Ateb y Galw: Helena O Sullivan

  • Cyhoeddwyd
Helena O SullivanFfynhonnell y llun, Helena O Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Helena O Sullivan

Bu canlyiad Cymru 10-34 Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn siomedig ddydd Sadwrn. Ond, un oedd wrth ei bodd â'r canlyniad oedd y Wyddeles sy'n byw yng Ngheredigion, Helena O Sullivan.

Helena, sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Tegwen Morris.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded o amgylch caeau'r fferm efo Granda a Dad yn Ballinasig, ger Dingle.

Ffynhonnell y llun, Helena O Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

'Fi a Granda'

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ardal Bontgoch a Tal-y-bont, Gogledd Ceredigion. Pam? Achos dyma lle rydyn ni'n magu ein teulu a lle rydyn ni fel teulu yn galw'n gartre, sydd yn cynnwys Twm, ein cath ni. Mae cymuned a ffrindiau da yma hefyd.

Ffynhonnell y llun, Helena O Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

'Twmi'r gath'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

14 Hydref 2004. Dyma'r noson gyntaf i mi fod yn fam.

Ffynhonnell y llun, Helena O Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

'Y plant, Oisín a Caoihme'

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Trefnus, cymdeithasgar a diamynedd!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mynd i'r ysbyty i gael Oisín fy mab. Doeddwn i ddim yn siŵr os byddan nhw'n fy nghadw fi mewn neu'n fy anfon adre ac fe wnes i benderfynu gadael y bag efo'r dillad ar gyfer y babi adre, a mynd efo bag o esgidiau a magasîns Hello! Ond fe wnaeth Oisín benderfynu dod, a dim ond pan wnaeth y fydwraig ddweud y dylen ni dynnu dillad y babi allan i gael ei gynhesu y gwnes i gyfaddef nad oedd gen i ddillad babi wedi eu pacio. Bu raid i fy ngŵr (oedd wedi bod yn cwyno ers oriau ei fod yn gorfod dragio bagiau o esgidiau a chylchgronau merched o un ward i'r llall o gwmpas yr ysbyty) yrru adre i'w nôl!

Ffynhonnell y llun, Helena O Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

'Y teulu. Ebrill 2020'

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Brexit!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos yma, wedi i fam un o fy ffrindiau gorau i o gartre yn Dingle farw.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Na sa i'n credu... ond dw i'n hollol siŵr byddai fy ngŵr i a'r plant yn anghytuno. Ond, fi sy'n cael ateb y cwestiynau!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Mae gyda fi ddwy hoff ffilm Cool Runnings a Pride. Mae'r neges yn y ddwy yn eitha tebyg - peidiwch byth â rhoi'r gorau iddi, a phwysigrwydd cyfeillgarwch.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Michael Collins - y chwildroadwr, milwr a'r gwleidydd Gwyddelig. Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes Iwerddon a fe fuodd yn byw yng Nghymru hefyd am sbel, wrth gwrs, pan oedd o'n garcharor yng ngwersyll Frongoch, ger y Bala.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu gwneud crochet.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti enfawr efo fy nheulu a'm ffrindiau.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dyma lun o'r teulu. Sion y gŵr, Oisín Lludd a Caoimhe Melangell. Fel mae'n digwydd, mewn gêm rygbi - Cymru v Iwerddon. Mae diddordeb gyda'r pedwar ohonom ni mewn chwaraeon amrywiol, ond gall bod helynt weithiau pan fydd Iwerddon v Cymru!

Ffynhonnell y llun, Helena O'Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Gwylio Cymru'n chwarae rygbi yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Principality

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Neb. Dw i'n hapus i fod yn fi fy hun!

Hefyd o ddiddordeb: