Llangefni: Cynllun am 32 bwthyn gwyliau yn hollti barn

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle, ar Lôn Penmynydd, ar gyrion tref Llangefni yn agos i gampws Coleg Menai

Mae cynllun i godi cyfres o fythynnod gwyliau yng nghanol Ynys Môn wedi hollti barn yn lleol cyn mynd o flaen cynghorwyr yr wythnos hon.

Ddydd Mercher bydd pwyllgor cynllunio'r cyngor yn trafod cais i adeiladu 32 chalet gwyliau ar gyrion Llangefni.

Yn ôl datblygwyr byddai'n darparu buddion i ardal sydd wedi derbyn sawl ergyd economaidd yn ddiweddar.

Ond nid pawb sydd o'r un farn. Mae sawl llythyr o wrthwynebiad wedi'u hanfon i'r awdurdod.

Yn ôl un o'r cynghorwyr lleol, mae rhai yn pryderu "nad dyma'r lle iawn" i ddatblygiad o'r fath.

'Cyfraniad gwerthfawr i'r economi'

Mae'r safle, ar Lôn Penmynydd ar gyrion Llangefni - yn agos at gampws Coleg Menai a'r ffordd gyswllt newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r safle lle mae'r cais i godi'r 32 o fythynnod gwyliau

Ar hyn o bryd mae'r safle yn borfa i anifeiliaid. Bwriad Anglesey Lodge and Caravan Ltd yw adeiladu 32 chalet gwyliau rhwng un a phedair llofft yr un.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys adeiladu derbynfa, ffyrdd newydd a mannau parcio.

Mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'r cynllun yn creu dwy swydd lawn amser a hyd at chwe arall rhan amser. Fe fyddai yna hefyd swyddi glanhau a chynnal a chadw.

Yn ôl Anglesey Lodge and Caravan Ltd: "Byddai'r cynnig yn gwneud defnydd o safle hygyrch iawn ar gyrion Llangefni ar gyfer datblygiad chalets o ansawdd uchel, a fyddai'n darparu llety a chyfleusterau o safon i ymwelwyr tra'n cael effaith gyfyngedig iawn a chwbl dderbyniol ar yr amgylchedd a buddiannau cadwraeth natur a bioamrywiaeth.

"Byddai'r cynnig hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol a gwerthfawr i'r economi leol drwy wariant ymwelwyr a chyflogaeth uniongyrchol, a fydd yn cynorthwyo i gefnogi teuluoedd a gwasanaethau lleol."

39 llythyr o wrthwynebiad

Ond mae sawl pryder wedi'u codi'n lleol, gyda Chyngor Tref Llangefni wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r cynllun. Mae'r cais hefyd wedi denu 39 llythyr o wrthwynebiad.

Mae tri o'r cynghorwyr sir lleol wedi llwyddo i sicrhau fod y mater yn mynd ger bron y pwyllgor cynllunio ac mai aelodau, yn hytrach na swyddogion, fydd yn gwneud y penderfyniad.

Ymysg y pryderon sydd wedi'u crybwyll mae lleoliad y datblygiad ger Ysgol y Graig a'r coleg, cynnydd mewn traffig, sŵn, yr effaith ar ecoleg ac addasrwydd y tir ar gyfer datblygiad o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Nicola Roberts mae pryderon wedi'u codi gan bobl sy'n byw gerllaw

Dywedodd Nicola Roberts, un o gynghorwyr sir ardal Llangefni wrth Cymru Fyw: "Be dwi wedi'i glywed gan sawl un yn lleol ydy fod nhw'n bryderus mai nid hwn ydy'r lle iawn am rywbeth fel hyn.

"Maen nhw'n derbyn yr estyniad i'r coleg ac Ysgol y Graig, ac fe fydd 'na fwy o dai preswyl yn cael eu hadeiladu'n agos, ond maen nhw'n teimlo bod hi'n hollol allan o le i roi llety gwyliau yna hefyd.

"Mae cynnydd traffig hefyd wedi'i godi efo fi a'r diffyg cyfleusterau addas, a sut mae am gael effaith ar wasanaethau doctor a iechyd lleol sydd hefyd o dan straen yn barod."

Cefnogaeth swyddogion

Ond mae swyddogion cynllunio'r cyngor yn credu fod y cais yn un derbyniol ac yn argymell fod cynghorwyr yn ei gymeradwyo.

Yn eu tyb nhw mae'r safle mewn "lleoliad cynaliadwy iawn gyda mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, siopau, llwybrau cyhoeddus, llwybrau beicio a rhwydwaith drafnidiaeth gynaliadwy".

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Sut y mae disgwyl i rai o'r chalets arfaethedig edrych

Mae eu hadroddiad yn mynd ymlaen i ddweud: "Byddai'r datblygiad wedi'i leoli ar dir isel, wedi'i amgylchynu gan goed a gwrychoedd.

"Mae cynllun tirweddu a choetir sylweddol wedi'i gynnig fel rhan o'r cais a fydd yn gwella bioamrywiaeth ac yn sgrinio'r datblygiad ymhellach o olwg y cyhoedd.

"Mae'r cynnig ar gyfer 32 sialé gwyliau a datblygiad cysylltiedig ar y safle hwn yn cyd-fynd â pholisïau perthnasol ac mae'n dderbyniol ar ôl pwyso a mesur yr ystyriaethau perthnasol."

Mae disgwyl penderfyniad pan fydd pwyllgor cynllunio Môn yn ymgynnull brynhawn Mercher, 1 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig