Cau ysgolion a chyhoeddi rhybudd rhew ac eira newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd newydd am rew ac amodau teithio anodd.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym o 17:00 ddydd Iau hyd at 10:00 fore Gwener.
Roedd tua 65 o ysgolion wedi cau ar draws y wlad ddydd Iau, wrth i rew ac eira barhau i achosi trafferthion.
Yr ardaloedd gafodd eu heffeithio fwyaf oedd Rhondda Cynon Taf a Sir y Fflint.
Daw'r rhybudd diweddaraf ar ôl o leiaf ddeuddydd o rybuddion gan y Swyddfa Dywydd am dywydd gaeafol.
Mae heddluoedd Cymru wedi rhybuddio am amodau peryglus ar y ffyrdd, gyda sawl un wedi eu cau.
Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd cawodydd gaeafol yn dod i ben yn raddol yn ystod nos Iau, ond gydag awyr glir mae disgwyl iddi rewi gan achosi trafferthion posib ar lonydd a llwybrau sydd heb eu graeanu.
Roedd trafferthion yn parhau ar y ffyrdd fore Iau, a rhybudd i bobl fod yn ofalus.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio fod ffordd yr A489 rhwng y Drenewydd ac Yr Ystog yn "beryglus iawn" oherwydd yr amodau rhewllyd.
Roedd tagfeydd ar sawl rhan o'r M4 hefyd gyda rhew mewn sawl ardal.
Yn y gogledd ar ffordd yr A55 ger Caerwys, roedd adroddiadau o gerbydau wedi torri i lawr gydag eira a rhew yn yr ardal, ac roedd yr amodau gyrru'n beryglus ar yr A5 ger Cerrigydrudion fore Iau hefyd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd nifer fawr o ysgolion Rhondda Cynon Taf ar gau oherwydd peryglon rhew yn bennaf.
Roedd rhai ar gau mewn sawl rhan arall o Gymru hefyd.
Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023