Plaid: Streiciau'n digwydd i 'achub' y gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
![Adam Price](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9495/production/_127673083_gettyimages-1239496282.jpg)
Mae gan Blaid Cymru dan Adam Price gytundeb gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd, ond nid clymblaid ffurfiol
Mae'r streiciau gan weithwyr iechyd yn rhan o ymgyrch "i achub" y gwasanaeth, meddai arweinydd Plaid Cymru wrth iddo gyhoeddi polisïau i leddfu'r pwysau.
Fe wnaeth Adam Price gyhuddo Llafur o "gamreoli" y gwasanaeth iechyd dros ddau ddegawd, ond hefyd amddiffyn y cytundeb rhwng ei blaid a llywodraeth Mark Drakeford.
Dywedodd nad oedd y ddwy blaid wedi medru cytuno ar bolisïau iechyd yn ystod eu trafodaethau yn dilyn yr etholiad.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth iechyd yn delio gyda nifer "anhygoel" o gleifion, a'u bod wedi ymrwymo i roi £1bn yn ychwanegol i'r GIG yng Nghymru yn ystod y tymor Seneddol hwn.
'Ddim yn gynaliadwy'
Mae cynllun pum-pwynt Plaid Cymru - sydd wedi ei selio, meddai'r blaid, ar drafodaethau gyda chynrychiolwyr gweithwyr iechyd - yn galw am gyflogau gwell.
Mae hefyd yn dweud dylai asiantaeth gyhoeddus fod yn gyfrifol am lenwi bylchau mewn rotas ysbytai, yn hytrach na chwmnïau preifat.
Roedd gweithwyr yn streicio "dros ddyfodol yr NHS", meddai Mr Price mewn cynhadledd i'r wasg yn y Senedd.
"Mae holl ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn y fantol," meddai.
![piced tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16E91/production/_128014839_strikeindex.png)
Mae nyrsys yn ogystal â staff iechyd eraill fel y gwasanaeth ambiwlans wedi bod yn cynnal dyddiau streic ers fis diwethaf
"Nid dim ond Plaid Cymru sy'n gweud hwnna, ond yn bwysicach oll, y bobl sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd.
"Y meddygon, y nyrsys a'r gweithlu ehangach sy'n dweud wrtho ni bod pethau sydd wedi bod mewn argyfwng cyson o bryd i'w gilydd yn ystod y ddegawd a mwy, wedi cyrraedd y pwynt nawr lle allwn ni ddim parhau fel y'n ni.
"Dyw e ddim yn gynaliadwy, felly mae'n rhaid i ni nawr achub dyfodol y gwasanaeth iechyd trwy gael newidiadau sylfaenol yng nghyfeiriad y polisi gan Lywodraeth Cymru."
Gwahaniaeth barn 'sylfaenol'
Mae Plaid wedi dweud y dylai'r llywodraeth ddefnyddio'i phwerau codi trethi er mwyn ychwanegu at y gyllideb o San Steffan, ond dyw'r blaid heb gyhoeddi cynigion pendant.
Mae hi hefyd yn galw ar y llywodraeth i gyfaddef bod 'na argyfwng yn y gwasanaeth.
Ond mewn dadl wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod braidd dim son am iechyd yn y cytundeb rhwng y ddwy blaid.
Dywedodd Mr Price ddydd Mawrth bod 'na wahaniaeth barn sylfaenol rhwng y ddwy blaid.
Ychwanegodd ei fod yn cefnogi'r syniad o ddarparu gofal iechyd am ddim, ac y dylai rhywbeth tebyg ddigwydd mewn gofal cymdeithasol.
![Nyrsys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11B1C/production/_127567427_nursespa.jpg)
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi darparu mwy o arian i hyfforddi rhagor o nyrsys yng Nghymru
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwasanaeth iechyd yn "delio gyda thua 2 filiwn o gysylltiadau bob mis yng Nghymru".
"Mae hynny'n berfformiad anhygoel mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl," meddai.
Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf drwy fuddsoddi mewn staff ambiwlans, adrannau gofal brys, a llif cleifion drwy ysbytai.
"Rydyn ni wedi addo dros £1bn yn ychwanegol yn y tymor Seneddol hwn i helpu'r gwasanaeth iechyd i adfer o'r pandemig a lleihau amseroedd aros," meddai.
"Rydyn ni'n gweithio gyda byrddau iechyd ac wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig i daclo'r llwyth ychwanegol a gododd o'r pandemig ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, gyda chyllid hir-dymor yn rhan o hynny.
"Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddon ni bron i 400 yn rhagor o lefydd hyfforddi ar gyfer nyrsys yng Nghymru, diolch i gynnydd o 8% yng nghyllideb hyfforddi GIG Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023