Tad merch ordew fu farw 'ddim yn gwybod' am ei chyflwr

  • Cyhoeddwyd
Kaylea Titford
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mis Hydref 2020

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o ddynladdiad ei ferch 16 oed, fu farw ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus, wedi dweud y byddai wedi gwneud rhywbeth am y peth pe bai'n gwybod ei bod yn y fath gyflwr.

Roedd gan Kaylea Titford gyflwr spina bifida, ac roedd yn ordew i raddau peryglus a chanddi nifer o ddoluriau oedd wedi eu heintio pan fu farw yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020.

Mae ei thad, Alun Titford, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Mae ei mam, Sarah Lloyd Jones wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.

Dywedodd Mr Titford, oedd yn rhoi tystiolaeth ddydd Mercher, fod Kaylea yn "hyfryd" a'i bod yn cael ei thrin yn union fel gweddill aelodau'r teulu.

Ychwanegodd y byddai wastad yn mynd gyda Kaylea a'i bartner - mam Kaylea, Sarah Lloyd Jones - pan oedd hi'n cael sawl llawdriniaeth yn ysbytai Alder Hey, Gobowen a Birmingham, ac y byddai'n aros dros nos gyda hi.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Titford yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ei ferch drwy esgeulstod difrifol

Dywedodd hefyd y byddai'n cymryd gofal am fwydo ac ymolchi ei ferch pan yn blentyn bach, ond ei fod wedi rhoi'r gorau i wneud hynny pan gyrhaeddodd ei harddegau.

"Roedd hi'n mynd yn hŷn. Doeddwn i ddim yn teimlo'n gyfforddus," meddai.

Wedi iddi gyrraedd oddeutu 13 oed, dywedodd Mr Titford mai mam Kaylea oedd yn llwyr gyfrifol am ei gofal, ac nad oedd ganddo unrhyw bryderon am safon ei gofal.

Ychwanegodd fod ei ferch wedi cael problemau gyda'i phwysau ers yn blentyn ifanc, a'u bod "wedi ceisio sicrhau ei bod hi'n bwyta'n iach" ar ôl cael cyngor gan ddietegydd.

Ond fe ddaeth hynny'n anoddach i'w fonitro wrth iddi fynd yn hŷn am y byddai'n "helpu ei hun a chael rhywun arall i gael pethau iddi", meddai.

'Fe fyddwn i wedi gwneud rhywbeth'

Soniodd Mr Titford hefyd am symudedd, Kaylea, gan ddweud ei bod yn gallu codi ei hun o'r gwely i gadair olwyn, a symud o amgylch y tŷ yn y gadair.

Dywedodd Mr Titford ei fod wedi gweithio oriau hir i gwmni symud dodrefn am sawl blwyddyn, a bod Sarah Lloyd Jones wedi cael swydd fel gofalwr yn 2018.

Ar ôl hynny byddai hi'n mynd adref i ofalu am Kaylea rhwng apwyntiadau, meddai.

Gofynnwyd iddo a oedd yn ymwybodol o gyflwr Kaylea yn Hydref 2020, ac atebodd: "Na. Pe byddwn yn gwybod, fe fyddwn i wedi gwneud rhywbeth am y peth."

Ychwanegodd ei fod wedi siarad gyda Kaylea y noson cyn iddi farw, ond nad oedd wedi mynd i mewn i'w hystafell.

Dywedodd ei fod wedi gofyn iddi a oedd hi'n iawn, a'i bod hi wedi dweud "ydw".

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alan Titford y byddai Kaylea yn "helpu ei hun" i fwyd yn ei harddegau

Yn cael ei groesholi gan yr erlyniad yn ddiweddarach, dywedodd Mr Titford ei fod "yr un mor gyfrifol" â'i bartner am farwolaeth Kaylea.

Yn gynharach yn yr achos roedd fideo o gamera corff heddwas wedi cael ei ddangos i'r llys, oedd yn dangos poteli o wrin ar y llawr ger gwely Kaylea, dillad gwely budr a sbwriel ar lawr.

Pan ofynnwyd i Mr Titford beth oedd yn ei feddwl wrth weld y fideo, dywedodd: "Wnes i ddim meddwl unrhyw beth - dyma'r ffordd ry'n ni'n byw."

Ychwanegodd y byddai'n mynd i weld Kaylea yn ei hystafell tua thair gwaith yr wythnos, ond nad oedd wedi bod i mewn yno am bron i fis cyn ei marwolaeth.

Gofynnwyd iddo pam fod hynny. "Dydw i ddim yn gwybod," meddai Mr Titford.

Gofynnwyd iddo hefyd a oedd hynny oherwydd bod cynrhon (maggots) yn yr ystafell. "Na, wnes i ddim eu gweld nhw," oedd ei ateb.

Ychwanegodd Mr Titford nad oedd yn cytuno fod yr amodau i Kaylea yn "annynol".

'Diog a blinedig'

Dywedodd ei fod yn cydnabod y gallai fod yn dad gwell, ond ei fod yn "ddiog a blinedig" ar ôl dod adref o'r gwaith.

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud "dim" i helpu ei bartner i ofalu am Kaylea, ei fod yn teimlo'n wael am hynny, ac y gallai pethau wedi bod yn wahanol pe bai wedi helpu.

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu wedi iddo gael ei arestio, cafodd Mr Titford ei holi pwy oedd ar fai fod Kaylea wedi dirywio i'r fath gyflwr, ac atebodd "Sarah a minna'".

Ychwanegodd ei fod yn dal i gytuno gyda hynny.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig