Tata: Disgwyl cynnig o £300m i greu 'dur gwyrdd'
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwaith dur ym Mhort Talbot gael miliynau o bunnoedd i fod yn fwy gwyrdd.
Mae disgwyl i'r Canghellor, Jeremy Hunt, gyhoeddi'r wythnos hon y bydd Tata Steel UK - ynghyd â chwmni British Steel - yn cael gwerth tua £300m o grantiau'r un.
Y nod fyddai "symud i ffwrdd" o ffwrneisi glo i leihau allyriadau carbon. Fe fyddai'n gwarchod nifer o swyddi hefyd.
Ond mae 'na rybuddion y byddai angen i'r cymorth ariannol fod lawer yn fwy er mwyn trawsnewid ffyrdd o gynhyrchu dur.
Dywedodd yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wrth y BBC eu bod yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant dur i sicrhau "dyfodol cynaliadwy a chystadleuol".
Ddydd Sul, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies y gallai'r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmnïau gwaith dur mwyaf am gymorth ariannol ddod i ben "yn fuan".
Ond mae 'na amheuon ynghylch y cynnig o £300m ac na fyddai'n ddigon i berswadio'r cwmni i fuddsoddi fel y byddai angen.
Yn ganolog i'r cynnig o gefnogaeth fyddai cyfnewid ffwrneisi chwyth y cwmni am ffordd wyrdd o gynhyrchu dur.
Maen nhw'n defnyddio glo golosg ac yn cynhyrchu llawer iawn o garbon deuocsid, sy'n arwain at gynhesu byd eang.
Mae lle i gredu, yn ôl rhagfynegon mewnol y cwmni, y byddai trawsnewid gwaith y cwmni ym Mhort Talbot i gynhyrchu "dur gwyrdd" yn costio hyd at £3bn.
Yn ôl adroddiadau mae'r cwmni sy'n cyflogi 4,000 ym Mhort Talbot wedi gofyn i Lywodraeth y DU am £1.5bn i ddatgarboneiddio'r safle.
Mae angen cytundeb yn fuan, dywedodd Steve Turner, pennaeth undeb Unite, wrth y Gweinidog Busnes, Grant Shapps.
Dywedodd fod y diwydiant dur "ar fin dymchwel" mewn llythyr yr wythnos ddiwethaf.
Y llynedd, fe rybuddiodd cwmni Tata y gallen nhw orfod "cau rhai safleoedd" yn y DU pe na fydden nhw'n cael cefnogaeth ariannol i gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd.
Dywedodd Henrik Adam, prif weithredwr gweithrediadau Tata yn Ewrop, wrth y BBC fod angen "yr un gefnogaeth" â chwmnïau dramor.
Ychwanegodd fod buddsoddiad gan y llywodraeth yn angenrheidiol i helpu'r gweithfeydd ym Mhort Talbot drawsnewid i gynhyrchu dur gwyrdd.
'Angen yr un gefnogaeth â dramor'
Mae Tata'n cynhyrchu tua 3.6 tunnell o ddur bob blwyddyn yn y DU. Mae'n broses sy'n defnyddio digon o ynni i bweru mwy na 600,000 o dai yn y DU.
Mae eu hallyriadau carbon yn cyfateb a 2% o holl allyriadau carbon y DU a mwy na 15% o rai Cymru.
Er mwyn cyrraedd targedau Cymru a'r DU o leihau allyriadau carbon dros y degawdau nesaf, mae 'na gydnabyddiaeth wedi bod ers blynyddoedd fod y ffyrdd arferol o gynhyrchu dur yn mynd yn groes i hynny.
Yr opsiwn mwyaf tebygol yw y byddai Tata Steel a British Steel yn defnyddio ffwrneisi trydan yn hytrach na rhai glo.
Mae disgwyl i gymorth ariannol Llywodraeth y DU fod yn ddibynnol ar fuddsoddiad gan y ddau gwmni dur a sicrwydd y bydd eu gweithfeydd yn parhau i weithredu tan 2030.
Ond mae'r Aelod Seneddol Llafur lleol, Stephen Kinnock, wedi dweud fod y £300m sydd wedi ei gynnig i safle Port Talbot "tipyn yn llai" na'r hyn mae gwledydd eraill yn ei gynnig i gwmnïau dur er mwyn symud tuag at ynni gwyrdd.
"Mae'n bryd i Lywodraeth y DU stopio gyda'r datrysiadau dros dro yma, ac eistedd rownd y bwrdd gyda chwmnïau dur er mewn gweithio allan beth sydd ei angen o ran cynllun hir-dymor," meddai.
"Mae unrhyw gymorth yn help, ond dwi ddim yn meddwl y bydd hyn yn cyfateb i faint yr uchelgais sydd gan ein gweithwyr a chwmnïau dur."
Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth "ddechrau buddsoddi a newid nawr", gan fod un o'r ffwrnesi yn debygol o gyrraedd diwedd ei oes erbyn 2026.
Dilyn esiampl yr UDA?
Mae rhai o weithwyr y cwmni ym Mhort Talbot yn optimistaidd ynghylch cynhyrchu dur yn garbon-isel.
"Mae mor gyffrous i feddwl am ddyfodol y gweithfeydd hyn a'r effaith allwn ni gal ar ddatgarboneiddio ar gyfer y DU gyfan," dywedodd Laura Baker.
Ms Baker sy'n creu'r "ryseitiau" i sicrhau fod y dur sy'n cael ei greu ym Mhort Talbot yn cwrdd â gofynion penodol cwsmeriaid.
"Mae'n cwsmeriaid wir eisiau i ni ddatgarboneiddio fel y gallan nhw ddatgarboneiddio eu cadwynai cyflenwi eu hunain," dywedodd.
Yn ôl cadeirydd grŵp o arweinwyr busnes sydd eisiau cyflymu'r broses o ddatgarboneiddio'r economi ar draws y byd, mae 'na "rôl gan Lywodraeth y DU i'w chwarae i roi cefnogaeth benodol yn y camau cyntaf o drawsnewidiad technolegol gwbl newydd".
"Allwn ni ddim bod yn buraidd am hyn," dywedodd yr Arglwydd Adair Turner, cadeirydd y Comisiwn Trawsnewid Ynni.
"Mae'r UDA nawr yn gwneud hyn ar raddfa enfawr," dywedodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022