McBryde: Warren Gatland yn 'creu annifyrrwch' i Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Robin McBryde a Warren Gatland yn 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Robin McBryde a Warren Gatland yn gweithio gyda'i gilydd - gyda Chymru a'r Llewod - am flynyddoedd

Ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw gyda thîm rygbi dynion Cymru, daeth cyfnod Warren Gatland fel prif hyfforddwr i ben yn 2019.

Yn ystod y cyfnod llwyddiannus hwnnw, cyn-fachwr Cymru, Robin McBryde oedd hyfforddwr y blaenwyr.

Yn rhan o dîm hyfforddi Leinster yn Iwerddon erbyn hyn, roedd yntau wedi'i synnu cymaint â neb wrth glywed am yr ail benodiad.

"Nes i gyfarfod [Warren Gatland] am goffi bach yn ystod Cyfres yr Hydref pan oedd o draw 'ma yn Gaerdydd, a doedd 'na ddim sôn yr adeg hynny," meddai'r Cymro.

"Felly nes i yrru neges testun sydyn iddo, jyst yn dweud: 'Waw. Nes i ddim gweld hwnna'n dod.'

"'Na finne chwaith', dyna o'dd yr ymateb ges i."

Robin McBryde
Disgrifiad o’r llun,

Mae McBryde bellach yn rhan o dîm hyfforddi Leinster

O dan arweiniad y gŵr o Seland Newydd, enillodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith gan gynnwys tair Camp Lawn.

Mae Robin McBryde yn teimlo fod dychwelyd yn rhoi tipyn o bwysau ar ysgwyddau Gatland.

"Wrth ystyried y record lwyddiannus sy' gynno fo efo Cymru, i ddod 'nôl a rhoi'r cwbl ar y lein, chwarae teg iddo fo."

Ond ar yr un pryd, mae'r ffaith ei fod e wedi dychwelyd ar ôl tair blynedd wedi achosi "tipyn o gynnwrf", yn ôl McBryde.

Ag yntau yn treulio mwyafrif ei amser gyda'r Gwyddelod, mae'n mynnu fod presenoldeb yr hyfforddwr profiadol yn chwarae ar feddyliau'r gwrthwynebwyr.

"Dwi 'di dod o Iwerddon yn ddiweddar, ac mae'r ffaith bod o wedi ailafael ynddi hi, yn barod mae 'di creu rhyw fath o annifyrrwch, a 'swn i'n meddwl bod y timau i gyd yn y bencampwriaeth yn meddwl, 'O, mae hwn 'di dod 'nôl. Damia'."

'Lot, lot fwy ffyddiog'

Mae'r cynnwrf hwnnw i'w deimlo hefyd mewn clybiau rygbi ar draws y wlad.

Yn ôl cefnogwyr yng Nghlwb Rygbi Bethesda yng Ngwynedd, mae'r gobeithion ar gyfer y gystadleuaeth wedi codi ers ei benodiad.

"Dwi'n meddwl bod yr hyn sydd wedi digwydd ers i Gatland ddod 'nôl, mae ysbryd Cymru wedi codi, mae ysbryd y timau i gyd wedi codi," meddai Susan Eccles.

"Mae rhywbeth wedi digwydd, a dwi lot, lot fwy ffyddiog. A dwi'n falch iawn hefyd mai Ken Owens sy'n gapten."

Warren Gatland yn 1999Ffynhonnell y llun, Sportsfile/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Warren Gatland yn brif hyfforddwr ar Iwerddon rhwng 1998 a 2001

Ychwanegodd: "Gobeithio rŵan fod Gatland yn ei ôl fod 'na fwy o hope. Coach da. Tîm da. Dwi'n meddwl nawn ni guro."

Er hynny, dyw'r cynnwrf dros lwyddiannau Warren Gatland ddim yn ddieithriad.

'Same old, same old'?

Ar ôl gadael Cymru yn dilyn Cwpan y Byd 2019, fe ddychwelodd y Kiwi adre' gan ymuno â chlwb y Chiefs yn 2020, ar gytundeb pedair blynedd.

Ag yntau wrth y llyw, fe gollodd y Chiefs naw gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed.

O dan gwmwl, fe adawodd Gatland am gyfnod dros dro er mwyn hyfforddi'r Llewod ar eu taith i Dde Affrica.

Ag yntau'n ohebydd newyddion gyda chwmni teledu TVNZ yn Seland Newydd, mae'r Cymro Dewi Preece yn dweud nad oedd y gohebwyr yno yn disgwyl y byddai URC yn troi 'nôl at Gatland.

"Petai chi wedi dweud wrtha' i fod yr Undeb yn chwilio am hyfforddwr newydd o Seland Newydd, byddai enw Gatland yn chweched, seithfed neu'n wythfed ar y rhestr," meddai.

"Achos mae 'na gwpl o hyfforddwyr ifanc cyffrous yn Seland Newydd, ond mae dychwelyd at Gatland efallai yn anysbrydoledig. Same old, same old mewn egwyddor."

Gatland a FarrellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Iwerddon, o dan arweiniad Andy Farrell (dde), ydy'r ffefrynnau clir ddydd Sadwrn

Fel prif ddetholion y byd, Iwerddon yw'r ffefrynnau clir cyn gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond wrth graffu ar hanes Gatland fel hyfforddwr Cymru, ennill saith, colli saith ac un gêm gyfartal yw'r record - a McBryde felly yn awyddus i danlinellu rhinweddau ei gyfaill.

"Mae ganddo hyder ynddo fo'i hun ac mae hynny'n trosglwyddo i'r hyfforddwyr ac wedyn lawr i'r chwaraewyr - bod y cynllun yn iawn," meddai.

"Mae o'n gofyn am y gorau oddi wrth y chwaraewyr, ac os maen nhw'n troi fyny a gweithio'n galed, yna fyddan nhw ddim yn bell iawn ohoni."