Dyn Gwyrdd: 'Gwerthwch fferm a brynwyd am £4.25m' medd AS

  • Cyhoeddwyd
Green ManFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes disgwyl i brif ŵyl y Dyn Gwyrdd ei hun symud i'r safle

Mae llywodraeth Lafur Cymru wedi cael ei hannog gan un o'i haelodau meinciau cefn ei hun i werthu fferm ger Aberhonddu a brynwyd am £4.25m.

Dywedodd Mike Hedges na ddylai'r llywodraeth fyth fod wedi prynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Roedd y pryniant yn ddadleuol ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r safle cyn i'r Dyn Gwyrdd gyflwyno cynllun busnes llawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.

Perygl o lifogydd

Yr wythnos diwethaf dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, fod gweinidogion wedi gweithredu "gyda brys osgoadwy" i brynu'r fferm.

Ychwanegodd nad oedd swyddogion "yn cadw cofnod o'r materion a drafodwyd" gyda'r cwmni mewn cyfarfodydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y caffaeliad yn dilyn "prosesau priodol" a'i fod yn "werth am arian".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn mwynhau'r wŷl yn 2021

Mae swyddogion wedi bod yn trafod prydlesu'r safle i gwmni'r ŵyl.

Er nad oes disgwyl i brif ŵyl y Dyn Gwyrdd ei hun symud i'r safle, mae swyddogion wedi dweud wrth gynghorwyr bod cynlluniau i gynnal tri chynulliad y flwyddyn ar gyfer cymaint â 3,000 o bobl ar y fferm.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n dweud bod y perygl o lifogydd ar y safle yn "gymedrol i uchel".

"Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ddefnydd da o adnoddau," meddai Aelod o'r Senedd Dwyrain Abertawe, Mr Hedges.

"Mae gennym ni bethau y gallwn eu gwneud gyda'r math yna o arian, gan gynnwys gwaith adfer gydag ysgolion.

"Dydw i ddim yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ymwneud ag ariannu prosiectau twristiaeth."

'Masnachol ai peidio?'

Gan ddweud fod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, sy'n derbyn cymorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru "ychydig yn wahanol," gofynnodd: "Faint mae gwyliau cerdd ym mhob cwr o Brydain yn ei gael gan awdurdodau lleol neu lywodraeth San Steffan?"

Maen nhw'n fentrau masnachol, meddai. "Dwi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i rai sefydliadau benderfynu a ydynt yn fasnachol ai peidio."

Dywedodd Mr Hedges na ddylai Llywodraeth Cymru "fyth fod wedi mynd i mewn iddo yn y lle cyntaf".

Pan ofynnwyd iddo a ddylai Llywodraeth Cymru werthu'r safle, atebodd "dylai."

"Os yw'r Dyn Gwyrdd eisiau ei brynu, does gen i ddim problem gyda'i werthu i'r Dyn Gwyrdd am y pris a dalon ni".

"Un o fy mhryderon go iawn yng Nghymru yw bod obsesiwn â ffermio a thwristiaeth, heb sylweddoli nad nhw yw'r diwydiannau sy'n eich gwneud chi'n gyfoethog.

"Mae'n ymddangos bron fod gennym ni bolisi economaidd sy'n edrych ar Wlad Groeg ac yn dweud y gallwn ni efelychu hynny."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'i fath yng Nghymru

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad o 2022 sy'n dweud bod y perygl llifogydd cyffredinol ar gyfer y safle yn "gymedrol i uchel".

"Er nad yw'n ymddangos bod ardal adeiledig y safle mewn perygl o lifogydd o'r afon, fe allai ardaloedd mawr o dir âr orlifo i ddyfnder sylweddol," meddai.

"O ganlyniad, fe allai cnwd gael ei golli yn ystod llifogydd, gyda goblygiadau ariannol posib," meddai'r adroddiad.

Cyhoeddwyd yr adroddiad mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.

Mae'r un cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu dau adroddiad prisio - un yn rhoi'r safle ar brisiad o £4.325m gan Knight Frank, ac un arall gan Powells a asesodd dir, tŷ ac adeiladau'r safle ar £4.25m.

Mae prisiad Knight Frank yn nodi bod y fferm 241 erw yn cynnwys ffermdy rhestredig gradd II gyda saith ystafell wely, safle pebyll, a pherllan gymunedol.

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cael cais am sylw.