Carchar i ddynes a laddodd ei chymar yn ystod ffrae

  • Cyhoeddwyd
Carrie McGuinnessFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dynes 35 oed wedi cael dedfryd o 15 mlynedd a chwe mis o garchar am ladd ei chymar yn ystod ffrae feddwol yn ei gartref.

Cafodd corff Steven Davies, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hagi, ei ddarganfod ar 15 Mehefin 2022 yng Nglyn-coch ger Pontypridd.

Bu farw ar ôl cael ei drywanu unwaith yn ei ochr.

Roedd Carrie McGuinness, o bentref Rhydyfelin ger Pontypridd, yn wreiddiol wedi gwadu llofruddiaeth a dynladdiad Mr Davies, a oedd yn 39 oed.

Ond ar ail ddiwrnod yr achos yn ei herbyn ym mis Rhagfyr 2022, fe blediodd yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll oherwydd "anhwylder dibyniaeth ddifrifol ar alcohol".

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, cafodd McGuinness ddedfryd estynedig o 15 mlynedd a chwe mis.

Bydd yn treulio tair blynedd ar drwydded wedi iddi gael ei rhyddhau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steven Davies, oedd yn cael ei nabod gan lawer fel Hagi, ei ddarganfod yn farw gan gymydog

Clywodd y llys bod Mr Davies wedi marw o un anaf 2.5cm o ddyfnder i'w ochr, wnaeth dorri ei goluddyn ac arwain at haint.

Roedd McGuinness wedi dweud wrth yr heddlu bod Mr Davies wedi bod yn aros gyda hi ym Mehefin 2022, a'u bod wedi ffraeo ddwywaith.

Honnodd bod Mr Davies wedi ei hanafu hi ar un achlysur.

Dywedodd eu bod wedi bwyta gyda'i gilydd ar 9 Mehefin, cyn i Mr Davies gwyno bod ganddo boen yn ei fol, a rhoddodd McGuinness dabledi lladd poen iddo.

Yn y bore, roedd wedi mynd, meddai McGuinness, ac ni chlywodd ganddo eto.

Chwilio'r we am symptomau

Dywedodd yr erlynydd Jonathan Rees KC bod y berthynas yn "gythryblus", ac fe glywodd y llys bod Mr Davies hefyd yn ddibynnol ar alcohol.

Roedd cymydog wedi clywed ffraeo yn y fflat ar 9 Mehefin, ac yna cymydog arall wedi gweld McGuinness yn y stryd - dywedodd hi fod Mr Davies wedi ymosod arni, a'i bod hi "wedi ei drywanu".

Cafodd gwaed Mr Davies ei ganfod yn y fflat, yn ogystal â rhwymynnau oedd wedi eu defnyddio.

Roedd data o ffôn a thabled Mr Davies yn dangos ei fod wedi chwilio'r we am dermau fel "chwyddo ym moliau dynion", ac yn ddiweddarach, "cyfog", "gwaed" a "diwedd oes".

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd mam Mr Davies, Donna, ei bod "yn aml yn deffro yn gobeithio bod hyn i gyd wedi bod yn hunllef a bod Steven dal gyda ni".

"Steven oedd fy mhlentyn a fy mywyd. Roedd e mor ifanc ac fe gafodd ei gymryd ganddon ni."

Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Timothy Kerr nad oedd McGuinness wedi gwneud ymgais i gael cymorth ar ôl y trywanu.

"Fe wnaethoch chi ofyn 'Beth ydw i wedi ei wneud?' ond nid, 'Beth ddylwn i wneud nawr?'", meddai.

"Fe fyddai unrhyw berson rhesymol yn gwneud hynny. Does dim rhaid bod yn feddyg i wybod bod anaf yn gallu arwain at haint."