Cyflwyno bas data DNA cyntaf Cymru i atal dwyn cŵn
- Cyhoeddwyd
Heddlu Dyfed-Powys yw'r llu cyntaf yng Nghymru i gyflwyno gwasanaeth cofnodi DNA fel bod modd dychwelyd cŵn sy'n cael eu dwyn i'w perchnogion.
Cafodd y bas data ei greu mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn cŵn yn ystod cyfnodau clo'r pandemig.
Ers 2016, mae'n rhaid i berchnogion osod meicrosglodion yn eu cŵn, ond mae'n bosib i'r rheiny gael eu colli, eu dwyn neu eu tynnu o'r anifail.
"Mae DNA'r cŵn yn gysylltiad uniongyrchol gyda'r ci - nid oes modd ei newid," meddai'r Arolygydd Reuben Palin o Heddlu Dyfed-Powys.
"Felly os rydym yn cyflwyno gwarant, neu os yw'r RSPCA yn dod ar draws cŵn unrhyw le yn y wlad, unrhyw le yn y DU, gallen ni gynnal profion ar DNA y cŵn hyn a gweld os yw wedi cael ei ddwyn."
Gobaith y llu yw y bydd y system yn atal troseddwyr rhag ceisio dwyn anifeiliaid anwes.
"Os oes rhywun wedi dwyn ci, gyda'r system yma mewn lle bydd gennym ni dystiolaeth gref trwy DNA mai'r person yna sy'n gyfrifol, ac mae dedfryd o garchar yn bosib am hynny," meddai'r Arolygydd Palin.
Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan gwmni Cellmark Forensic Services, sydd wedi darparu gwasanaethau gwyddoniaeth fforensig i'r heddlu ers 30 mlynedd.
'Annog pawb i fanteisio ar y cyfle'
Bydd profion DNA yn costio tua £75, a dywedodd yr Arolygydd Palin ei fod yn credu bod hynny'n rhoi gwerth am arian.
"Unwaith mae ci yn cael ei ddwyn, dim ots ble, mae pryder y gymuned yn cynyddu. Os ydy'r gymuned yn ei gymryd o ddifrif, ry'n ni'n ei gymryd o ddifrif," meddai.
"Fydden i ddim eisiau i unrhyw beth ddigwydd i fy nghi i, felly bydden i'n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i gymryd DNA eu ci."
Os ydy ci sydd wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddwyn yn cael ei ganfod, gall yr heddlu wirio'r DNA a'i ddychwelyd i'w berchennog.
Ond mae buddion eraill i'r profion hefyd. Fe allai ddangos os yw'r ci yn fwy tebygol o gael rhai problemau iechyd penodol, a byddai hefyd yn dangos hanes teuluol y ci.
Dywedodd Tina Hooper o Gaerfyrddin ei bod yn credu ei fod yn syniad da, ac y bydd hi'n trefnu prawf DNA ar gyfer ei chi cockapoo, Bailey.
"Yn anffodus, mae cŵn yn cael eu dwyn, ac mae modd tynnu'r meicrosglodyn allan. Mae'r profion DNA yn fwy diogel," meddai.
"Mae gan fy mam gi a gafodd ei achub, felly fe fyddai'n ddiddorol gwybod beth yw'r bridiau sydd yna hefyd."
'Tawelu eich meddwl'
Ychwanegodd Dr Kevin Jones o Seren Vets yng Nghaerfyrddin y gallai fod yn ddefnyddiol gwybod a ydy ci yn fwy tebygol o ddatblygu afiechydon penodol.
"Os yw'r prawf yn dod yn ôl a bod rhywbeth dy'ch chi'n bryderus amdano, fe allech chi siarad gyda'ch milfeddyg a'u cael nhw i edrych drosto er mwyn tawelu eich meddwl," meddai.
Bydd mwy ar y stori yma ar X-Ray, 20:00 nos Lun ar BBC One Wales ac iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021