11 cynllun Cymreig i rannu £208m gan gronfa Llywodraeth y DU

  • Cyhoeddwyd
Stadler CitylinkFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd trenau tram Stadler Citylink yn rhedeg ar reilffordd newydd rhwng gorsafoedd Bae Caerdydd a Chaerdydd Canolog

Bydd rheilffordd newydd yng Nghaerdydd ymysg y cynlluniau yng Nghymru i elwa o gronfa gwerth £208m gan Lywodraeth y DU.

Bydd 11 cynllun yn rhannu'r cyfanswm, sy'n rhan o gronfa Codi'r Gwastad, neu Ffyniant Bro (Levelling Up Fund).

Yn eu plith hefyd mae campws peirianneg yng Nglyn Ebwy a llwybr beicio newydd rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed.

Nod y gronfa yw lleihau'r bwlch rhwng ardaloedd cyfoethocach a thlotach, drwy gymryd lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd gynt.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak mai'r bwriad oedd "tyfu'r economi, creu swyddi da a lledaenu cyfleoedd ym mhobman".

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod Cymru'n parhau i fod dros £1.1bn yn waeth o'i gymharu â chynlluniau blaenorol yr Undeb Ewropeaidd i leihau anghydraddoldeb.

Dim arian i ailddatblygu'r Cae Ras

Mae prosiectau mawr arfaethedig wnaeth ddim derbyn arian o'r gronfa Ffyniant Bro, fodd bynnag, yn cynnwys cynllun 'Porth Wrecsam' ar gyfer ailddatblygu eisteddle'r Kop yn stadiwm y Cae Ras.

Dywedodd CPD Wrecsam eu bod yn "siomedig" i glywed nad oedd cais y cyngor i Lywodraeth y DU yn llwyddiannus, ac y byddai trafodaethau'n parhau ynghylch sut i ariannu'r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae eisteddle'r Kop yn y Cae Ras bellach wedi ei ddymchwel - ond fydd dim arian o'r gronfa yn mynd tuag at ei hailadeiladu

"Mae'n bryd ar gyfer gweithredu Cynllun B, a thra bod rhywfaint o ansicrwydd yn y tymor byr, mae'r rhagolygon tymor hir yn edrych yn bositif," meddai Shaun Harvey, Ymgynghorydd Strategol y Bwrdd.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Wrecsam, Sarah Atherton nad oedd hi'n "afresymol" bod cais y Cae Ras wedi methu, gan fod Wrecsam a Sir Ddinbych wedi derbyn arian o'r gronfa yn y gorffennol ar gyfer llwybrau cerdded yn ardal Llangollen a Thraphont Pontcysyllte.

"Byddaf yn parhau i weithio gyda Chyngor Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr a CPD Wrecsam i baratoi cais arall," meddai.

'Mae'n biti i Wrecsam'

Dywedodd Aaron Hughes, 18, sy'n byw yn y ddinas: "Mae'n drueni na chafodd Wrecsam yr arian hwn… mae'n glwb hanesyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Hughes "yn sicr" y bydd Cynllun B

"Mae'r hyn mae Rob a Ryan yn ei wneud yma yn ardderchog… fyddai'n drueni mawr i'r stand newydd yma beidio â mynd yn ei flaen."

Er hynny, dywedodd ei fod "yn sicr" y bydd Cynllun B.

Mae Ollie Williams, 17, hefyd yn hyderus y bydd pethau'n iawn yn y pendraw.

"Am faint o flynyddoedd oedd ganddyn nhw [y clwb] ddim byd?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ollie Williams hefyd yn hyderus y bydd pethau'n iawn yn y pendraw

"Roedden nhw'n glwb cyn yr holl arian… byddan nhw'n dal i fod yn glwb ar ôl yr arian.

"Cyn belled ag y gallwn ni eu gwylio nhw'n chwarae o wythnos i wythnos does ddim ots."

