Undeb nyrsio yn gwrthod cynnig untro i atal streiciau

  • Cyhoeddwyd
Streic CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nyrsys yn streicio eto ar 6 a 7 Chwefror

Mae undeb nyrsio wedi gwrthod yn swyddogol y cynnig gan Lywodraeth Cymru o daliad untro i geisio dod â streiciau i ben.

Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) nad oedd yn "barod i drafod ymhellach" yn dilyn y cynnig yn gynharach yn y mis.

Mae'r RCN wedi cyhoeddi rhagor o weithredu diwydiannol ar 6 a 7 Chwefror.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n rhoi sylwebaeth ar y trafodaethau.

Daw wrth i sawl undeb iechyd fod mewn anghydfod gyda'r llywodraeth, gan alw am godiadau cyflog uwch na sydd wedi eu cynnig.

Mae'r RCN wedi dweud ei fod yn agored i drafodaethau gyda'r llywodraeth, ond nid ar y taliad untro oni bai bod y termau'n newid.

Ar ôl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud y cynnig untro, mae streiciau pellach wedi eu cyhoeddi.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y "cloc yn tician" ar y cynnig hwnnw, gan y byddai angen ei dalu cyn diwedd Chwefror.

Ond mae ffynhonnell o fewn un undeb yn dweud nad yw'r sylw'n helpu'r sefyllfa, a'i fod yn gamarweiniol gan nad oes cynnig swyddogol wedi ei roi i weithwyr.

Er nad oes manylion wedi eu cyhoeddi'n swyddogol, mae'r BBC ar ddeall mai taliad o £1,000 oedd y cynnig i bob gweithiwr iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd aelodau o undeb Unite y Gwasanaeth Ambiwlans yn streicio ddydd Llun

Roedd yr RCN wedi galw am godiad cyflog oedd 5% uwchben graddfa chwyddiant, ond mae wedi awgrymu y byddai'n fodlon derbyn cynnig is ers hynny.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn gallu cynnig codiadau cyflog oedd ar raddfa chwyddiant heb gymorth ariannol Llywodraeth y DU.

Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley ei bod wedi ysgrifennu at Mr Drakeford yr wythnos ddiwethaf, gan annog y llywodraeth i "newid trywydd yn llwyr".

"Nid ydym yn barod i drafod ymhellach y cynnig o daliad untro a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ein cyfarfod diwethaf oni bai bod telerau'r taliad yna'n newid," meddai.

"Mae ein haelodau etholedig wedi penderfynu bod hwn yn ddatrysiad gwleidyddol sydyn yn hytrach na symudiad tuag at ddatrys yr argyfwng yn y gweithlu nyrsio ac adnabod gwerth nyrsio mewn modd cadarn."

Undeb arall sy'n cynrychioli gweithwyr ambiwlans sy'n streicio dros gyflogau yw'r GMB.

Dywedodd ffynhonnell o'r GMB bod yr undeb am weld nad yw'r cynnig untro yn ddibynnol ar ddod ag unrhyw streiciau i ben.

Roedd aelodau Unite yn y Gwasanaeth Ambiwlans yn streicio ddydd Llun.

Dywedodd ffynhonnell o Unite nad oedd yn credu y byddai aelodau'n gweld y taliad untro fel un digonol.