Marwolaeth yr awdur J Elwyn Hughes 'yn ergyd drom'
- Cyhoeddwyd
![John Elwyn Hughes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/14814/production/_84088938_a42beb9b-81bb-4cd5-9724-1866ad958556.jpg)
Roedd John Elwyn yn awdur toreithiog ac yn arbenigwr ar hanes Caradog Prichard
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r awdur a'r academydd John Elwyn Hughes yn dilyn ei farwolaeth.
Bu'n olygydd ar gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd, o 1985 i 2015.
Mewn teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn "ŵr a thad annwyl, gofalgar a chymwynasgar, cyfaill i lawer".
"Roedd ganddo angerdd at y Gymraeg, hanes lleol a bro ei febyd - Dyffryn Ogwen," meddai'r teulu.
"Cyffyrddodd nifer o fywydau ar hyd ei oes - bydd yn gadael bwlch mawr i ni fel teulu ar ei ôl."
'Colled i'r iaith'
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod ei farwolaeth "yn ergyd drom i ni yma yng Nghymru".
"Yn ddyn iaith a gramadeg o'i gorun i'w sawdl, roedd o hefyd yn olygydd heb ei ail," meddai llefarydd.
"Roedd ei ofal a'i lygad craff a manwl yn amhrisiadwy wrth dynnu cyfrol mor swmpus at ei gilydd mewn cyfnod mor fyr, ac roedd Elwyn bob amser yn barod i helpu a pharod am sgwrs wrth i'r gyfrol ddod ynghyd.
"Er iddo ymddeol ers rhai blynyddoedd, mae hon yn golled drom i'r Eisteddfod ac yn golled fwy i'n hiaith.
"Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at y teulu heddiw ac yn cofio'n annwyl am Elwyn a'i waith."
Yn wreiddiol o Ddyffryn Ogwen, fe raddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac ennill M.A. mewn Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, cyn dod yn brifathro ar Ysgol Dyffryn Ogwen.
![Casgliad Dr J. Elwyn Hughes o gyfrolau Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/7C91/production/_84098813_bca1ff97-1acd-4789-a1b0-bad416cb4c2b.jpg)
Roedd gan Dr J. Elwyn Hughes gasgliad eang o gyfrolau Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod
Yn ddiweddarach ymgartrefodd ym Methel ger Caernarfon a daeth yn adnabyddus fel awdur toreithiog ac arbenigwr ar hanes Caradog Prichard.
Yn 2009, dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth gan Brifysgol Bangor am ei ddwy gyfrol - 'Byd a Bywyd Caradog Prichard' a 'Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad'.
Yn ogystal â'i waith ar Caradog Prichard, mae hefyd yn arbenigwr ar ramadeg y Gymraeg ac wedi ysgrifennu amryw o gyfrolau ar y pwnc.
Cafodd ei anrhyddeddu gyda'r Wisg Wen yn Eisteddfod Llanelwedd yn 1993, a hynny am ei gyfraniad i'r Gymraeg.
Ychwanegodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, ei fod yn "newyddion trist iawn".
"Un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg," meddai. "Pob cydymdemlad gyda'i deulu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd3 Awst 2015