Tata: Pryder am swyddi dur heb gymorth ariannol

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan gwmni dur Tata safleoedd ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton

Mae perchenogion cwmni dur Tata wedi dweud ei bod yn bosib y bydd yn rhaid cau safleoedd ym Mhrydain oni bai fod y cwmni yn cael cymorth i adeiladu ffwrnesi trydan ym Mhort Talbot.

Dywed y cwmni fod y ffwrnesi yn rhan o gynllun i'w galluogi i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon.

Mae'r cwmni, sy'n cyflogi tua 6,600 o weithwyr ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton yn ceisio am gytundeb o £1.5bn gyda Llywodraeth y DU.

Mae Tata am adeiladu dwy ffwrnes trydan newydd - gan ddisodli'r rhai presennol - ym Mhort Talbot er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Dywedodd cadeirydd Tata Natarajan Chandrasekaran wrth bapur newydd y Financial Times fod angen dod i gytundeb gyda'r llywodraeth o fewn 12 mis "neu bydd yn rhaid edrych ar gau safleoedd".

Cost y ffwrnesi newydd fydd tua £3bn gyda Tata yn gofyn am gymorth o £1.5bn oddi wrth Lywodraeth y DU.

Dywed Llywodraeth y DU fod y diwydiant dur "yn chwarae rhan allweddol" yn economi'r DU a bod Tata yn "gynhyrchydd dur o bwys sy'n cael ei werthfawrogi a'u bod yn gyflogwr pwysig".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith dur mwyaf y DU, ym Mhort Talbot, yn cyflogi 4,000 o bobl

Fel pob grŵp diwydiannol sy'n allyrru carbon deuocsid, gofynnwyd i Tata dorri'r rhain, ac mae swyddogion gweithredol wedi bod yn trafod â Llywodraeth y DU.

Ond dywedodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock, fod Llywodraeth y DU yn llusgo eu traed ar y mater.

"Does yna ddim diwydiant dur yn y byd fydd yn gallu digarboneiddio heb gymorth sylweddol llywodraeth, felly pam yn y byd fod Rishi Sunak, Liz Truss a gweddill y cabinet wedi bod yn llusgo eu traed mor hir?"

Dywed undeb y GMB eu bod yn pryderu'n fawr am y sefyllfa a bod angen i'r llywodraeth weithredu yn gyflym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith dur Tata, ynghyd â gorsaf bŵer nwy RWE yn Sir Benfro, yw'r ddau gwmni sy'n creu'r allyriadau mwyaf yng Nghymru

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y DU mae dur yn chwarae "rhan allweddol ym mhob maes o economi'r DU" ac mae Tata yn "gyflogwr sylweddol".

Ychwanegodd: "Mae ein cefnogaeth barhaol wrth gefnogi allyriadau carbon-is i'r sector yn cynnwys £289m o gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol a dros £1bn i helpu gydag effeithiolrwydd ynni, digarbonieddio ynghyd ag ymchwil a datblygiad."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein ffocws yn parhau i fod ar ymchwilio i bob dull er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus carbon-isel i ddur Cymru.

"Mae'r nod yn un gwbl bosibl, ond mae angen gweithredu gan Lywodraeth y DU.

"Rydym wedi galw yn gyson ar weinidogion y DU i gyhoeddi ar frys pecyn o gymorth i ddiogelu cynhyrchiant dur ym Mhort Talbot.

"Mae swyddogion o Gymru wrthi ar hyn o bryd yn trafod gyda'r cwmni, Llywodraeth y DU a'r undebau er mwyn sicrhau datrysiad brys."