Casgliad ymchwiliad 'yn sarhad' wedi i fab golli bys

  • Cyhoeddwyd
Raheem a'i famFfynhonnell y llun, Rob Browne/Wales Online
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Raheem, Shantal, fod ei mab wedi bod yn cael ei fwlio

Mae Mam i fachgen 11 oed gollodd ei fys yn dilyn ymosodiad honedig wedi dweud bod casgliad ymchwiliad yr heddlu yn "sarhad".

Mae Shantal Bailey yn dweud i'w mab, Raheem, anafu ei fys tra'n ffoi rhag disgyblion oedd yn ei fwlio a'i sarhau yn hiliol yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ym Mlaenau Gwent.

Wedi naw mis, casgliad ymchwiliad yr heddlu oedd nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r anaf.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Bailey ei bod yn "siomedig tu hwnt" ac ychwanegodd ei chyfreithwyr y byddai'n gwneud cwyn i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn cymryd adroddiadau o'r fath "o ddifrif".

Dywedodd Ms Bailey ar y pryd fod criw o blant wedi ymosod ar ei mab ar 17 Mai, 2022 gan ei gicio pan oedd ar y llawr.

Ychwanegodd fod Raheem wedi cael llawdriniaeth ar ôl iddo anafu ei fys tra'n dringo ffens wrth ffoi, a bu'n rhaid i feddygon dorri ei fys.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Raheem oriau o driniaeth wrth i feddygon geisio achub ei fys

Ddydd Gwener, fe ddywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cwblhau eu hymchwiliad.

Dywedodd y llu fod yr achos yn un "cymhleth" ond bod Raheem wedi "gadael tir yr ysgol o'i wirfodd, ac nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig ag ef yn dioddef yr anaf i'w law."

'Panig ac anobaith'

Mewn ymateb ddydd Sadwrn, dywedodd Ms Bailey ei bod "yn glir eu bod [yr heddlu] wedi cymryd, yn arwynebol, holl fersiynau eraill y digwyddiad heblaw am un Raheem.

"Ond fe yw'r dioddefwr yn hyn ac mae wedi cael ei adael gydag atgof corfforol parhaol o'r boen y dioddefodd y diwrnod hwnnw."

Dywedodd fod yr heddlu wedi "awgrymu i mi mai dyma oedd y canlyniad tebygol" ond bod casgliad yr ymchwiliad yn "sarhad".

"Mae dweud nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r hyn ddigwyddodd i Raheem yn sarhad llwyr ac mae pwynt yr heddlu ynglŷn ag e'n gadael yr ysgol o'i wirfodd yn amherthnasol.

"Fe wnaeth hynny mewn panig ac anobaith pur, a adawodd iddo deimlo fel pe na bai ganddo ddewis heblaw am adael tir yr ysgol...

"Mae angen mynd i'r afael â'r aflonyddwch a achosodd iddo ffoi o'r ysgol mewn braw, a sut y gallodd wneud hynny heb ei herio gan unrhyw oedolyn cyfrifol."

Ffynhonnell y llun, Rob Browne/Wales Online
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shantal Bailey'n dweud fod Raheem wedi gorfod gadael yr ysgol oherwydd "panig ac anobaith pur"

Mae cyfreithwyr y teulu wedi "adleisio" datganiad Ms Bailey, gan ddweud y byddan nhw'n cefnogi ei chwyn i'r IOPC ynglŷn â sut wnaeth yr heddlu ddelio gyda'r digwyddiad.

Ychwanegon eu bod yn ymchwilio i hawliad cyfreithiol sifil yn erbyn Cymuned Ddysgu Abertyleri ynglŷn ag esgeulustod.

"Dylid ail-edrych ar y ffrwgwd a arweiniodd ato'n gadael yr ysgol," dywedodd Frances Swaine o gwmni cyfreithwyr Leigh Day.

"Roedd Raheem wedi bod yn sôn am y bwlio yr oedd wedi'i ddioddef ers misoedd ond roedd yn teimlo nad oedd yr ysgol wedi gwneud dim i'w helpu."

Yn y cyfamser, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi dweud eu bod yn comisiynu adolygiad annibynnol i nodi unrhyw wersi i wella'r ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Er fod Ms Bailey yn "croesawu'r cyhoeddiad" ynghylch yr adolygiad, dywedodd ei bod "wedi ei ffieddio" na chafodd wybod "yn uniongyrchol ac yn lle hynny, fe glywais gan y wasg".

'Cyfnod anodd i bawb'

Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth swyddogion "gyfweld â nifer o bobl o dan rybudd, ac wedi archwilio lluniau teledu cylch cyfyng o'r ysgol.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda thîm arweinyddiaeth yr ysgol a'r awdurdod lleol ac yn gwerthfawrogi eu cydweithrediad trwy'r ymchwiliad cymhleth hwn.

"Rydyn ni i gyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gadw plant yn ddiogel."

Dywedon hefyd eu bod wedi cyfarfod a theulu Raheem i roi gwybod iddynt am ganlyniad yr ymchwiliad.

Wrth gyhoeddi y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent fod eu meddyliau gyda Raheem a'i deulu.

"Yn gyntaf, mae person ifanc wedi dioddef anaf a newidiodd ei fywyd.

"Fe wnaeth y Gymuned Ddysgu bopeth i gefnogi'r holl ddysgwyr gafodd eu heffeithio, gan gynnwys gwneud popeth posibl i ofalu am y dysgwr gafodd ei anafu ar adeg y digwyddiad.

"Mae'r ysgol a'r Cyngor wedi cefnogi'r ymchwiliad yn llawn o'r cychwyn cyntaf, ac wedi cydweithredu yn ôl y gofyn gyda phob agwedd ar gasglu tystiolaeth.

"Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb a gymerodd ran."