Siom hefyd yn Llanbedr

Ardal arall sydd wedi colli allan ar fuddsoddiad ydy Llanbedr yng Ngwynedd, oedd yn gobeithio cael arian er mwyn atgyfodi'r cynllun i gael ffordd osgoi heibio'r pentref.

Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen, sy'n cynrychioli Harlech a Llanbedr, ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru ei fod yn "neges wleidyddol glir iawn gan y llywodraeth".

"Beth maen nhw wedi ei wneud ydy, yn hytrach na rhoi arian yn y llefydd sydd wirioneddol ei angen, fel gorllewin Cymru i hybu'r economi ac i wneud yn lle diogelach a brafiach i fyw ynddo, maen nhw wedi canolbwyntio ar roi arian i'r llefydd lle mae 'na ddigon o arian yn mynd iddo fo'n barod.

"Dydyn ni ddim yn sôn am fwy o draffig i'r ardal. 'Dan ni'n sôn am wneud y lle yn ddiogelach i'r bobl sy'n byw yma yn barod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pont gul yng nghanol pentref Llanbedr yn golygu bod tagfeydd mawr yn ystod misoedd yr haf

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru "wedi'n gadael ni lawr yn barod efo'r ffordd osgoi 'ma", a bod "Llywodraeth Prydain nawr wedi'n gadael ni lawr".

"Mae angen gofyn, oes gennych chi uchelgais o gwbl ar gyfer ein hardal ni?"

'Cyrraedd mwy o rannau o'r wlad'

Serch hynny, mae'r arian sydd ar gael i Gymru yn cynnwys £50m ar gyfer rheilffordd newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, o'r enw Crossrail Caerdydd.

Mae'n rhan o gynllun ehangach i uwchraddio gwasanaethau i gymudwyr yn ne Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rishi Sunak: "Byddwn yn adeiladu dyfodol o optimistiaeth a balchder ym mywydau pobl"

Mae hefyd £9m ar gyfer campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc ym Mlaenau Gwent, a £18.6m i greu llwybr beicio rhwng Cyffordd Llandudno a Betws y Coed drwy Ddyffryn Conwy.

Yr wyth cynllun arall yw:

  • £18m i adnewyddu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl;

  • £20m i adeiladu canolfan hamdden yng Nghaerffili, gan gynnwys campfa a phwll nofio newydd;

  • £20m i adfer ac adfywio tri safle treftadaeth diwydiant yng Nghwm Tawe isaf gan gynnwys Gwaith Copr y Morfa ac Amgueddfa Abertawe;

  • £18.8m i uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru a chanolfan gelfyddydol Neuadd Ogwen yng Ngwynedd;

  • £17m ar gyfer Caergybi i ddatblygu prosiectau i gynyddu cyflogaeth; gwella'r hyn sydd gan ganol y dref i'w gynnig a gwella profiadau ymwelwyr; cynyddu'r nifer o bobl ymweld ac yn gwario ar y stryd fawr a darparu lleoliad modern er mwyn bodloni anghenion busnes a chynyddu mynediad i'r celfyddydau, diwylliant a hamdden;

  • £11m i adfer henebion hanesyddol yn Rhuthun, gan gynnwys Eglwys San Pedr a sgwâr y dref;

  • £17.8m i adfer yr ystâd hanesyddol yng Nghwm Nedd ac adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd;

  • £7.6m ar gyfer cynllun Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl i "drawsnewid adeiladau adfeiliedig yn ganolfan ddiwylliannol ffyniannus" gan gynnwys bwyty newydd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tref Caergybi ac Eglwys Sant Cybi yn un o'r cynlluniau fydd yn elwa o'r gronfa

Dywedodd Mr Sunak: "Dyna pam rydyn ni'n cefnogi nifer o brosiectau gyda chyllid trawsnewidiol newydd i lefelu cymunedau lleol yng Nghymru.

