Ymateb cymysg ymysg y cyhoedd wrth i streiciau barhau

  • Cyhoeddwyd
Ann, Emyr a Grug
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn cydymdeimlo, ond eraill eisiau gweld diwedd ar y streiciau o fewn sawl gwahanol sector

Mae streiciau diweddar wedi amharu ar bopeth, o wasanaethau trên i ddosbarthu post a gofal ysbyty, wrth i weithwyr ofyn am gyflogau uwch a gwell telerau gwaith.

Yn yr wythnosau diwethaf mae'r gwasanaeth ambiwlans, nyrsys, y post a'r gwasanaethau trên wedi bod ar streic, a dim cytundeb eto ar gyfer un o'r sectorau.

Maen nhw'n wasanaethau sy'n cyffwrdd ar fywydau pawb mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Felly wrth i ddyddiadau ar gyfer streiciau pellach barhau i gael eu cyhoeddi, faint o gefnogaeth sydd ymhlith y cyhoedd i'r gwahanol weithwyr?

Yn ôl arolwg barn diweddar, mae gan ddau draean o aelodau'r cyhoedd empathi tuag at weithwyr sy'n streicio o fewn y gwasanaeth iechyd.

Ond mae'r ffigwr o dan hanner i'r sectorau eraill.

Yr argyfwng costau byw, y cynnydd mewn chwyddiant a'r cyflogau isel sydd wrth wraidd yr holl anghydfod.

Network Rail

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o bobl ym Machynlleth yn cael eu cyflogi gan Network Rail

Machynlleth yw cartref depo trenau mwyaf y canolbarth. Yno, maen nhw'n rheoli signalau ar gyfer llinell y Cambria, sy'n ymestyn o'r Amwythig i Aberystwyth a Phwllheli.

Mae'r system signalu yn unigryw i'r llinell, sy'n golygu bod Network Rail yn gyflogwr mawr yn y dref.

Ym Machynlleth ei hun mae tua 100 yn cael eu cyflogi, gyda rhagor yn gweithio ar leoliad mewn ardaloedd cyfagos.

Mae'n golygu, ar ddiwrnod streic, bod llawer o drigolion yr ardal ar y llinell biced.

Ond ar y stryd fawr, does dim llawer o ddealltwriaeth ynghylch y streic drenau, gyda sawl un yn teimlo bod y cyflogau eisoes yn ddigon da.

Dywedodd Wyn Griffiths: "Dwi'n meddwl bod nhw'n cael digon o arian. Falle' mai'r broblem ydy bod pobl yn byw tu hwnt i'w gallu. Allen nhw fforddio torri lawr ar bethau falle."

Ychwanegodd Heulwen Davies: "Mae streic y trêns wedi cael effaith arna' i. Dwi'n hunan gyflogedig ac yn trio byw yn fwy gwyrdd, ond un diwrnod ydy o a dwi'n trio cydymdeimlo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Grug Morris am i bethau "fynd 'nôl i normal", ond mae'n cydnabod bod angen gwell telerau gwaith ar bobl

Dywedodd Grug Morris: "Pryd mae e'n mynd i ddiwedd yndife? Pryd mae bywyd yn mynd i fynd 'nôl i normal?

"Mae angen telerau gwaith gwell ar bawb, ie, ond mae angen iddo fe ddiwedd nawr."

Y Post Brenhinol

Mae'r Post Brenhinol wedi cynnig codiad cyflog maen nhw'n dweud sydd werth hyd at 9% dros 18 mis i'w gweithlu - ond mae'r undebau eisiau mwy.

Gallai hynny olygu mwy o streiciau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac aros hirach am lythyrau a pharseli pwysig - rhywbeth sy'n sicr o effeithio ar bob aelwyd, gan gynnwys rhai yn Aberystwyth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr a Gwion Phillips o Aberystwyth yn cefnogi gweithwyr sy'n galw am gyflog gwell, ond am weld datrysiad i'r anghydfod

Cefnogi'r streic mae Ann Pugh gan ddweud: "Fi gyda nhw. Maen nhw allan ymhob tywydd. Maen nhw'n bobl lyfli ac mae'n neis gweld nhw."

Yn ôl Emyr Phillips, does dim bai ar y gweithlu: "Dwi'n dueddol o gefnogi pobl sydd eisiau cael mwy o arian achos bod costau wedi mynd lan cymaint.

"Mae jyst yn drueni bod y llywodraeth ddim eisiau datrys y broblem."

Mae ei fab, Gwion Phillips, yn dweud bod "streic y post yn effeithio ar bawb, yn enwedig o gwmpas amser y Nadolig.

"Mae'n gallu bod yn boen ond dw i'n cytuno gyda dad - mae'n broblem o'r top lawr."

Y Gwasanaeth Ambiwlans

Mewn arolwg barn diweddar gan YouGov, fe ddywedodd dau draean o'r cyhoedd eu bod nhw'n cefnogi'r streicio gan weithwyr y gwasanaeth ambiwlans.

Yn Y Drenewydd, ardal wledig o ogledd Powys, cymysg oedd y farn.

Meddai Ann Stanley: "Ydw i'n cefnogi nhw? Yndw a nadw. Dwi'n teimlo drostyn nhw'n ofnadwy ond nid dyma'r amser i streicio.

"Ni newydd ddod trwy pandemig ac yn anffodus pobl fel chi a fi sy'n dioddef."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amseru'n anghywir i streicio yn ôl Ann Stanely yn Y Drenewydd

Barn Margaret Griffiths ydy y dylai gweithwyr "fod wedi cael codiad cyflog amser y Covid, ond mae braidd yn hwyr rŵan iddyn nhw streicio dwi'n meddwl".

Fe ddywedodd John Evans fod "gan y nyrsys achos da iawn i streicio oherwydd ers blynyddoedd bellach mae sawl llywodraeth wedi bod yn cadw cyflogau'r sector cyhoeddus i lawr.

"Mae hynny'n annheg iawn oherwydd bod y bosys yn dal i gael cyflogau uwch."

Yn ôl gwahanol undebau, os na ddaw cytundeb, mae'n rhaid paratoi am weithredu diwydiannol pellach o fewn trafnidiaeth, y post, y nyrsys a'r gweithwyr ambiwlans.

Bydd yn rhaid aros i weld os bydd y gefnogaeth ar lawr gwlad yn dal ei thir.