Cael diffibriliwr i glwb pêl-droed mab yn 'dawelwch meddwl'

Mae pêl-droediwr ifanc o Fôn, sy'n byw â chyflwr ar ei galon, yn dweud fod rhodd o ddiffibriliwr i'w glwb lleol yn golygu ei fod yn gallu parhau i chwarae gan boeni llai.

Daeth i wybod yn ifanc fod ganddo gyflwr sy'n effeithio ar guriad ei galon, ac roedd yn rhaid cyfyngu ar faint yr oedd yn gallu chwarae ac ymarfer.

Ond wedi'r rhodd mae Harri, 14, yn dweud fod modd iddo chwarae gyda llai o bwysau, gyda'r diffibriliwr yno hefyd i helpu unrhyw un allai fod ei angen.

Dywedodd mam Harri, Llinos, fod cael y ddyfais gerllaw ar gyfer gemau ei mab yn lleihau "poen meddwl" pe bai'r gwaethaf yn digwydd.

Ychwanegodd rheolwr y tîm y byddai'n hoffi gweld dyfais o'r fath i bob clwb, gan gyfeirio at chwaraewyr ar y lefel uchaf sydd wedi cael trafferthion calon.