Minffordd: Mab yn euog o ddynladdiad Dafydd Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gael yn euog o ddynladdiad ei dad ger ei gartref ym Minffordd, Gwynedd.
Bu farw Dafydd Thomas, 65, o "anafiadau catastroffig i'w wyneb" ar ôl i'w fab gicio a sathru arno ym mis Mawrth 2021.
Roedd Tony Thomas, 45, yn cyfaddef ei fod wedi ymosod ar ei dad, ond yn gwadu ei lofruddio.
Gofynnodd y barnwr i'r rheithgor beidio ystyried cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn tystiolaeth seiciatryddion.
Roedden nhw'n cytuno bod yr achos yn cyrraedd y trothwy o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
'Achos arbennig o drasig'
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor fod gan Tony Thomas hanes o broblemau iechyd meddwl ers 1997, a'i fod wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol (bipolar).
Daeth rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i'r casgliad unfrydol ei fod yn euog o ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig.
Disgrifiodd y barnwr Rhys Rowlands yr achos fel un "arbennig o drasig".
Bydd asesiadau seiciatryddol pellach yn cael eu cynnal ar Mr Thomas, sydd ar hyn o bryd mewn ysbyty iechyd meddwl diogel.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener, 24 Chwefror yn Llys y Goron Caernarfon.
Yn ystod yr achos, fe glywodd y llys i Mr Thomas farw ar ôl dioddef "ergydion ailadroddus i'w wyneb".
Clywodd y rheithgor fod ei wraig wedi mynd i chwilio amdano ar y diwrnod a daeth o hyd i'w gŵr wrth ymyl ei gar gydag anafiadau sylweddol i'w wyneb a gwaed yn llifo.
Er i'r gwasanaethau brys gael eu galw, bu farw Dafydd Thomas yn y fan a'r lle.
Yn ôl yr erlyniad, fe gafodd Tony Thomas ei arestio yn hwyrach y prynhawn hwnnw tu allan i'w gartref gyda bag yn llawn dillad gwlyb oedd newydd eu golchi.
Yn ddiweddarach fe gafodd gwaed ei ddarganfod ar ei esgidiau.
Clywodd y llys fod Tony Thomas yn credu fod ganddo berchnogaeth neu hawl dros ran o'r tir oedd yn eiddo i'w dad.
'Profiad erchyll i'r teulu'
Wrth siarad â Tony Thomas ddydd Iau, dywedodd y barnwr fod y dystiolaeth yn ei erbyn yn "gryf".
Roedd hwn yn "achos arbennig o drist", meddai, gyda Dafydd Thomas "yn colli ei fywyd mewn cyfnod pan oedd o newydd ymddeol".
"Daeth hyn wedi blynyddoedd o waith caled iawn yn adeiladu busnes llwyddiannus," meddai'r barnwr, gan gyfeirio at gwmni Mr Thomas, Gwynedd Environmental Waste Service.
Fe gollodd Tony Thomas ei dymer mewn ffordd "ffrwydrol" ar 25 Mawrth 2021, ychwanegodd Rhys Rowlands, gyda phroblemau iechyd meddwl "cronig" aeth "dan y radar" yn arwain at hynny.
Dywedodd y byddai mwy o asesiadau seiciatryddol yn helpu'r llys i bennu, cyn dedfrydu, faint o gyfrifoldeb oedd gan Tony Thomas am yr ymosodiad o ystyried ei "salwch difrifol".
Wrth gloi, cymdymdeimlodd y barnwr gyda theulu Dafydd Thomas, gan ddweud bod "hwn yn brofiad erchyll iddyn nhw".
Argymhellion i swyddogion yr heddlu
Mewn datganiad ddydd Iau, fe ddywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod wedi ymchwilio i sut y gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymateb i ymosodiad honedig arall gan Tony Thomas wythnosau cyn iddo ladd ei dad.
Dywedodd y cyfarwyddwr, David Ford, fod Tony Thomas wedi cael ei arestio wedi'r digwyddiad ar 9 Mawrth a'i ryddhau'n ddiweddarach gan fod y "trothwy o dystiolaeth oedd angen ar gyfer cyhuddiad heb ei gyrraedd".
Yn dilyn ymchwiliad yr IOPC ddiwedd Mai 2022, dywedodd Mr Ford "nad oedd unrhyw achos i'w ateb am gamymddwyn gan unrhyw swyddog Heddlu Gogledd Cymru dan sylw.
"Ond fe ddaethom o hyd i rai achosion o dorri safonau proffesiynol gan swyddogion," meddai.
Dywedodd eu bod wedi gwneud sawl argymhelliad i Heddlu Gogledd Cymru ynghylch gwelliannau am bolisïau trais domestig, defnydd o gamerâu corff a hyfforddi swyddogion.
Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn yr argymhellion ac adlewyrchu ar ganfyddiadau'r ymchwiliad.
Ychwanegon eu bod "bob amser yn edrych i wella ein prosesau a'n hymateb i ddigwyddiadau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023