Bygwth trywanu perchennog wrth geisio dwyn ei gi

  • Cyhoeddwyd
James Cosens a'i gi Rosie
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James Cosens ei fygwth gan ddau ddyn a oedd yn ceisio dwyn ei gi bach, Rosie

Mae tafarnwr wedi disgrifio sut y brwydrodd yn erbyn dau ddyn a oedd wedi bygwth ei drywanu tra'n ceisio dwyn ei gi.

Roedd James Cosens, 29, yn mynd â Rosie, ei ast ddefaid 20-wythnos oed, am dro yng ngwarchodfa natur Morfa Berwig yn ardal Bynea, ger Llanelli ddydd Sul.

Llwyddodd y cyn-focsiwr amatur i achub y ci ar ôl troi ar ei ymosodwyr.

Mae nifer o achosion honedig o ddwyn cŵn wedi digwydd mewn rhannau o dde a de-orllewin Cymru yn ddiweddar.

Dywedodd Mr Cosens, sy'n cadw tafarn y Bell Inn yn Bynea, Llanelli, bod ei gi bach wedi rhedeg tuag at ddau ddyn, a bod un ohonynt wedi codi'r anifail yn ei freichiau.

Dywedodd y dyn ei fod yn cymryd yr ast, ac y byddai'n trywanu Mr Cosens pe bai'n ceisio ei chael hi'n ôl.

Dywed Mr Cosens na welodd unrhyw arf ym meddiant y dyn, ond fel cyn-focsiwr amatur pwysau godrwm nid oedd am adael i'r dynion gymryd ei gi ar chwarae bach.

"Fe wnes i daro fe unwaith yn ei wyneb - yn galed, ac aeth i lawr," meddai Mr Cosens.

"Wedyn roedd 'na dipyn o ffrwgwd gyda'r ddau ohonom ar lawr wrth i mi geisio cael Rosie yn ôl.

James Cosens a'i gi Rosie yn mynd am dro yng ngwarchodfa Morfa Berwig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Cosens yn mynd â'i gi am dro yng ngwarchodfa natur Morfa Berwig ar y pryd

'Acenion Gwyddelig'

"Daeth y dyn arall draw, a rhedodd y ci i ffwrdd. Mi wnes i wynebu'r boi arall, a llwyddo i godi Rosie lan a mynd oddi yno," meddai Mr Cosens.

Dywedodd fod un o'r dynion yn ei 40au a'r llall yn ei 20au, a bod gan y ddau acenion Gwyddelig.

Mae Mr Cosens wedi rhoi manylion yr ymosodiad ar y gwefannau cymdeithasol i rybuddio eraill, ac mae hefyd wedi cysylltu â'i AS lleol, Nia Griffiths.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae sawl achos honedig o ddwyn cŵn wedi cael eu cofnodi yn y de-orllewin yn ddiweddar.

Ym mis Ionawr cafodd dau berson eu harestio a'u rhyddhau ar fechniaeth gan Heddlu Dyfed-Powys, ar ôl i 80 o gŵn gael eu darganfod ar safle yn sir Gaerfyrddin.

Short presentational grey line

Pam bod achosion o ddwyn cŵn ar gynnydd?

Ci bach Labrador brown

Roedd 2020 yn un o'r blynyddoedd gwaethaf erioed am achosion o ddwyn cŵn, ac mae'n ymddangos bod eleni yn dechrau dilyn yr un patrwm.

Wrth i'r galw am gŵn bach fel anifeiliaid anwes gynyddu yn ystod y cyfnodau clo mae troseddwyr wedi gweld eu cyfle, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Amanda Blakeman, sydd hefyd yn aelod o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, bod y cyfle i wneud elw wedi gwneud y farchnad gŵn yn fwy deniadol i ladron.

Dywedod Ms Blakeman: "Gall dwyn cŵn fod yn drosedd ddinistriol i deuluoedd sy'n achosi gofid difrifol i berchnogion.

"Er ei bod yn drosedd brin iawn, rydym wedi gweld cynnydd yn ddiweddar.

"Yn ystod y pandemig mae troseddwyr wedi addasu eu gweithgaredd ac maent yn cymryd mantais o'r galw mawr am anifeiliaid anwes yn ystod y cyfnod clo.

"Mae cost ci bach wedi mynd i fyny'n sylweddol dros y flwyddyn diwethaf sydd wedi ei gwneud hi'n farchnad fuddiol iawn i droseddwyr."

Rhybuddiodd berchnogion i fod yn ofalus rhag rhoi lluniau o'u cŵn bach newydd ar y gwefannau cymdeithasol ac i brynwyr ystyried o ble y mae'r anifail wedi dod.

Beth yw gwerth eich ci?

Dywed Yr Ymddiriedolaeth Gŵn bod nifer y bobl oedd yn gwneud ymholiadau ynglŷn a mabwysiadu cŵn o ganolfannau achub, wedi cynyddu o 62% yn 2020, o'i gymharu â'r flwyddyn cynt.

Roedd yr elusen wedi gweld prisiau cŵn bach yn codi'n aruthrol, wrth i werthwyr fanteisio ar y galw hefyd.

Ac ar ddechrau Ionawr eleni roedd mwy na 1,000 o hysbysebion am gŵn ar wefannau mân hysbysebion - cynnydd o 59% ar yr un cyfnod yn 2020.

Mae'r pris am rai o'r bridiau mwyaf poblogaidd wedi parhau i godi.

Yn ôl yr elusen, roedd pris corhelgi (beagle) wedi codi 157% rhwng Mawrth a Rhagfyr 2020 - cynnydd ar gyfartaledd o £563.13 i £1,447.59.

Aeth prisiau'r brid chow i fyny 145% o £1,118.89 i £2,742.39 yn yr un cyfnod, yn ogystal â dachshunds a aeth i fyny mewn pris o £972.62 i £2061.54.

Mae prisiau cŵn tarw Ffrengig a chŵn smwt (pugs) wedi dyblu bron, ac mae cŵn tarw Seisnig bellach yn costio tua £2,666.74 o'i gymharu â £1,636.78 ym mis Mawrth y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Gŵn,  Owen Sharp nad oedd hi'n syndod bod troseddwyr yn manteisio ar y sefyllfa, ac mae'r elusen wedi galw am gosbau llymach gan y llysoedd.

"Nid yw dedfrydau presennol y llysoedd barn yn gwneud fawr ddim i atal lladron ac nid ydynt yn cymryd i ystyriaeth pa mor ddinistriol y gall dwyn cŵn fod i'w perchnogion.

"Mae cosbau am ddwyn cŵn yn cael eu penderfynu ar sail gwerth ariannol y ci, sy'n aml yn golygu fod troseddwyr yn cael dirwy sydd ddim yn adlewyrchu ergyd emosiynol colli cŵn ar deuluoedd."

Charlton KingsFfynhonnell y llun, Heddlu West Mercia
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 30 ci y credir iddyn nhw gael eu dwyn eu darganfod mewn fan yn Cheltenham ym mis Awst