'Anodd dychmygu colledion a thrawma' Twrci a Syria
- Cyhoeddwyd
Mae'n anodd dychmygu'r colledion a'r trawma sy'n wynebu pobl Twrci a Syria wedi'r daeargrynfeydd, yn ôl un offeiriad sydd â chysylltiad â'r ardal.
Mae gan y Tad Deiniol gyfeillion yn byw ar y ffin rhwng y ddwy wlad, a hynny wedi iddo ymweld â'r lle sawl gwaith.
Erbyn hyn, mae dros 30,000 wedi eu darganfod yn farw ers y drychineb ddydd Llun.
Gyda sawl apêl am gymorth ac arian, mae ymgyrch DEC (Pwyllgor Argyfyngau Brys) Cymru wedi casglu dros £1.9m i'r gwledydd.
Mae'r Tad Deiniol, sy'n Offeiriad Uniongred, wedi ymweld â'r ardal yn Nhwrci sawl gwaith, ac mae ganddo ffrindiau yno.
"Wrth adnabod yr ardal, yn enwedig Twrci, wrth gwrs mae'r peth yn fwy trawiadol a rhywun yn ymwybodol o gysylltiadau gydag unigolion," dywedodd ar raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru.
"Dw i wedi cysylltu gyda nifer, wnes i gysylltu gyda ffrindiau o Adana.
"Mae'r teulu yn iawn ond mae 'na ddinistr mawr yno."
Dywedodd fod teulu ffrind arall ger Gaziantep hefyd yn ddiogel.
"Wrth gwrs, maen nhw'n bryderus iawn ac yn drallodus iawn oherwydd y sefyllfa ddifrifol, y miloedd o rai eraill," meddai.
"Mae'n hunllef, mae'n anodd dychmygu'r fath ddinistr, y fath golledion a'r trawma fydd i rai sydd wedi goroesi hyd yn oed."
Dywedodd fod nifer yn gofyn "cwestiynau dyfnion" am sut allai'r fath drychineb ddigwydd.
Nodyn cadarnhaol yng nghanol y dinistr yw fod pobl yn barod i roi, yn ôl Nan Powell o fudiad Cymorth Cristnogol Cymru.
"Dan ni jyst yn gweld haelioni pobl, fod pobl jyst isio rhoi," dywedodd.
Mae Cymorth Cristnogol yn un o'r 14 o fudiadau sy'n cydweithio fel rhan o DEC i helpu gwledydd mewn angen.
"Be sy'n diwgydd pan fo DEC yn dod at ei gilydd yw cydweithio, a bod yr hyn sy'n digwydd mewn argyfwng, yn digwydd yn gyflym... bod anghenion y bobl yn cael eu cyrraedd yn fwy effeithiol," meddai.
"Mae arian yn gallu cael ei gyfnewid yn gyflym iawn... y gri ydy i bobl gyfrannu yn ariannol."
'Ddim yn deall maint y trychineb'
Erbyn hyn, mae £1.9m wedi'i godi yng Nghymru mewn tridiau gan yr apêl, a hynny yn "anhygoel" yn ôl Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru, Siân Stephen.
"Mae'r trychineb wedi cael effaith fawr ar bobl ac maen nhw'n gwneud eu gorau i wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa," meddai.
"Dydyn ni dal ddim yn llawn deall maint y trychineb sy' wedi taro Twrci a Syria yn eto, ond be' 'dan ni yn gwybod yw bod angen i ni barhau i gynyddu'r ymateb dyngarol ar frys.
"Mae eich cefnogaeth chi yn gwneud hyn yn bosib."
Mae mosg yng Nghaerdydd ymhlith y sefydliadau sydd hefyd wedi dechrau codi arian er mwyn ceisio helpu pobl yn yr ardal sydd wedi'u heffeithio gan y daeargryn.
Eisoes mae Mosg Dar Ul-Isra yn ardal Cathays y ddinas wedi codi £25,000, yn ogystal â phum fan llawn dillad ac esgidiau.
Maen nhw wedi gosod targed o £50,000, ac mae rheolwr y mosg yn dweud bod pobl o'r gymuned Fwslemaidd a thu hwnt wedi bod yn cyfrannu'n barod.
"Fel pobl, mae angen i ni fod yn unedig," meddai Dr Mohamed Gaber. "Yn anffodus, hwn yw un o'r unig resymau i wledydd gwahanol ddod at ei gilydd, a dyna ochr bositif y trychineb yma.
"Mae hwn yn achos dyngarol llwyr, sydd ar wahân i unrhyw ideoleg neu grefydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023