"Trwy gyrraedd hyd yn oed mwy o rannau o'r wlad nag o'r blaen, byddwn yn adeiladu dyfodol o optimistiaeth a balchder ym mywydau pobol a'r lleoedd maen nhw'n eu galw'n gartref."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, y byddai'r cyllid yn "adfywio canol trefi ac adeiladau hanesyddol, yn creu llwybrau beicio a cherdded newydd drwy rai o'n cefn gwlad harddaf, yn gwella cyfleusterau i ymwelwyr, yn darparu atebion trafnidiaeth i Gaerdydd ac yn cyfrannu at yr iechyd a chyfleoedd swyddi yn y dyfodol i bobl yn y meysydd dan sylw".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd £11m ar gael i'w wario ar adeiladau hanesyddol yng nghanol Rhuthun

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd Mr Davies ei fod yn "deall bod rhai pobl yn teimlo siom heddiw os maen nhw wedi colli mas", ond nad oedd unrhyw ardal oedd yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.

"Fi'n gallu dweud bod yr holl system yn deg, a fi ddim wedi cael unrhyw beth [i fy etholaeth] gwaetha'r modd - mae fy nghyngor i [yn Sir Fynwy] wedi rhoi dau gais a dydyn nhw ddim wedi bod yn llwyddiannus eto," meddai.

Fe wnaeth hefyd amddiffyn y penderfyniad i roi arian i gyswllt rheilffordd rhwng Bae Caerdydd a chanol y ddinas, er bod trenau a bysys eisoes yn rhedeg rhwng y ddau le.

"Yn amlwg maen nhw'n teimlo bod y prosiect hwn yn bwysig iawn... ac mae miloedd o bobl yn gweithio rhwng y ddwy ardal," meddai.

"Faswn i'n disgwyl bod prifddinas Cymru'n mynd i gael safon o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n ffit ar gyfer y ganrif hon."

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod y cyhoeddiad gohiriedig heddiw yn cadarnhau nifer cyfyngedig o brosiectau, mae Cymru yn parhau i fod dros £1.1bn yn waeth allan o'i gymharu gyda be addwyd ar ôl gadael yr UE.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Neuadd Ogwen ym Methesda hefyd yn elwa o'r gronfa

"Bellach mae gan Gymru lai o lais dros lai o arian, ac mae pob penderfyniad ar gyllid Lefelu'r Gwastad ar gyfer prosiectau lleol wedi eu gwneud yn Whitehall.

"Mae'r broeses anhrefnus bellach yn costio swyddi ac mae prosiectau eraill y mae mawr eu hangen yn cael eu methu o ganlyniad i'r arian a gollwyd.

"Dyw newyddion heddiw ddim yn dod yn agos at gwrdd â'r cyllid a addawyd gan weinidogion y DU yn 2019."

Wrth groesawu'r arian ychwanegol i Gaergybi, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Môn a'r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, ei fod yn "newyddion gwych" i'r dref a'r ynys.

"Mae'r cadarnhad heddiw gan Lywodraeth y DU yn gam mawr tuag at adfywiad Caergybi, gyda buddion yn lledu ar draws yr Ynys gyfan," meddai Carwyn Jones.

Ychwanegol Aelod Seneddol yr ynys, Virginia Crosbie: "Mae hon yn fuddugoliaeth anferthol i Gaergybi ac rwyf wrth fy modd bod arian Llywodraeth y DU yn dod i'n hynys ni i wneud gwir wahaniaeth i fywydau trigolion."

Wrth groesawu'r arian ar gyfer rheilffordd newydd yng Nghaerdydd, dywedodd arweinydd y cyngor Huw Thomas y byddai'n golygu bod modd "cysylltu Tre-biwt yn iawn gyda chanol y ddinas o'r diwedd".

"Bydd hyn yn dechrau gwireddu uchelgais y cyngor ar gyfer gwasanaeth tram Crossrail fydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas yr holl ffordd i'r dwyrain," meddai.