Gwynedd: Cynllun hostel gwyliau i hen gartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Cartref Gofal Penisarwaun
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd y cartref gofal preifat yn 2018 ac mae wedi bod yn wag ers hynny

Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cais i droi cyn-gartref gofal yn hostel gwyliau.

Yn dilyn pryderon am y ffordd roedd yn cael ei redeg, fe gauodd cartref nyrsio Penisarwaun ei ddrysau yn 2018.

Mae'r adeilad wedi parhau'n segur ers hynny, ond mae cais cynllunio i drawsnewid yr adeilad ar gyfer defnydd gwyliau wedi hollti barn yn lleol.

Mae hynny er gwaethaf addewid y byddai'n hwb i economi dwristiaeth yr ardal.

'Gwir wella'r safle'

Roedd yna 20 o breswylwyr yng Nghartref Penisarwaun, ger Caernarfon, pan gaeodd y cyfleuster yng Ngorffennaf 2018.

Roedd wedi dod i'r amlwg bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi trefnu ymweliad dirybudd a darganfod bod y cartref wedi bod heb reolwr ers 2010.

Ond gyda chynlluniau o'r newydd ar gyfer y safle, bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cais yr wythnos hon i newid ei ddefnydd yn llwyr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ymysg pryderon Cyngor Cymuned Llanddeiniolen yw addasrwydd y lôn gul yn arwain i'r cyn-gartref gofal

Yn ôl y datblygwyr byddai modd darparu 30 llofft ar gyfer defnydd gwyliau, heb yr angen am waith ailwampio mawr ar gyfer y newid defnydd.

"Byddai'r cynnig yn arwain at gyflogi un warden llawn amser dros nos, gyda thri neu bedwar o weithwyr rhan-amser ar gyfer rolau amrywiol eraill," meddai'r datblygwyr fel rhan o'r cais cynllunio.

"Drwy ailddefnyddio adeilad sy'n wag ar hyn o bryd, byddai hynny'n wir wella'r safle.

"Byddai cyfleusterau lleol o fewn ardal gyfagos Llanrug hefyd yn elwa o'r cynnydd mewn twristiaid i'r ardal, megis y tafarndai, bwytai a siopau cyfleustra lleol."

'Cwestiynau i'w hateb'

Ond mae'r cynlluniau yn cael eu gwrthwynebu gan y cyngor cymuned leol, sy'n credu ei fod yn or-ddatblygiad.

Gan gredu fod 30 o ystafelloedd yn "ormod" i'r ardal, mae pryderon hefyd nad yw'r lôn gul sy'n arwain i'r safle yn addas.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Elwyn Jones, nad yw'n gwrthwynebu'r cais yn ei gyfanrwydd, er bod "rhai cwestiynau i'w hateb".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Elwyn Jones: "Mae'n rhaid pwyso a mesur"

"Dwi'n bersonol ddim yn gwrthwynebu ond yn deall beth ydi pryderon trigolion cyfagos," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae'n rhaid pwyso a mesur a gofyn y cwestiwn 'be arall allwn wneud efo adeilad fel hyn sydd wedi sefyll yn wag ers rhai blynyddoedd?'

"Mae 'na sôn am 30 ystafell, ond ydi hynny'n golygu 30 gwely ynta' 60 o wlâu?

"Yn amlwg mae angen ateb cwestiynau felly. Mae 'na bryderon am y lôn yn bendant, a 'swn i'n licio gweld gostwng yr uchafswm traffig gan ddylai hi ddim fod yn lôn 60mya."

'Amharu ar gymeriad yr ardal'

Mae'r pryderon am addasrwydd y ffordd hefyd yn cael eu rhannu gan adran drafnidiaeth Cyngor Gwynedd.

O ganlyniad mae adran gynllunio'r cyngor yn argymell gwrthod y cais, gydag adroddiad y swyddogion yn nodi: "Gan ystyried natur a delwedd y defnydd blaenorol fel cartref gofal i'r henoed (gyda uchafswm o 30 o breswylwyr parhaol), ystyrir gall y defnydd arfaethedig olygu cynnydd sylweddol yn natur a dwysedd defnydd y safle ar ffurf llety gwyliau.

"Fe all hyn, yn ei dro, amharu'n sylweddol ar gymeriad, delwedd a natur yr ardal leol ynghyd thanseilio mwynderau preswyl trigolion cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn.

"Ni ystyrir, felly, byddai'r defnydd arfaethedig yn cydweddu nac yn ffitio'n gyffyrddus i'w amgylchfyd."

Ychwanega'r swyddogion: "Rhagwelir byddai'r bwriad, oherwydd y nifer o ystafelloedd gwlâu a'r gallu i'r atyniad lletya nifer sylweddol o breswylwyr, cael ad-drawiad ar fwynderau preswyl trigolion lleol ar sail cynnydd mewn aflonyddwch sŵn a chyffredinol a fyddai'n tarddu o'r llety gwyliau/hostel arfaethedig."

Mae disgwyl penderfyniad pan fydd pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn ymgynnull brynhawn Llun.

Pynciau cysylltiedig