdeiliaid yr ysgol a'r gymuned i ymateb i'r ymgynghoriad a rhoi eu barn."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, "mae'r gyllideb ar gyfer yr ysgol wedi cael ei chymeradwyo ar ôl i gais busnes gael ei dderbyn".
Fe ddywedodd llefarydd na all y llywodraeth wneud sylw pellach ar unrhyw benderfyniad i beidio uno'r ysgolion.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus y cyngor ar agor tan 24 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022