Yr ysgol sydd â 'goleuni positif' ym Mhenarth

  • Cyhoeddwyd
a special school

Ar BBC One Cymru ar hyn o bryd mae rhaglen sy'n rhoi sylw i ysgol arbennig ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Mae'r ysgol yn addysgu 385 o ddisgyblion gyda ystod eang o anghenion.

Mae'r camerâu yn dychwelyd i Ysgol Y Deri ym Mhenarth - ysgol addysg arbennig fwyaf Prydain - ar gyfer ail gyfres A Special School.

Chris Britten yw'r prifathro: "Mae wedi bod yn gyffrous, a dwi'n meddwl bod yr ail gyfres 'ma wedi bod yn wych i ddangos yr ymdriniaeth o ddysgu ac agwedd tuag at y disgyblion.

"Yn y gyfres 'ma mae ambell difficult watch, ond mae 'na benderfyniad llwyr i ddatrys problemau.

Disgrifiad o’r llun,

Chris Britten, prifathro Ysgol y Deri.

"Roedd hi'n bleser cael y camerâu nôl yn yr ysgol, ac roedd o'n ddiddorol achos yr un criw ddaeth fewn i recordio - criw bach, y dyn camera a'r cynhyrchydd, Ffion Humphreys.

"Dwi wrth fy modd efo'r output o'r ail gyfres 'ma, mae'n dangos y plant mewn golau gwahanol - ry'n ni'n siarad amdanyn nhw fel differently abled, nid disabled."

'Jest ysgol yw hi'

Er bod yr ysgol yn ymdrin â disgyblion sydd â heriau penodol, mae Chris Britten yn dweud mai ffocws yr ysgol yw gwneud yn siŵr bod y plant yn cael pob cyfle i gyrraedd eu potensial a chael gwneud yr hyn maent eisiau mewn bywyd.

"'Nath y recordio ddal agweddau gwahanol o'r ysgol, gan ddangos bod ysgolion arbennig yn lefydd positif iawn ble mae plant a phobl ifanc yn ffynnu dim bwys pa sialensau maent yn eu wynebu yn eu bywydau. A dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i ni, a dwi'n clywed hyn gan bobl eraill ym myd addysg, i roi goleuni ar hyn ry'n ni'n ei wneud achos mae'n eithaf cuddiedig.

"Dwi ddim yn meddwl bod y rhan fwyaf o bobl erioed wedi bod i ysgol arbennig fel 'ma, a dydyn nhw ddim yn gwybod beth ni'n ei wneud yma. Ac mewn lot o ffyrdd, jest ysgol yw hi, ac ry'n ni'n addasu i wneud i bethau ddigwydd.

"Mae'r rhaglen hefyd yn dangos pa mor anodd mae'n gallu bod i rhai o'r disgyblion wneud llawer o'r pethau ry'n ni'n cymryd yn ganiataol. Ni'n siarad am ddatblygu perthynas a thyfu fyny - mae hyn yn heriol iawn i rai o'r plant 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Esme, sy'n gwirfoddoli i helpu nyrsus yr ysgol.

Un o'r cymeriadau mae'r gyfres yn ei ddilyn yw Esme, disgybl 13 oed yn yr ysgol. Yn ystod y pandemig roedd swyddfa'r nyrsus ar gau i ymweliadau nad oedd yn hanfodol.

Wrth iddo ail-agor, roedd Esme yn dod fewn i'r ysgol ar gyfer diwrnod arbennig ychwanegol, yn ymuno â thîm y nyrsys ar brofiad gwaith. Roedd Esme, sydd wedi cael diagnosis o glefyd Leigh, mewn gwisg nyrs, ac wrth ei bodd yn treulio amser gyda'r tîm ac yn helpu gyda'r tasgau.

Lladrad

Mae'r gyfres newydd yn trafod y sioc a'r siom yn yr ysgol wrth i werth miloedd o bunnoedd o offer chwaraeon dŵr gael ei ddwyn. Roedd y gwersi a ddysgwyd ar y dŵr yn helpu'r disgyblion i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth, sy'n gwneud y lladrad yn fwy annifyr fyth.

Fodd bynnag, mae rhoddion wedi dod i mewn o bob rhan o'r byd i adnewyddu'r holl offer.

"Roedd yr ymateb yn gwbl anhygoel, gafon ni arian o bob cwr o'r byd," meddai Chris Britten.

"Cafwyd arian gan Gymro sy'n byw a gweithio mas yn Geneva. Roedd rhai pobl wedi rhoi miloedd o bunnoedd, a gafon ni hefyd siec am ychydig bunnoedd gan rywun o'r gogledd. Fe wnaeth hyn adnewyddu fy ffydd mewn dynoliaeth!"

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Ysgol y Deri ei drysau am y tro cyntaf yn 2014.

Prom a sioe'r ysgol

Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yw'r sioeau yn yr ysgol, gyda'r plant hŷn yn perfformio a'r dirprwy bennaeth Kerrie Britten yn cyfarwyddo.

Yn siarad am y sioeau dywedodd Chris Britten: "Maen nhw yn cael eu cymryd yn ganiataol mewn amgylchiadau eraill, ond mae'n cymryd lot mwy o waith i ni lwyfannu'r sioeau 'ma.

"O ran y sioeau, mae'n rhywbeth mae'r disgyblion hŷn yn ei wneud er mwyn i weddill yr ysgol fwynhau. Mae ambell riant yn dod i weld sioe a gweld eu plant ar lwyfan am y tro cyntaf erioed, am eu bod nhw ddim wedi cael y cyfle efallai.

"Am ein bod mor relaxed am y peth - os yw e i gyd yn mynd yn anghywir, mae'n mynd yn anghywir, os yw e'n cael ei berfformio'n berffaith, mae'n cael ei berfformio'n berffaith. Dydy e wir ddim yn bwysig. Yr oll sy'n bwysig yw'r profiad i'r plentyn a'r rhieni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol yn cynnwys disgyblion o 3 i 19 mlwydd oed.

"Ond yna ry ni'n gweld y plant hŷn yn actio ac maen nhw wastad yn wych, gyda llawer yn dod allan gan ganu ac actio'n llawn hyder, a'n synnu ni er bod ni'n 'nabod nhw ers blynyddoedd. Mae hynny o hyd yn arbennig iawn i'w weld."

Positifrwydd

Un o brif rinweddau'r swydd i Chris Britten yw positifrwydd, am ddyfodol y plant a'r awyrgylch yn yr ysgol ei hun.

"Rydyn ni wastad yn ymgeisio i fod yn bositif ac edrych ymlaen, be allwn ni wneud, pa agweddau allwn ni ei gydnabod yn y bobl ifanc a rhoi sylw teilwng iddo.

"Hefyd, sut y gallwn ni eu helpu nhw i gyrraedd eu dyheadau nhw, achos mae gan bob un ohonyn nhw bethau mae nhw eisiau mewn bywyd, a'n job ni yw eu helpu nhw i wireddu hynny gymaint â gallwn ni."

  • Bydd pennod olaf y gyfres (pennod 3) yn cael ei darlledu ar BBC One am 20.30 ar nos Lun Ionawr 30, ac mae'r ail gyfres a'r gyfres gyntaf ar gael nawr ar BBC iPlayer.

Hefyd o ddiddordeb: