Cymraeg: 'Paradocs' y Cyfrifiad yn dangos 'darlun cymhleth'
- Cyhoeddwyd
Rhaid dangos gofal wrth ddehongli "paradocs" y gostyngiad yn nifer y plant sy'n medru'r Gymraeg, yn ôl arbenigwr iaith.
Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ostyngiad o 5.7 pwynt canran yng nghyfran y plant tair i 15 sy'n siarad Cymraeg ers 2011.
Ar yr un pryd, mae data Llywodraeth Cymru yn dangos cynnydd o 10,000 yn nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith dros gyfnod tebyg.
Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ofyn iddyn nhw ystyried pam fod gwahanol arolygon am yr iaith yn arwain at wahanol ganlyniadau.
Yn ôl Dr Rhian Hodges, Uwch-ddarlithydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor, mae angen gofal wrth ddehongli'r data gan ychwanegu fod y darlun yn un cymhleth.
Bwriad uned drochi iaith newydd ym Mhont-y-pŵl - y cyntaf yn Nhorfaen - yw dangos ei bod hi byth yn rhy hwyr i blant ddechrau'u taith trwy addysg Gymraeg.
Carreg Lam yw enw'r uned i blant 7-11 fydd, i ddechrau, â chartref yn Ysgol Panteg, mewn ardal welodd ostyngiad sylweddol yn nifer y plant oedran ysgol sy'n medru'r iaith.
Roedd hynny'n "siomedig" meddai'r pennaeth Dr Matthew Dicken, sydd hefyd yn gweld anghysondeb rhwng canlyniadau'r Cyfrifiad, a chynnydd yn y diddordeb mewn addysg Gymraeg.
Mae'r uned drochi yn atgyfnerthu statws yr iaith, meddai.
"Y syniad yw iddyn nhw gael rhyw 12 wythnos yma yn cael trochi dwys cyn eu bod nhw wedyn yn symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu gyrfa ysgol," meddai Dr Dicken.
"Mae rhieni fel arfer yn meddwl os nad oedden nhw wedi danfon eu plant i ddosbarth meithrin trwy gyfrwng y Gymraeg neu i ddosbarth derbyn wedyn mae e'n rhy hwyr.
"Y realiti yw rydyn ni'n trio dangos mae 'na fwy o ffyrdd a rhoi cyfle i bawb."
Yn enedigol o'r ardal mae'n dweud iddo fod yn yr ysgol gyda nifer o'r rhieni, ond nad ydynt â hyder yn eu gallu i siarad Cymraeg.
Yn adrodd dros eu plant wrth wneud y Cyfrifiad - a hynny yn ystod cyfnod Covid pan oedd disgyblion adref ac ysgolion ar gau - mae'n dyfalu bod rhai wedi tan-adrodd sgiliau ieithyddol.
Mae cyfanswm y plant sy'n siarad Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad yn sylweddol uwch na nifer y plant sydd yn cael addysg Gymraeg iaith gyntaf.
Roedd 146,600 o siaradwyr Cymraeg tair i 15 oed yng Nghyfrifiad 2021 - 5.7 pwynt canran yn is na ffigwr 2011.
Yn ôl data Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 roedd 95,120 o blant oed meithrin i Flwyddyn 11 yn cael addysg Gymraeg fel iaith gyntaf, a hynny wedi cynyddu o 85,320 yn 2011/12.
"Ar yr olwg gynta" mae canlyniadau'r Cyfrifiad yn siom i nifer, ond mae angen gofal wrth ddehongli, meddai Dr Rhian Hodges, Uwch-ddarlithydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor.
"Oes 'na wahaniaeth fan hyn rhwng sgiliau gwirioneddol a chanfyddiadau?" meddai.
"Mae'r Cyfrifiad yn werthfawr i roi rhyw fath o snapshot i ni o beth sy'n digwydd ond ar yr un pryd mae'n bwysig i edrych ar elfennau fel hyder, rhuglder a theimladau o ddefnydd iaith ac o ran perthyn i'r Gymraeg hefyd.
"Mae'n ddarlun cymhleth," ychwanegodd.
