Ystradfellte: Agor cwest i farwolaethau cwpl fu farw

  • Cyhoeddwyd
Helen a Rachael PatchingFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Helen a Rachael Patching tra'n ymweld â Bannau Brycheiniog

Mae cwest wedi ei agor i farwolaethau dwy fenyw yn ardal Rhaeadr Ystradfellte ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Roedd Rachael a Helen Patching, oedd yn 33 a 52 oed ac yn dod o Gaint yn Lloegr, ar wyliau ym Mhowys fis diwethaf.

Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn galwad ar 4 Ionawr gan gerddwr oedd yn "credu ei bod wedi gweld corff yn y dŵr".

Cafodd corff Helen Patching ei ganfod o fewn dŵr y rhaeadr yn fuan wedi hynny.

Canfuwyd corff Rachel Patching bedwar diwrnod yn ddiweddarach wedi i aelod o'r cyhoedd ei weld yn Afon Nedd ar faes gwersylla rhwng Glyn-nedd a Resolfen, rhyw wyth milltir o Ystradfellte.

Yn dilyn profion post mortem, cafodd boddi ei nodi fel achos y marwolaethau dros dro.

Dywedodd y Crwner Patricia Morgan y byddai cwest ar y cyd yn cael ei gynnal i'r marwolaethau, ac y bydd hynny'n digwydd wedi i ymchwiliadau eraill ddod i ben.