Galw am gynyddu y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 i £55

  • Cyhoeddwyd
Keira
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Keira ei bod yn aml yn talu o'i phoced ei hun i gael yr hanfodion sydd eu hangen arni ar gyfer y dosbarth

Dywed myfyrwraig coleg ei bod yn derbyn yr un faint o arian i gefnogi ei hastudiaethau ag y cafodd ei brawd bron i 20 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Keira, 16, ei bod yn rhy aml yn gorfod defnyddio ei harian ei hun i gyrraedd yr ysgol a phrynu deunyddiau celf angenrheidiol.

Mae galwadau i godi'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 i £55 yr wythnos yn sgil pwysau costau byw uchel.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i ddysgwyr.

Prisiau heddiw 'mor ddrud'

Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, dolen allanol ar gael i fyfyrwyr 16 i 19 oed mewn addysg amser llawn sydd ag incwm blynyddol yn y cartref o lai na £25,000.

Dywedodd Keira - myfyriwr celf o Fethesda, Gwynedd- fod y lwfans wedi aros yr un fath ers i'w brawd 31 oed fod yn yr ysgol yn 2004.

"Roedd yn iawn achos doedd y prisiau ddim yr un peth bryd hynny, nawr bod prisiau mor ddrud, fe fyddwch chi'n defnyddio talpiau mawr o'ch arian dim ond i gyrraedd llefydd," meddai.

"Mae'n anodd iawn cadw at y gyllideb honno. Yn y pen draw, rydyn ni'n defnyddio ein harian ein hunain llawer o'r amser."

Fel 60,000 o fyfyrwyr coleg a chweched dosbarth yng Nghymru, mae'n cael lwfans £30 yr wythnos i helpu i dalu costau addysgol.

Ond dywedodd nad yw'r arian yn talu am bopeth sydd ei angen arni i astudio, gyda chyflenwadau celf a theithio yn brif gostau iddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r myfyrwyr coleg Rosie a Carys yn meddwl y dylai mwy o bobl allu hawlio'r lwfans oherwydd ei fod yn rhoi annibyniaeth ariannol

"Bob tair wythnos mae angen i mi gael mwy o gyflenwadau, oherwydd yn amlwg ni all coleg roi popeth i ni ac mae cymaint o wahanol adnoddau ar gyfer celf.

"Mae pennau ysgrifennu acrylig yn cymryd fy ngwariant am yr wythnos gyfan, hynny yw tua £30 ar gyfer pennau acrylig gwirioneddol dda."

Ar ben hynny, mae'n rhaid i Keira wario £5 neu £6 am docyn oedolyn i fynd i unrhyw le ar fws y tu allan i oriau coleg.

Mae hi ar fwrdd elusen leol sy'n cefnogi pobl ifanc ddigartref a dywedodd: "Dwi'n meddwl eu bod nhw, yn fwy na neb, yn medru tystio faint mae'r arian yma yn helpu, ond dyw e ddim yn ddigon."

Mae Rosie, 17 a Carys, 16, yn astudio gofal plant mewn coleg yn ne Cymru ac mae'r ddwy yn defnyddio'r lwfans i dalu am eu biliau ffôn, cludiant a hanfodion.

"Pe na bai gen i'r lwfans dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i'n ei wneud, mae'n debyg y byddwn i'n dibynnu ar deulu ac yn teimlo'n ofnadwy am y peth gan eu bod yn talu biliau mawr," meddai Rosie.

"Yn 2004 roedd costau byw yn isel iawn, ddim mor uchel ag y maen nhw nawr, ac fe ddylem ni gael ychydig o godiad i helpu."

I Carys, mae'r lwfans yn bwysig oherwydd mae'n golygu y gall fynd i'r coleg a chynnal ei hun.

"Nid oes gan bawb arian. Rwy'n meddwl y byddai [y cynnydd] yn helpu pawb gan fod costau'n cynyddu a gallant fod yn fwy annibynnol."

Mae Luke Fletcher, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, a gafodd gefnogaeth gan y Lwfans Cynhaliaeth Addysg pan oedd yn yr ysgol, eisiau ei weld yn cynyddu £25, yn unol â chwyddiant.

Codwyd y mater hefyd yn y Senedd ddydd Mawrth gan yr AS Llafur dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges a alwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i godi'r lwfans i helpu i frwydro yn erbyn tlodi.

'Gwarchod'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Yn wahanol i Loegr lle cafodd ei ddileu, mae Cymru wedi parhau i warchod y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

"Ochr yn ochr â'r taliad, rydym yn darparu cymorth ar gyfer costau cludiant a gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn helpu dysgwyr cymwys mewn coleg addysg bellach yng Nghymru sy'n wynebu anawsterau ariannol."

Maen nhw hefyd yn annog dysgwyr i ofyn i'w colegau pa gymorth sydd ar gael.

Gallwch wylio BBC Wales Live ar BBC One Wales ddydd Mercher neu ar iPlayer.