Pan gafodd canlyniadau'r Cyfrifiad eu cyhoeddi dywedodd Plaid Cymru ei fod yn dangos bod polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu addysg Gymraeg yn methu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad addysg Gymraeg gorfodol i bawb oedd yr ateb.
Yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul mae'r iaith yn gryf, ond mae rhai o'r disgyblion wedi gweld sgil effaith y pandemig.
"Pan o'n i fwy lawr yr ysgol, o'n i'n 'neud llawer o bethe trwy'r Urdd," meddai Tomos, 17.
"Ond gyda Covid fi'n credu bo' nhw'n colli cyfle i neud y gweithgareddau a mynd ar deithie trwy'r Gymraeg. A ma' llawer o blant just yn parhau i siarad Saesneg o fewn eu grwpie."
Dywedodd Annie, 16, ei bod hi "wastad yn siarad Cymraeg 'da ffrindiau tu fas i'r ysgol - ond ni'n gang sy'n siarad Cymraeg".
Mae Jano, 16, ac Osian, 17, yn credu bod 'na fwy o Saesneg ymhlith y plant iau ond mae llawer dal yn siarad Cymraeg a hynny'n "bositif" yn ôl Jano.
Mae Osian yn croesawu "mwy o alw am addysg trwy'r iaith Gymraeg".
Mae'r ysgol wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion er bod y Cyfrifiad yn awgrymu bod Ceredigion hefyd â llai o blant ysgol sy'n siarad Cymraeg erbyn hyn.
"Ry'n ni wedi sefydlu ers 2016 fel ysgol a wedi cynyddu mewn niferoedd o 750 i dros 900," meddai'r pennaeth dros dro Gareth Evans.
"Ma' angen mentro fan hyn yn do's e?
"Mae 'na gynllun Cymraeg mewn addysg o fewn awdurdod addysg Ceredigion gyda'r uchelgais o gael pob plentyn yn cael addysg trochi yn y Gymraeg hyd at saith blwydd oed erbyn 2032.
"Y gobaith yw wrth i'r plant yna dyfu byddan nhw yn anfon eu plant i addysg Gymraeg a byddwn ni'n gweld yr iaith yn ffynnu."
Cymwysterau a sgiliau iaith yn her
Yn ôl adroddiad blynyddol prif arolygydd y corff addysg Estyn, mae'r pandemig yn dal i daflu cysgod dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae Owen Evans yn nodi pryder sylweddol am ehangu dysgu Cymraeg fel rhan o'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr, gan ddweud hefyd fod problemau recriwtio wedi ychwanegu at broblemau mewn sawl ysgol.
"Ar draws ysgolion a cholegau 'dyn ni yn gweld ysgolion sydd yn dda iawn, ond sy'n gallu bod yn wan ar yr iaith Gymraeg," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher.
"Beth sy'n dragwyddol yn dod i fyny yw'r ffaith eu bod nhw'n ffeindio hi'n anodd recriwtio athrawon sydd efo'r cymwysterau a'r iaith efo'i gilydd.
"'Dyn ni yn gweld pethau sy'n peri gofid o gwmpas recriwtio, a hefyd faint o bobl sy'n mynd mewn i'r proffesiwn sydd efo'r sgiliau iaith sydd eu hangen.
"Mae 'na ddyletswydd ar draws y maes, ond wrth gwrs, i raddau mae hwn yn mynd 'nôl i'r llywodraeth.
"I fod yn deg maen nhw wedi rhoi sawl cam yn ei le yn ddiweddar i sicrhau bod mwy o bobl yn mynd mewn i'r proffesiwn ac efo'r sgiliau cymwys, ond dwi'n credu bod mwy allen nhw 'neud."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n archwilio data'r cyfrifiad yn ofalus a'i fod yn "un o lawer o ddarnau pwysig o ddata a ddefnyddir i ystyried pa newidiadau sydd angen eu gwneud yn y dyfodol i sicrhau bod ein hiaith yn ffynnu".
Ychwanegodd llefarydd bod y prif weinidog wedi ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol "i ofyn iddynt archwilio sut a pham mae gwahanol arolygon am y Gymraeg yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022